Polisi Diddymu ac Ad-dalu

Dim ond os yw Dysgu Gydol Oes wedi diddymu neu ddileu cwrs y bydd ffioedd cwrs yn cael eu had-dalu.

Cyn i gwrs ddechrau

Os bydd unigolyn yn rhoi o leiaf 7 niwrnod o rybudd ei fod/bod yn tynnu nôl cyn i'r cwrs ddechrau, gellid cynnig credyd i'w ddefnyddio i dalu am un o gyrsiau eraill Dysgu Gydol Oes. DGO fydd yn penderfynu ynglŷn â hyn. Os bydd unigolyn yn tynnu nôl o gwrs heb roi'r 7 niwrnod gofynnol o rybudd ni fydd yn cael credyd nac ad-daliad.