Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

  

Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg 

Gellir astudio pob cynllun gradd israddedig yn Adran Gwyddorau Bywyd yn rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, ac ar rai cynlluniau mae dros ddwy ran o dair o’r modiwlau ar gael yn Gymraeg. 

Mae’r ddarpariaeth yn hyblyg: ti sy’n dewis faint o Gymraeg rwyt ti am ei defnyddio wrth wneud asesiadau. Mae posib hefyd cyflwyno aseiniadau, cyflwyniadau llafar ac arholiadau ysgrifenedig yn Gymraeg, beth bynnag yw iaith addysgu’r modiwl. Mae modiwlau dwyieithog ar gael hefyd, gyda rhai elfennau yn Gymraeg ac eraill yn Saesneg, gan ddarparu ar gyfer myfyrwyr sydd â lefelau amrywiol o hyder a gallu yn y Gymraeg. 

Bydd pob myfyriwr sy’n siarad Cymraeg yn cael tiwtor personol a thiwtor traethawd hir sy’n gallu siarad yr iaith. Mae cymorth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr nad ydynt mor hyderus yn defnyddio’r Gymraeg, sy’n dal i ddysgu, neu sydd am fireinio eu gallu i ddefnyddio terminoleg dechnegol yn Gymraeg. 

Pam astudio yn Gymraeg? 

Drwy astudio yn Gymraeg, mae posib: 

  • datblygu’r gallu i weithio’n hyderus yn y ddwy iaith; 
  • cryfhau dy CV ac ehangu dy gyfleoedd gyrfa yng Nghymru; 
  • dysgu mewn grwpiau llai, gyda mwy o gyfleoedd i drafod a gofyn cwestiynau; 
  • gwneud ffrindiau a bod yn rhan o gymuned Gymraeg glos a chroesawgar. 

Ysgoloriaethau a chymorth ariannol 

Gall myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg fod yn gymwys am ysgoloriaeth a/neu fwrsariaeth gan Brifysgol Aberystwyth. 

Mae nifer o gynlluniau gradd yr Adran yn gymwys am ysgoloriaethau israddedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gwerth £1,500 dros dair blynedd. Mae’r rhain yn cynnwys Amaethyddiaeth, Biowyddorau Milfeddygol, Gwyddor Anifeiliaid, Bioleg, Bioleg Planhigion a Microbioleg: Mwy o wybodaeth yma 

Mae Bwrsariaeth Astudio drwy’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth ar gael i bob myfyriwr cymwys, ac mae’n cynnig hyd at £400 y flwyddyn: Mwy o wybodaeth yma 

Gallwch ddod o hyd i rhagor o wybodaeth am astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yma.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda arweinydd grŵp addysgu cyfrwng Cymraeg yr adran Dr. Rhys Aled Jones: raj22@aber.ac.uk

Cwestiynau cyffredin

Beth os nad wyf yn deall y derminoleg wyddonol yn Gymraeg?

Paid â phoeni. Cyflwynir terminoleg allweddol yn Gymraeg ac yn Saesneg, a bydd cymorth ar gael i ti ddod yn gyfarwydd â’r geiriau newydd. Mae posib hefyd ddefnyddio adnoddau yn y ddwy iaith a gofyn cwestiynau yn yr iaith sydd fwyaf cyfforddus i ti. 

Beth os gwnes i astudio fy Lefelau A drwy gyfrwng y Saesneg?

Nid yw hynny’n rhwystr. Mae llawer o fyfyrwyr yn dechrau defnyddio’r Gymraeg yn academaidd am y tro cyntaf yn y brifysgol. Mae posib ddechrau gydag un modiwl neu asesiad, defnyddio adnoddau yn y ddwy iaith a chynyddu faint rwyt ti’n ei wneud yn Gymraeg wrth i dy hyder ddatblygu. 

Oes rhaid i mi astudio’r cwrs cyfan yn Gymraeg?

Nac oes. Ti sy’n dewis faint o Gymraeg rwyt ti am ei defnyddio. Gelli astudio modiwlau cyfan yn Gymraeg neu ddechrau gydag un asesiad, cyflwyniad neu arholiad.

