Manod Williams BSc Amaethyddiaeth a Gwyddor Da Byw (PA), MSc Gwyddor Da Byw (PA), PhD Hwsmonaeth Manwl-Gywir Da Byw (PA), TUAAU (PA)

Darlithydd mewn Biomilfeddygaeth a Gwyddor Anifeiliaid
Manylion Cyswllt
- Ebost: maw90@aber.ac.uk
- ORCID: 0000-0002-9392-1700
- Swyddfa: 1.14, IBERS Penglais
- Ffôn: +44 (0) 1970 622925
- Twitter: @IBERSagri
- Google Scholar: https://scholar.google.co.uk/citations?user=KO9QwvsAAAAJ
- Proffil Porth Ymchwil
Proffil
Graddiais gyda BSc mewn Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth yn 2012. Yna bues yn ffodus i ennill ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (CCC) i astudio ar gyfer MSc mewn Gwyddor Da Byw (a gwblhawyd yn 2014) ac yna PhD yn y gwyddorau da byw eto yn IBERS (cwblhawyd 2019). Canolbwyntiodd fy PhD ar ddatblygu technegau i nodi ymddygiad gwartheg godro ar dir pori yn awtomatig gan ddefnyddio synwyryddion arwahanol, yn y pen draw i gefnogi ffermwyr fel offeryn rheoli. Fel rhan o ysgoloriaeth y CCC, roeddwn yn ymwneud â datblygu darpariaeth addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ym maes Systemau Cynhyrchu Da Byw. Ar hyn o bryd rwy'n addysgu Systemau Cynhyrchu Da Byw i bob blwyddyn israddedig FdSc a BSc yn ogystal â myfyrwyr MSc. Rwyf hefyd yn cyfrannu at sawl modiwl arall gan gynnwys Maeth Da Byw, Adolygiad Critigol a Dulliau Ymchwil. Yn fy amser fy hun, rwy'n mwynhau beicio, rhedeg a thyfu llysiau!
Dysgu
Module Coordinator
- BG36320 - Adolygiad critigol
- RG23420 - Systemau Cynhyrchu Da Byw
- BG11410 - Cyflwyniad i Systemau Cynhyrchu Da Byw
- BRM5420 - Livestock Production Science
- BG20420 - Systemau Cynhyrchu Da Byw
- BR36320 - Critical Review
- RG10810 - Cyflwyniad i Systemau Cynhyrchu Da Byw
- BR30820 - Livestock Production Science
- BG30820 - Gwyddor Cynhyrchu Da Byw
Lecturer
- BG11410 - Cyflwyniad i Systemau Cynhyrchu Da Byw
- BR36320 - Critical Review
- BRM5420 - Livestock Production Science
- BRM6160 - MRes Dissertation (B)
- RG10810 - Cyflwyniad i Systemau Cynhyrchu Da Byw
- BG20420 - Systemau Cynhyrchu Da Byw
- RD23420 - Livestock Production Systems
- BR20420 - Livestock Production Systems
- BR30820 - Livestock Production Science
- BG25620 - Dulliau Ymchwil
- BR25620 - Research Methods
- BRM6420 - Research Methods in the Biosciences
- RG23420 - Systemau Cynhyrchu Da Byw
- BBM6420 - Manwl Fagu Da Byw
- BG30820 - Gwyddor Cynhyrchu Da Byw
- VE10430 - Animal Husbandry
- BG36320 - Adolygiad critigol
- BRS0060 - Integrated Year in Industry
- BR36440 - Research Project
Tutor
- BG11410 - Cyflwyniad i Systemau Cynhyrchu Da Byw
- VE10430 - Animal Husbandry
- BR11410 - Introduction to Livestock Production Systems
- BR20420 - Livestock Production Systems
- BRM6420 - Research Methods in the Biosciences
- RD23420 - Livestock Production Systems
- BR36320 - Critical Review
- BG30820 - Gwyddor Cynhyrchu Da Byw
- BG36320 - Adolygiad critigol
- BRM5420 - Livestock Production Science
- RG23420 - Systemau Cynhyrchu Da Byw
- BG12410 - Sgiliau Astudio a Chyfathrebu
- BG20420 - Systemau Cynhyrchu Da Byw
- RG10810 - Cyflwyniad i Systemau Cynhyrchu Da Byw
- BR12410 - Study and Communication Skills
- BR30820 - Livestock Production Science
- RD10810 - Introduction to Livestock Production Systems
Grader
- BRM1620 - Infection and Immunity
- BRM2860 - MBiol Research Project
- BRM6420 - Research Methods in the Biosciences
Coordinator
- BG36320 - Adolygiad critigol
- RG10810 - Cyflwyniad i Systemau Cynhyrchu Da Byw
- BG30820 - Gwyddor Cynhyrchu Da Byw
- RG23420 - Systemau Cynhyrchu Da Byw
- BG20420 - Systemau Cynhyrchu Da Byw
- BR30820 - Livestock Production Science
- BRM5420 - Livestock Production Science
- BG11410 - Cyflwyniad i Systemau Cynhyrchu Da Byw
- BR36320 - Critical Review
Course Viewer
Moderator
Ymchwil
Mae fy niddordebau ymchwil ym maes technegau Ffermio Da Byw Manwl-gywir (FfDBMG) i gynorthwyo ffermwyr i reoli eu da byw. Mae FfDBMG eisoes yn cyfrannu at reoli da byw ar lefel fferm, gan ganiatáu i ffermwyr, ymarferwyr milfeddygol ac eraill sy'n gysylltiedig gael mwy o wybodaeth ar sut mae eu hanifeiliaid yn ymddwyn ac yn perfformio. Gyda'r wybodaeth hon, efallai y bydd modd nodi materion yn gynharach, gan gynnwys materion sy'n arwain at berfformiad a lles gwael. Ynghyd â chydweithwyr, ar hyn o bryd rwy'n ymwneud ag ymchwil FfDBMG gyda ffocws ar fonitro ymddygiad bwydo gwartheg ac ymddygiad defaid ar borfa gyda'r bwriad o ddeall yn well effaith baich parasitiaid ar eu hymddygiad. Ffocws cryf yr ymchwil hon fydd lledaenu'r wybodaeth hon i'r genhedlaeth nesaf o amaethwyr a gwyddonwyr anifeiliaid. I gyflawni hyn, rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda sawl darparwr addysg bellach yng Nghymru gan gynnwys Coleg Llysfasi.
Cyfrifoldebau
Rwy'n cydlynu ac yn dysgu ar sawl modiwl israddedig ac ôl-raddedig gyda ffocws ar Systemau Cynhyrchu Da Byw yn IBERS. Rwy'n diwtor derbyniadau ar gyfer cynlluniau-D IBERS ac rwyf hefyd yn cydlynu Cynllun Canllawiau Cymheiriaid IBERS.