Cwestiynau a Holir yn Aml

Darllenwch ein cwestiynau cyffredin - os nad yw'r rhain yn ateb eich cwestiwn, e-bostiwch ni.

Beth yw Dysgu Gydol Oes?

Ymchwil parhaus am wybodaeth yw dysgu gydol oes - ymchwil a ysgogir gennych chi’ch hun ar gyfer datblygiad personol neu broffesiynol. Sef yn y bôn, y cysyniad nad ydych chi byth yn rhoi'r gorau i ddysgu. Mae'n golygu nad yw addysg a dysgu wedi'u cyfyngu i addysg ffurfiol neu gyfnod penodol mewn bywyd ond yn ymestyn trwy gydol oes unigolyn. 

Yma yn adran Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth mae gennym ddewis o gyrsiau sy’n addas ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol. Porwch ein cyrsiau heddiw. 

Ar ba lefel mae Dysgu Gydol Oes?

Caiff yr holl gymwysterau achrededig eu dyfarnu â lefel Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (NQT) a gymeradwyir gan Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru.

Gelwir cyrsiau Dysgu Gydol Oes yn gyrsiau 'Lefel 1' oherwydd eu bod yn cyfateb i lefel 1 gradd tair blynedd.

Beth yw Credydau?

Rydych chi'n ennill credydau ar gyfer pob modiwl yr ydych yn ei gwblhau mewn Prifysgol - gan fod ein cyrsiau yn rhan o Brifysgol Aberystwyth, mae gan bob un ohonynt gredydau.

Efallai na fydd dysgwyr sy'n oedolion yn poeni gormod am y credydau sy'n gysylltiedig â chwrs y maent am ei astudio, ond mae rhai o'n modiwlau hefyd yn fodiwlau hybu gradd gwych i'r rhai yn y Brifysgol.

Gallwch hefyd gyfuno'ch credydau i ennill Tystysgrif neu Ddiploma Addysg Uwch mewn pynciau penodol: Ecoleg MaesYsgrifennu CreadigolAstudiaethau NaturCelf a DylunioAstudiaethau Hel Achau

Sut i gofrestru ar gwrs?

I ddechrau porwch drwy’r cyrsiau i ddod o hyd i un sy'n addas. Ar y cyfan, mae ein cyrsiau'n dechrau bob mis Medi/Hydref, Ionawr ac Ebrill. Ar ôl i chi ddod o hyd i gwrs, gallwch brynu eich lle trwy ein siop ar-lein.

 

Pa mor hir yw’r cyrsiau?

Yn gyffredinol, bydd cwrs yn rhedeg am tua 10 wythnos – 12 wythnos, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio dyddiad dechrau a gorffen y cwrs wrth bori i sicrhau y gallwch chi fynychu.

 

Sut y caiff y cyrsiau eu cyflwyno?

Cyflwynir ein cyrsiau mewn 3 fformat gwahanol, a chaiff y fformat ei nodi ar yr wybodaeth am y cwrs pan fyddwch yn pori. Gwnewch yn siŵr bod y cwrs yn addas i chi.

Dysgu ar-lein wrth eich pwysau: cyflwynir drwy Blackboard, ein llwyfan addysgu ar-lein. Yn gyffredinol caiff y cyrsiau eu recordio ymlaen llaw, a gallwch weithio trwy bob uned yn eich amser eich hun. Bydd eich tiwtor wrth law i'ch tywys a'ch cefnogi drwy'r modiwl.

Dysgu wyneb yn wyneb mewn gwahanol leoliadau ar draws Cymru.

Dysgu cyfunol: cymysgedd o'r ddau, lle byddwch yn astudio nifer o unedau ar-lein wrth eich pwysau cyn mynychu 1 neu 2 ddiwrnod o ddysgu wyneb yn wyneb mewn lleoliad yng Nghymru.

Pa ffordd bynnag y byddwch yn dewis astudio gyda ni, byddwn yn sicrhau eich bod yn derbyn digon o gefnogaeth ac arweiniad fel y gallwch fanteisio i’r eithaf ar eich profiad dysgu. Mae ein holl fodiwlau wedi'u hachredu gan y brifysgol ac mae gan ein tiwtoriaid brofiad helaeth o ddarparu addysg i oedolion.