Pa gynlluniau gradd sydd ar gael yn Gymraeg?

Gellir astudio pob cynllun gradd israddedig yn Adran Gwyddorau Bywyd yn rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg. Ar rai cynlluniau, mae dros ddwy ran o dair o’r modiwlau ar gael yn Gymraeg. 

Beth yw modiwl dwyieithog?

Mae modiwl dwyieithog yn cynnwys elfennau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae hyn yn rhoi cyfle i ti ddefnyddio’r Gymraeg ar lefel sy’n addas i dy hyder a dy allu. Mae gan pob modiwl bwysiad cyfrwng Cymraeg sy’n dynodi y lefel o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd yn y modiwl yn Dilyn system cyfrifo y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  

Alla i gyflwyno gwaith yn Gymraeg os yw’r modiwl yn cael ei addysgu yn Saesneg?

Gelli. Mae gen ti hawl i gyflwyno aseiniadau a chyflwyniadau llafar, ac i sefyll arholiadau ysgrifenedig, yn Gymraeg beth bynnag yw iaith addysgu’r modiwl.

Oes rhaid i fy Nghymraeg fod yn berffaith?

Nac oes. Mae myfyrwyr yn dechrau gyda lefelau gwahanol o hyder a gallu. Mae cymorth ar gael os wyt ti’n dysgu Cymraeg, am fagu hyder neu am ddatblygu dy ddefnydd o derminoleg wyddonol. 

Pa gefnogaeth fydd ar gael?

Bydd pob myfyriwr sy’n siarad Cymraeg yn cael tiwtor personol a thiwtor traethawd hir sy’n gallu siarad yr iaith. Cei gymorth hefyd gan ddarlithwyr a thrwy sesiynau penodol i ddatblygu dy Gymraeg academaidd.

A fydd adnoddau Saesneg ar gael o hyd?

Bydd. Mae astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn dy alluogi i ddatblygu terminoleg yn y ddwy iaith, sy’n ddefnyddiol wrth ddarllen ymchwil ac wrth baratoi ar gyfer y gweithle. 

Sut gall astudio yn Gymraeg helpu fy ngyrfa?

Mae gallu gweithio’n hyderus yn Gymraeg ac yn Saesneg yn sgil werthfawr i gyflogwyr ledled Cymru. Gall astudio yn Gymraeg gryfhau dy CV a dy baratoi i ddefnyddio’r iaith mewn sefyllfaoedd proffesiynol. 

Pa ysgoloriaethau sydd ar gael?

Mae ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gwerth £1,500 dros dair blynedd, ar gael ar nifer o gynlluniau gradd yr Adran. Mae’r rhain yn cynnwys Amaethyddiaeth, Biowyddorau Milfeddygol, Gwyddor Anifeiliaid, Bioleg, Bioleg Planhigion a Microbioleg. 

Mae Bwrsariaeth Astudio drwy’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth hefyd yn cynnig hyd at £400 y flwyddyn i bob myfyriwr cymwys.

Beth yw manteision dosbarthiadau llai?

Mae grwpiau llai yn cynnig mwy o gyfleoedd i drafod, gofyn cwestiynau, cael cymorth a dod i adnabod dy ddarlithwyr a dy gyd-fyfyrwyr.

A oes cymuned Gymraeg yn Aberystwyth?

Oes. Yn ogystal ag astudio yn Gymraeg, cei gyfleoedd i wneud ffrindiau ac ymuno â chymuned Gymraeg glos a chroesawgar. Mae UMCA a’r Geltaidd hefyd yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau cymdeithasol Cymraeg. 

Beth os nad wyf yn siŵr a yw astudio yn Gymraeg yn addas i mi?

Gelli ddechrau’n fach, er enghraifft gydag un modiwl neu un asesiad. Bydd staff yr Adran yn gallu trafod y dewisiadau â thi a helpu i ddod o hyd i’r llwybr sy’n gweithio orau i ti.