Rhwydweithiau a digwyddiadau
Gallwch gymryd rhan mewn amrywiaeth o rwydweithiau a digwyddiadau a gefnogir ac a gynhelir gan y Grŵp E-ddysgu. Gweler isod i gael rhagor o wybodaeth.
Fforwm Academi Mae Fforwm Academi Aber yn agored i aelodau o gymuned y brifysgol: mae croeso i staff dysgu, tiwtoriaid uwchraddedig, staff gweinyddol / cynorthwyol, a myfyrwyr. Mae'r Fforwm yn darparu llwyfan i rannu arferion da o ran dysgu ac addysgu.
Academi Arddangos Ddwywaith y flwyddyn rydym yn trefnu gweminar gyda Phrifysgol Bangor ar draws y Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru. Cysylltwch â ni i gymryd rhan a chyflwyno rhywbeth arloesol yr ydych yn ei wneud gyda thechnoleg yn eich dysgu. Mae enghreifftiau blaenorol o'r Academi Arddangos ar gael ar ein blog.
Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol Y Grŵp E-ddysgu sy'n trefnu Cynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol y Brifysgol. Mae'r digwyddiad yn gyfle i staff ddod ynghyd ledled y Brifysgol i gyflwyno eu harferion dysgu ac addysgu arloesol. Mae ein blog yn cynnwys gwybodaeth am Gynadleddau Dysgu ac Addysgu blaenorol. Edrychwch allan am yr Alwad am Bapurau drwy'r e-bost wythnosol.
Gwobr Cwrs Nodedig Diben Gwobr Cwrs Nodedig PA yw cynorthwyo staff i ehangu eu modiwlau ar Blackboard ac fel llwyfan i rannu arferion da. Mae'n bleser gennym arddangos yr enillwyr yn ein Cynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol. Mae enghreifftiau o arfer da a theithiau o fodiwlau ar gael ar ein blog. Gofynnwch am becyn Gwobr Cwrs Nodedig gennym os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio am y wobr.
Cynhadledd Fach Mae'r Grŵp E-ddysgu'n cynnal cynadleddau bach yn ogystal â'r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu. Mae'r cynadleddau bach blaenorol wedi canolbwyntio ar themâu megis defnyddio cyfrifiaduron llechen i ddysgu ac addysgu. I gael rhagor o wybodaeth am gynadleddau bach y gorffennol, gweler ein blog. Cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb mewn cynnig thema ar gyfer cynhadledd fach.
Grŵp Addysgu trwy Gyfrwng Technoleg Mae'r Grŵp E-ddysgu'n gweithio gyda'r Grŵp Addysgu trwy Gyfrwng Technoleg - fforwm ar gyfer trafod materion yn ymwneud â'r croestoriad rhwng technoleg a dysgu ac addysgu. Mae'r Grŵp Addysgu trwy Gyfrwng Technoleg yn adrodd i'r Pwyllgor Ehangu Dysgu ac Addysgu ac yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn. Mae aelod o staff academaidd yn cynrychioli pob Athrofa. Cysylltwch â chynrychiolydd eich Athrofa neu'r Grŵp E-ddysgu os oes gennych unrhyw fater yr hoffech ei drafod.
Arddangos Academi
Mae’r Academi Arddangos yn lle i rannu arferion da ymhlith staff o Aberystwyth, Bangor a sefydliadau Addysg Uwch eraill. Bob blwyddyn rydym yn cynnal dwy sesiwn gyda dau gyflwyniad ym mhob sesiwn, un o Aber ac un o Fangor. Gall unrhyw un ymuno â’r Academi Arddangos o’u peiriannau eu hunain drwy ddefnyddio’r ddolen sydd ar gael yma:
Rydym yn edrych ymlaen at y cyflwyniadau eleni a gobeithio y bydd modd i rai ohonoch ymuno â ni.
Academi Gweminar Aberystwyth/Bangor 2018/19: | ||
---|---|---|
21 Tachwedd, 13:00 - 14:00: Cliciwch yma ar 21 Tachwedd am 13:00 i ymuno â'r wefan. |
||
Dr Basil Wolf & Dr Ruth Wonfor, Aberystwyth |
||
Siaradwr i’w gadarnhau. |
||
Bangor | ||
20 March, 13:00 - 14:00: Cliciwch yma ar 20 Mawrth am 13:00 i ymuno â'r wefan. |
||
Dr Simon Payne, Aberystwyth |
||
Siaradwr i’w gadarnhau. |
||
Bangor |
Previous Showcases:
2017/2018: |
||
18.04.2018 | Defnyddio Panopto ar Gyfer Cofnodi Assessiad | Thomas Wooliscroft & Rob Francis, Aberystwyth |
Y daith tuag at Asesu Ar-lein Cynhwysol | Siân Edwardson-Williams, Bangor | |
19.11.2017 | Defnyddio Wicis ar gyfer Rhyngweithio Myfyrwyr | Victoria Wright, Aberystwyth |
Defnyddio One Drive i Gefnogi Myfyrwyr | Owen Davies, Bangor | |
2016/2017: |
||
28.06.2017 | How much Attention are Developers Paying to VLE Users? | Emmanuel Isibor, Aberystwyth |
Delweddu’r gorffennol: Profiadau defnyddio cyflwyniadau aml-gyfrwng fel asesiad mewn Hanes | Marc Collinson, Bangor | |
02.03.2017 | Arnofio: Defnyddio AirServer Mewn Darlithoedd | Malte Urban, Aberystwyth |
Gwreiddio egwyddorion “MOOC” mewn cwrs ar-lein bach preifat fel rhan o raglen newydd nyrs gyswllt mewn atal heintiau: gwersi a ddysgwyd | Lynne Williams, Bangor | |
23.11.2016 | Module Evaluation using QR codes and Online Surveying: Trialling, Transitioning and Tracking Student Perspectives | Andrew Davies & Laura Mc Sweeney, Aberystwyth |
Clickers a'u rôl mewn adborth ffurfiannol | Dylan Wyn Jones, Bangor | |
2015/2016: |
||
09.03.2016 | iPad Provisioning for Flexible Teaching and Outreach | Rachel Cross, Aberystwyth |
Defnyddio rubrics a marcio ar-lein i wneud bywyd yn haws ac i roi adborth defnyddiol i fyfyrwyr (gobeithio) | Ross Roberts, Bangor | |
08.06.2016 | Using Digital Poem-Stories to Enhance Learning in Science Modules | Mary Jacob, Aberystwyth |
WebPA the Peer Assessment Tool | Sian Davies, Bangor | |
2014/2015: |
||
25.11.2015 | Ysgogi myfyrwyr mewn Seminarau? | Kate Egan & Wikanda Promkhuntong, Aberystwyth |
Hwyluso dysgu sy’n seiliedig ar broblemau mewn dosbarthiadau mwy, Katherine Jones | Katherine Jones, Bangor | |
13.02.2015 | Myfyrwyr fel llunwyr cynnwys darlithoedd: Recordio cyflwyniadau byr gan fyfyrwyr trwy ddefnyddio meddalwedd cipio darlithoedd (Panopto) | Marco Arkesteijn, Aberystwyth |
Defnyddio offer pleidleisio yn y dosbarth | Paul Cross, Bangor | |
07.05.2015 | Defnyddio adborth sain | Ayla Gol, Aberystwyth |
Yr ystafell ddosbarth ar ffurf dysgu cyfunol | Frances Garrad-Cole, Bangor | |
2014/2015: |
||
06.02.2014 | Have You Done the Reading? – Motivating Students by Foregrounding the Purposes and Potential Benefits of the Seminar Session | Kate Egan & Wikanda Promkhuntong, Aberystwyth |
iPads | Gwawr Maelor Williams, Bangor | |
02.03.2014 | Using virtual multi-media technology to increase realism in learning environments | Gareth Norris & David Wilcockson,Aberystwyth |
Use of Online Journals | Sara Roberts, Bangor | |
28.04.2014 | Innovative use of computer room for interactive teaching | Nick Perdikis, Aberystwyth |
Students using Panopto | Alan Thomas & Sian Edwardson, Bangor | |
12.12.2013 | Dysgu gyda’r we | Hannah Dee, Aberystwyth |
Camau Cyntaf (Adnodd Dysgu Agored - OER) | Matt Hayward & Sian Edwardson, Bangor |