Dulliau Hybu Gradd i Israddedigion ac Uwchraddedigion

 

Mae Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhoi cyfle dysgu unigryw i chi - cyfle a all roi hwb i'ch gradd a’ch cynorthwyo i sefyll ben ac ysgwydd uwchben y dorf. 

Mae Dysgu Gydol Oes yn cynnig modiwlau byr, achrededig mewn amrywiaeth eang o bynciau sy'n addas ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol. Gallwch ddysgu rhywbeth newydd sydd o ddiddordeb personol neu gallwch astudio cwrs a fydd yn cefnogi ac yn ategu eich gradd.

Mae croeso i fyfyrwyr o unrhyw brifysgol arall gofrestru a manteisio ar ein modiwlau achrededig.

Mae yna fanteision i asudio gyda ni:  

  • Personoli'ch CV a gadael y brifysgol â chyfres o sgiliau newydd.
  • Dysgu am eich bod yn mwynhau! Astudio modiwl mewn pwnc sy’n golygu rhywbeth ichi, neu roi gynnig ar rywbeth newydd.
  • Cwrdd a chymdeithasu ag amrywiaeth o bobl o wahanol gefndiroedd.
  • Ategu eich astudiaethau a'ch pwnc gradd.

Caiff ein modiwlau eu dysgu naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb. Mae'r cyrsiau ar-lein yn cael eu cyflwyno trwy Blackboard – y llwyfan dysgu ar-lein. Rydym hefyd yn defnyddio Microsoft Teams i gyflwyno elfennau byw y cyrsiau ar-lein.

Cynigir cyrsiau Dysgu Gydol Oes yn ychwanegol at eich gradd a gellir eu dilyn heb ymyrryd â'ch amserlen israddedig neu ôl-raddedig. Mae myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn gallu astudio un modiwl y tymor yn rhad ac am ddim.

Mae gan ein tiwtoriaid gymwysterau a phrofiad. Maent yn darparu adnoddau astudio hygyrch ac maent wrth law i roi hyfforddiant ac arweiniad arbenigol.

Manteisiwch ar y cyfle hwn i wella'ch sgiliau a datblygu diddordebau newydd a fydd yn eich gwneud yn fwy deniadol i gyflogwyr ar ôl i chi orffen eich gradd - bydd yn eich rhoi un cam ar y blaen i'r gystadleuaeth.

Caiff aelodau staff Prifysgol Aberystwyth hefyd astudio cyrsiau Dysgu Gydol Oes am ddim.

Dysgwch fwy am y meysydd pwnc a'r cyrsiau sydd ar gael gyda Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth.