Mr Matthew Townsend

Mr Matthew Townsend

Lecturer in Healthcare Education- Adult Field

Canolfan Addysg Gofal Iechyd

Manylion Cyswllt

Proffil

Mae Matt Townsend yn Ddarlithydd Nyrsio Maes Oedolion sy'n cyfrannu at bob un o raglenni astudio yr Adran Addysg Gofal Iechyd yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae gan Matt brofiad helaeth o weithio mewn prifysgol a, chyn ei hyfforddiant nyrsio, bu'n Ddarlithydd Cyswllt mewn Astudiaethau Ffrangeg ym Mhrifysgol Caerdydd a Darlithydd Gwadd ym Mhrifysgol Abertawe. 

Meysydd arbenigedd clinigol Matt yw: llawfeddygaeth frys; nyrsio gofal critigol (gofal dwys); a nyrsio colorectol. Fel academydd clinigol, mae Matt yn ymchwilydd brwd ac mae wedi cyhoeddi erthyglau a adolygwyd yn ddall gan gymheiriaid ar Ganser y Coluddyn a Hyrwyddo Iechyd Cyhoeddus; Marwolaeth a Marw; a  Covid -19 a darpariaeth addysg myfyrwyr nyrsio yn ystod y pandemig.

Yn ystod Covid -19, gwahoddwyd Matt i eistedd ar bwyllgor llywio ar gyfer astudiaeth ymchwil ansoddol a ariannwyd gan UKRI ac a gynhaliwyd ar y cyd rhwng Prifysgol Brookes Rhydychen a Phrifysgol Caerdydd. Gwaith y pwyllgor oedd arfarnu'n feirniadol barodrwydd Sefydliadau Addysg Cymeradwy ar gyfer addysg nyrsio yn ystod Covid -19. Yn ystod ei gyfnod ar y pwyllgor fel cynrychiolydd Cymru, darparodd Matt gyngor ac ymgynghoriad arbenigol ar gyfeiriad yr astudiaeth a lledaeniad canfyddiadau'r ymchwil.

Mae Matt, sy'n academydd hoyw agored, hefyd wedi hyrwyddo ac ar hyn o bryd yn arwain cynllun peilot Cymru gyfan sy'n ceisio sicrhau bod darpariaeth addysg nyrsio bresennol yn blaenoriaethu cymhwysedd diwylliannol a hyfforddiant cytgord wrth ofalu am gleifion a defnyddwyr gwasanaeth LHDTC+. Gyda dim ond llond llaw o sefydliadau dros y Deyrnas Unedig yn cynnig hyfforddiant o'r fath fel rhan o'u cwricwla dangosol, mae Matt yn sicrhau bod Prifysgol Aberystwyth yn sefydlu ei hun fel sefydliad blaenllaw a chanolfan ragoriaeth ar gyfer gwelededd a chynhwysiant LHDTC+ mewn rhaglenni addysg gofal iechyd. 

Gwybodaeth Ychwanegol

CYNADLEDDAU/SEMINARAU

Mae Matt wedi siarad mewn sawl cynhadledd fel prif siaradwr gwadd ym meysydd arbenigedd ei ymchwil ac mae'n croesawu gwahoddiadau i siarad yn unol â'i ddiddordebau ymchwil a chyhoeddi

Ymchwil

Diddordebau Ymchwil:

  • Marwolaeth a marw
  • Gofal diwedd oes
  • Myfyrdod fel cyfrwng ar gyfer rhagoriaeth glinigol
  • Gwelededd a chynhwysiant LHDTC+ mewn gofal iechyd
  • Ymarfer nyrsio trawsddiwylliannol
  • Methodoleg newid a gwella ansawdd mewn gofal iechyd

Ar hyn o bryd mae Matt yn ysgrifennu llyfr a'i enw (ar hyn o bryd) yw Conversations at my patients' bedsides: what nursing the dying and teach us about living.

Mae hefyd yn drafftio pennod ar welededd a chynwysoldeb LHDTC+ mewn gofal iechyd a rôl y nyrs wrth sicrhau dull o weithredu sy'n gymwys yn ddiwylliannol.

Mae Matt yn croesawu datganiadau o ddiddordeb ar gyfer prosiectau ymchwil / cyhoeddi cydweithredol.

Cyfrifoldebau

  • Tiwtor Derbyniadau 
  • Cydlynydd LHDTC+