BioArloesedd Cymru

Hyfforddiant Ar-lein Uwchraddedig i’r Diwydiannau Bwyd-Amaeth a Biotechnoleg

Mae Prosiect BioArloesedd Cymru wedi dod i ben. Os oes gennych ddiddordeb yn ein cyrsiau dysgu o bell, gellir eu gweld o hyd ar dudalennau gwe Dysgu o Bell IBERS: https://ibersdl.org.uk/cy/

Mae BioArloesi Cymru’n bartneriaeth rhwng Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth a Choleg Peirianneg Prifysgol Abertawe. Mae’r cynllun wedi cael cymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (Blaenoriaeth 2 ‘Sgiliau ar gyfer Twf’) drwy Lywodraeth Cymru.

Ein nod yw darparu dolen gyswllt ar lefel uchel rhwng ymchwil cyfredol a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau mewn busnesau bio-seiliedig, sy’n cwmpasu pob agwedd ar y piblinellau bwyd a biotechnoleg.

Mae BioArloesi Cymru’n darparu hyfforddiant uwchraddedig hyblyg ac ymatebol er mwyn:

  • diweddaru gwybodaeth dechnegol
  • darparu llwybr tuag at gymwysterau uwchraddedig
  • gwreiddio diwylliant ymchwil yn y gweithle.

Gwella gallu’r gweithlu i gofleidio’r economi gylchol ac arloesi!

Rhaglen i bwy yw hon?

Ar hyn o bryd mae'r rhaglen yn cael ei hanelu at ranbarth Gorllewin Cymru a'r Cymoedd, ac felly mae myfyrwyr sy'n byw neu'n gweithio yn yr ardaloedd hynny yn gallu manteisio ar ffioedd gostyngedig. Disgwyliwn y bydd yn cael ei hestyn i weddill Cymru ar ddechrau 2019.

Mae ein myfyrwyr yn ddarpar dechnegwyr, ymgynghorwyr, ymchwilwyr a rheolwyr, neu maent eisoes yn gweithio yn y meysydd hynny, ym mhob rhan o’r piblinellau bwyd a biotechnoleg: o gynhyrchu cig amrwd, i brosesu a phuro, datblygu cynnyrch, rheoli gwastraff a phennu ei werth – neu’r rhai sy’n awyddus i symud i mewn i’r sectorau hyn. Mae cynaliadwyedd amgylcheddol ac economaidd yn croestorri pob agwedd ar y rhaglen.

Beth sydd mor wahanol am BioArloesi Cymru?

Mae tîm BioArloesi Cymru o academyddion yn ymateb i angen dynodedig ym byd diwydiant. Mae’r tîm yn cyfuno canfyddiadau ymchwil sydd wedi’u cyhoeddi â’r ymchwil diweddaraf yn eu priod sefydliadau. Gyda’i gilydd, defnyddir yr adnoddau hyn i greu cyfres o fodiwlau dysgu o bell a chyfunol wedi’u dilysu gan y Prifysgolion; gellir cronni’r rhain yn ôl eich gofynion i ffurfio ystod bwrpasol o gymwysterau uwchraddedig wedi’u teilwra at anghenion penodol y diwydiant. Bwriedir i’n modiwlau fod yn hyblyg er mwyn i bobl allu astudio ar lefel uwchraddedig mewn modd sy’n cyd-fynd â’u bywydau prysur.

I ddarganfod mwy o ymweliadau www.bioinnovationwales.org.uk/cy

Ymgeisio Nawr

MSc BioArloesedd

MRes BioArloesedd