Pa mor aml y caiff y cyrsiau eu cynnal?

Cynhelir llawer o'n cyrsiau bob blwyddyn. Mae’r ‘tymor’ yn dechrau bob mis Medi/Hydref, Ionawr ac Ebrill.

Pwy all gofrestru ar gwrs?

Rhywun! Mae ein cyrsiau ar agor i oedolion o bob oed, yn ogystal â myfyrwyr o unrhyw brifysgol a allai ystyried bod ein cyrsiau hybu gradd yn ddefnyddiol.

 

Oes rhaid i mi fod yn fyfyriwr i gofrestru?

Dim o gwbl! Mae ein cyrsiau yn agored i bawb.

Os ydych chi’n fyfyriwr neu’n aelod o staff ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae’r cyrsiau yn rhad ac am ddim.

Efallai y byddwch hefyd yn gymwys ar gyfer y cynllun Hepgor Ffioedd – darllenwch fwy am hyn yma.

Beth yw Tystysgrif Addysg Uwch?

Mae Tystysgrif Addysg Uwch yn rhaglen ran-amser o fodiwlau byr, sy'n dod i gyfanswm o 120 credyd, sy'n arwain at gymhwyster israddedig Prifysgol. Mae’r amserlenni ar gyfer cwblhau Tystysgrif Addysg Uwch rhwng 2 a 5 mlynedd, felly mae digon o amser i weithio’ch ffordd drwy'r cyrsiau priodol ar gyfer eich maes astudio.

Gallwch ddarllen mwy am y Dystysgrif Addysg Uwch yma.

Beth yw Diploma Addysg Uwch?

Mae Diploma Addysg Uwch yn rhaglen ran-amser o fodiwlau byr, sy'n dod i gyfanswm o 240 credyd, sy'n arwain at gymhwyster israddedig Prifysgol. Mae Diploma yn dilyn ymlaen o gwblhau Tystysgrif Addysg Uwch, lle astudir 120 o gredydau ychwanegol i gyrraedd cyfanswm o 240. Mae'r amserlenni ar gyfer cwblhau'r Diploma rhwng 2 a 5 mlynedd.

Gallwch ddarllen mwy am y Diploma yma.

Sut alla i gysylltu â’r Adran Dysgu Gydol Oes?

Gallwch anfon e-bost atom ar dysgu@aber.ac.uk, neu ffonio ein swyddfa ar 01970 621 580.

Pa gymwysterau sydd eu hangen i gofrestru ar gyfer cwrs Dysgu Gydol Oes?

Chwilfrydedd, hiwmor da a hunanysgogiad yw'r cyfan sydd ei angen. Byddwn yn eich cynghori i ddod i gwrdd ag un o'n tiwtoriaid a all eich helpu i ddewis cwrs addas ar gyfer eich cryfderau a'ch anghenion. Gallwch hefyd astudio ein cyrsiau yn annibynnol. Gallwch roi cynnig arni i weld a ydych chi'n hoffi'r arddull o addysgu. Ewch amdani, rhowch gynnig arni!

Beth yw’r polisi canslo?

Bydd ffioedd y cwrs ond yn cael eu had-dalu os caiff y cwrs ei ganslo neu ei dynnu'n ôl gan yr adran Dysgu Gydol Oes. 

Cyn i gwrs ddechrau

Os bydd unigolyn wedi rhoi o leiaf 7 diwrnod o rybudd eu bod yn tynnu'n ôl cyn i gwrs ddechrau, gellir cynnig credyd i'w ddefnyddio yn erbyn cwrs arall a gynhelir gan yr adran Dysgu Gydol Oes. Bydd hyn yn ôl disgresiwn yr adran Dysgu Gydol Oes. Ni fydd unrhyw un sy'n tynnu'n ôl o gwrs heb roi'r rhybudd gofynnol o 7 diwrnod yn derbyn credyd nac ad-daliad.