Addysgu i Uwchraddedigion ym Mhrifysgol Aberystwyth (AUMA)

Dechreuodd y rhaglen hon, a anelir at Fyfyrwyr Ymchwil Uwchraddedig, yn 2016. Bydd y rhaglen yn datblygu sgiliau dysgu'r uwchraddedigion sydd eisoes yn dysgu myfyrwyr yn eu hadrannau. Bydd yn rhoi sylfaen o arfer da i'ch gwaith dysgu ac yn ehangu'ch gwybodaeth a'ch arbenigedd mewn amrywiaeth o feysydd sy'n greiddiol i ddysgu. Mae'r rhaglen wedi'i hachredu drwy'r Academi Addysg Uwch (HEA) ar lefel Cymrodoriaeth Gysywllt (sy'n cyfateb i fodiwl 1 o Dystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch - TUAAU. Bydd y rhai sy'n cwblhau'r rhaglen yn dod yn Gymrodyr Cyswllt o'r Academi Addysg Uwch (AFHEA).

 ‌

 

Gofynion Mynediad a Chofrestru

Mae'r rhaglen hon ar gael i uwchraddedigion ymchwil sy'n dysgu myfyrwyr. Argymhellwn fod y rhai sy'n cymryd rhan yn ymgymryd ag 20 awr o oriau cyswllt dysgu yn ystod y rhaglen - i roi cyfle iddynt ystyried eu harferion dysgu ac i gydweithwyr allu arsylwi ar eu gwaith dysgu.

Bydd Ffurflen Gais am Medi 2024 i'w chael yma cyn hir ac fe fydd modd cyflwyno ceisiadau o Mai 2023 ymlaen; diwedd Mehefin 2024 fydd y dyddiad cau.

Cynhelir y sesiwn gyflwyno orfodol i'r rhaglen ar Medi 2024.

AUMA - y gofyniad am 20 awr o waith dysgu

Mae rhaglen Addysgu i Uwchraddedigion ym Mhrifysgol Aberystwyth yn argymell bod y cyfranogwyr yn ymgymryd ag 20 awr o waith dysgu yn ystod y flwyddyn pan gymerant y cwrs. Mae angen i'r rhai sydd ar y cwrs ymgymryd â digon o oriau dysgu i gael tair sesiwn arsylwi gan gydweithwyr ar eu gwaith dysgu, i gael cyfle i fyfyrio ar eu harferion dysgu, ac i ymgorffori awgrymiadau o'r rhain ac o'u CDP yn ôl i'w gwaith dysgu. Mae'r gofyniad hwn yn cyd-fynd â sefydliadau eraill yn y sector sy'n cynnal rhaglenni tebyg sy'n arwain at ddyfarnu AFHEA. Dyluniwyd AUMA i gydweddu â rhaglenni dysgu eraill CDSYA - sef Modiwlau 1 a 2 TUAAU a'r ceisiadau i'r HEA drwy'r llwybr uniongyrchol. Cymeradwywyd AUMA gan yr Academi Addysg Uwch; mae'r rhaglen yn cyd-fynd ag UKPSF, ac mae ar lefel gyfwerth â Modiwl 2 o TUAAU (sy'n gofyn am 40 awr o waith dysgu) ac mae'n arwain i'r AFHEA yn yr un modd. Nid yw AUMA yn gwrs ar gyfer y rhai sydd newydd ddechrau gwaith dysgu. Mae Ysgol y Graddedigion yn cynnig gweithdy sy'n rhoi cyflwyniad i ddysgu. Mae AUMA yn gymhwyster dysgu proffesiynol hyblyg ac ysgafnllaw sydd wedi'i anelu at fyfyrwyr PhD sydd eisoes yn gwneud gwaith dysgu.

Cystadlu am Le ar Raglen AUMA

Derbynnir myfyrwyr i raglen AUMA drwy gystadleuaeth - nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ac fel arfer fe geir llawer o ymgeiswyr, felly does dim sicrwydd o gael lle drwy wneud cais.  Anelir y rhaglen at fyfyrwyr PhD, ac fe'i cymeradwywyd ar y ffurf honno gan yr HEA, felly rhoddir y flaenoriaeth i'r myfyrwyr hynny (ond mae croeso i staff y Brifysgol sy'n cynorthwyo â darpariaeth academaidd ymgeisio hefyd). Fe'i hawdurdodir gan yr HEA, ac mae'n cydweddu â Modiwl 1 o TUAAU; mae AUMA yn gymhwyster dysgu proffesiynol sydd wedi'i anelu at fyfyrwyr PhD sydd wedi gwneud gwaith dysgu ar lefel Addysg Uwch ac a fydd yn parhau i'w wneud. Mae angen i'r ymgeiswyr roi manylion o'r gwaith dysgu a wnaethant yn y gorffennol ar lefel Addysg Uwch, a'r dysgu y maent yn disgwyl ei wneud yn y flwyddyn academaidd nesaf.  Mae'r Panel Ceisiadau yn chwilio am dystiolaeth o brofiad blaenorol o waith dysgu ac am ymgeiswyr sy'n frwd dros ddatblygu eu sgiliau dysgu presennol ymhellach, ac mae'n rhoi lleoedd i'r rhai sydd fwyaf llwyddiannus wrth ddangos hynny yn eu ceisiadau.