Tystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (TUAAU)

Twitter logoCroeso! Mae’r TUAAU yn gymhwyster 60-credyd ar lefel Meistr sy’n cynnwys dau fodiwl sy’n para un flwyddyn yr un. Gall ymgeiswyr sy’n gallu dangos bod ganddynt gymwysterau blaenorol (Cymrawd Cyswllt yr Academi Addysg Uwch neu TAR) ymuno â’r rhaglen ar fodiwl 2, sy’n golygu felly y byddant yn cwblhau’r cwrs mewn blwyddyn yn unig.

Dysgu ynglŷn â dysgu yw craidd y TUAAU. Mae’n cynnig cyfleoedd i ryngweithio wyneb-yn-wyneb ac ar-lein, sesiynau DPP, casgliadau o adnoddau wedi’u curadu, arweiniad gan fentor personol, sesiynau arsylwi dysgu, a gwaith cwrs. Byddwn yn eich arwain trwy egwyddorion addysgol a’r arferion diweddaraf yn addysg uwch, gan ddatblygu eich gallu i gloriannu anghenion dysgu a defnyddio dulliau effeithiol ac arloesol wrth ddysgu. Gweler ein casgliad sydd wedi'i guradu o Adnoddau dysgu ac addysgu a Rhestrau Darllen Aspire

Bwriedir i’r TUAAU gefnogi Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU (FSPDU), ac mae’n cael ei achredu gan yr Academi Addysg Uwch (HEA). Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn arwain at gofrestriad gyda’r Academi Addysg Uwch fel Cymrawd. Cydlynir rhaglen y TUAAU gan Mary Jacob. Darperir yr holl fanylion am y rhaglen yn ein TUAAU Llawlyfr Myfyrwyr 2023-24

Sut i wneud cais

Mae’r TUAAU yn agored i staff sy’n dysgu ar gyrsiau Prifysgol Aberystwyth. Dylai’r rheiny sy’n cymryd rhan gyflawni o leiaf 40 awr o ddysgu (ar lefel addysg uwch) dros gyfnod pob modiwl, ond mae’n bosib yr ystyrir staff sydd mewn sefyllfaoedd eraill ar sail fesul achos. Anfonwch e-bost at dîm y cwrs (tuaau@aber.ac.uk) i gael rhagor o wybodaeth.

Y derbyniad nesaf ar gyfer modiwl 1 a modiwl 2 yw Ionawr 2024 (dylid cyflwyno ceisiadau cyn 1 Tachwedd).

Mae angen i bob myfyriwr fynychu’r cyfnod anwytho. Dyddiadau’r anwythiadau yw:

  • Modiwl 1 (PDM0430) 16-18 Ionawr 2024 (9:30-17:30 Arlein)
  • Modiwl 2 (PDM0530) 8-10 Ionawr 2024 (9:30-14:30 Arlein) 

Gallwch gyflwyno cais ar-lein trwy ddilyn y camau isod:

  • Cliciwch ar Gwneud Cais yn Gymraeg neu Gwneud Cais yn Saesneg.

  • Crëwch broffil newydd neu fewngofnodi gyda phroffil sy'n bodoli eisoes. Rhaid i chi ddefnyddio e-bost ar wahân i’ch e-bost Prifysgol Aberystwyth fel eich gwybodaeth gyswllt.

  • Fe welwch sgrin yn dangos ein cynllun astudio, X142 Addysgu mewn Addysg Uwch. Ewch drwy'r sgriniau yn y porth ymgeisio.

  • Rhaid i chi gynnwys datganiad personol byr gyda gwybodaeth am yr addysgu yr ydych yn rhagweld y byddwch yn ei wneud ar lefel addysg uwch. Dylech gynnwys enw neu bwnc y modiwl gydag amcangyfrif o gyfanswm yr oriau ar gyfer y semester nesaf (gan ddechrau o fis Ionawr) a'r semester canlynol (gan ddechrau o fis Medi).

  • Os hoffech fynd yn syth i fodiwl 2 yn seiliedig ar ddysgu achrededig blaenorol, rhaid i chi gynnwys naill ai eich tystysgrif TAR neu eich tystysgrif AFHEA gyda'ch cais. Lanlwythwch y dystysgrif drwy'r sgrin Dogfennau Ychwanegol.

  • Bydd angen i Bennaeth eich Adran neu eich rheolwr llinell anfon e-bost byr at dîm y cwrs yn dweud eu bod yn fodlon i chi ymuno â'r rhaglen.

Modiwl 1 Proffesiynoli’ch Sgiliau Dysgu mewn Addysg Uwch (PDM0430)

Mae modiwl 1 yn canolbwyntio ar eich arferion presennol fel athro, gan ymgorffori myfyrio, testunau addysgol, ac arferion wedi’u seilio ar dystiolaeth. Sut allwch chi ddarganfod pa mor dda y mae eich myfyrwyr yn dysgu? Sut allwch chi eu helpu i ddysgu’n well? Byddwch yn dechrau datblygu’r sylfeini damcaniaethol a myfyriol sydd eu hangen ar gyfer modiwl 2.

Modiwl 2 Ymchwil Gweithredol ac Ymarfer Adfyfyriol mewn Addysg Uwch (PDM0530)

Mae modiwl 2 yn canolbwyntio ar ymchwil gweithredol ac ymarfer myfyriol. Trwy ddau brosiect ymchwil gweithredol, byddwch yn defnyddio egwyddorion addysgol i wneud newidiadau i’ch arferion dysgu, asesu anghenion y myfyrwyr, cynllunio ymyriad dysgu, a chloriannu pa mor dda y mae’n helpu eich myfyrwyr i ddysgu. Ymgorfforir ymarfer myfyriol drwyddi draw i sicrhau bod eich sgiliau dysgu’n datblygu’n barhaus.