Marc Safon

Ymddiriedolaeth Frank Buttle

Ymddiriedolaeth Frank Buttle

24 Medi 2008

Dyfarnwyd Marc Safon Ymddiriedolaeth Frank Buttle i'r Rhai Sy'n Gadael Gofal mewn Addysg Uwch i Brifysgol Aberystwyth.

Mae’r Marc Safon, gafodd ei lansio gan Ymddiriedolaeth Frank Buttle in 2006, yn cydnabod sefydliadau sydd yn mynd gam ymhellach wrth gefnogi myfyrwyr sydd wedi bod mewn gofal cyhoeddus.

Cydlynwyd cais Aberystwyth am y Marc Safon gan y Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol, sydd yn rhan Adran Denu a Derbyn y Brifysgol.

Mae’r dyfarniad yn cydredeg gyda phenodiad Mentor Myfyrwyr Sy’n Gadael Gofal cyntaf y Brifysgol. Dr Debra Croft, Cydlynydd Prosiect yn y Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol, yw pwynt cyswllt cyntaf myfyrwyr sydd o gefndir gofal ac mae hi yn eu cynghori ar sut mae defnyddio’r gwasanaethau cymorth eang a ddarperir gan y Brifysgol. 

Mae cefnogaeth i’r rhai sydd wedi gadael gofal ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnwys bwrsari tuag at lety am y flwyddyn (52 wythnos) sydd werth £1800 neu £1000, yn ddibynnol ar amgylchiadau, a chefnogaeth bersonol i unigolion o’r cyfnod cyn gwneud cais (ymweliadau, Diwrnodau Agored ayyb) hyd at y seremoni raddio, yn ogystal â ‘Phecyn Dechrau’ (llestri, cyllyll a ffyrc, llieiniau gwely ayyb) er mwyn dechrau bywyd fel myfyriwr.

Dywedodd yr Athro Aled Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth;
“Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymroddedig i wella’r cyfleoedd academaidd sydd ar gael i bobl ifanc sydd wedi bod mewn Gofal ac yn gweithio at y nod o alluogi mwy ohonynt i gael lle mewn prifysgol. Mae dyfarnu y Marc Safon hwn yn gydnabyddiaeth o’r ymroddiad hwn, y gefnogaeth sydd ar gael, a ffurf y cynllun yn ei gyfanrwydd.”

Cafodd y Marc Safon sêl bendith Bill Rammell, y Gweinidog Addysg a Dysgu Gydol Oes. Tra’n siarad ar ddiwrnod lansio’r cynllun dywedodd; “Mae’r Marc Safon yn gam mawr ymlaen. Mae’n dangos i’r rhai sydd wedi bod mewn gofal fod darparwyr addysg uwch yn ymroddedig i’w cynorthwyo i oresgyn yr heriau sydd yn eu hwynebu, ac yn sicrhau fod cyfleoedd addysg sydd ar gael i bobl ifainc ar gael iddynt hwy hefyd.”  
                            
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Frank Buttle yn 1937 a bu’n weithredol ers 1953. Hi yw’r elusen fwyaf yn y Deyrnas Gyfunol sydd yn darparu cymorth ariannol i blant unigol a phobl ifainc mewn gwir angen.   Ers dros hanner canrif mae’r Ymddiriedolaeth wedi cynorthwyo miloedd o blant diamddiffyn, pobl ifainc a theuluoedd ar draws y Deyrnas Gyfunol. Y mae hefyd yn cefnogi ymchwil i’r ffyrdd gorau o gynorthwyo’r rhai fu mewn gofal cyhoeddus i wireddu ei gwir botensial ar bob safon academaidd.  

Os am wybod mwy am ddarpariaeth Prifysgol Aberystwyth i bobl sydd wedi gadael gofal, cysylltwch â Debra Croft o’r Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol 01970 621890 / dec@aber.ac.uk.

Y Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol
Sefydlwyd y Ganolfan (y Swyddfa Addysg Barhaus bryd hynny) ym 1998 er mwyn datblygu ar un o amcanion sylfaenol y Brifysgol:
“Parhau i ehangu mynediad i fyfyrwyr o amrywiol gefndiroedd, gan gynnwys myfyrwyr o'r gymuned leol, ac i chwarae ein rhan ym mywyd economaidd, addysgiadol a diwylliannol y gymuned honno.”.

Mae’r Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol yn cydweithio â nifer o bartneriaid er mwyn cyflawni'r amcanion hyn, gan gynnwys Ysgolion Cynradd, Ysgolion Uwchradd, Awdurdodau lleol, Darparwyr addysg, Mudiadau cymunedol.