E-ddysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth
Mae’r Grŵp E-ddysgu’n darparu cyngor, cymorth a hyfforddiant mewn addysgu trwy gyfrwng technoleg i staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.
Gwelwch ein Awgrymiadau Dysgu at Gysondeb Ddysgu ac Addysgu [link]
Gwelwch ein CAF ar Barhad Dysgu ac Addysgu [link].
Gallwch gysylltu â ni drwy e-bost (eddysgu@aber.ac.uk) neu ffonio (01970) 62 2472.
Mae’r Grŵp yn cynorthwyo amrywiaeth eang o dechnolegau, gan gynnwys:
- Amgylchedd Dysgu Rhithwir (Blackboard)
- Cipio Darlithoedd (Panopto)
- E-gyflwyno ac E-adborth (Turnitin a Blackboard Assignment)
- Arholiadau Ar-lein (Questionmark Perception)
Mae cymorth ar gael dros e-bost, dros y ffôn a thrwy ymgynghoriadau, yn ogystal â’n Cwestiynau Cyffredin a’r canllawiau ar-lein.
Dilynwch ein Blog i gael y newyddion diweddaraf am y pethau cyffrous rydym wedi bod yn eu gwneud a hefyd ein Tudalen Twitter i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.
Cewch yr wybodaeth a'r adnoddau diweddaraf ar ddysgu trwy gyfrwng technoleg trwy ddefnyddio ein llyfrnodau ar Trello.
Cliciwch ar y teitlau gwahanol i gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau a’r cymorth a gynigir gennym.
Rydym yn trefnu ac yn cyflwyno rhaglen hyfforddi gynhwysfawr trwy gydol y flwyddyn sy’n galluogi staff i ddysgu am addysgu trwy gyfrwng technoleg:
- Hyfforddiant yn y dosbarth
- Ymgynghoriadau
- Cymorth gan gyfoedion a fforymau trafod
- Gweminarau
- Cynadleddau bach
- Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol Prifysgol Aberystwyth
Mae’r Grŵp hefyd yn darparu cyflwyniadau i’r Adrannau sy’n canolbwyntio ar sgiliau addysgu trwy gyfrwng technoleg allweddol i fyfyrwyr megis cyflwyno ar-lein a manteisio i’r eithaf ar eu deunyddiau dysgu ar-lein.
Gan ddefnyddio ein harbenigedd mewn addysgu trwy gyfrwng technoleg a’n gwybodaeth am y tirlun addysgu addysg uwch, mae’r Grŵp yn cyfrannu at benderfyniadau’r Gwasanaethau Gwybodaeth a’r Brifysgol yn ehangach ynghylch y ddarpariaeth addysgu trwy gyfrwng technoleg drwy Grŵp Addysgu Trwy Gyfrwng Technoleg y Brifysgol (TELG).