Adnewyddu adeilad Gwyddorau Ffisegol

Adeilad y Gwyddorau Ffisegol

Adeilad y Gwyddorau Ffisegol

01 Mawrth 2009

Dydd Mawrth 2009
Adnewyddu adeilad Gwyddorau Ffisegol

Mae adeilad eiconig y Gwyddorau Ffisegol ym Mhrifysgol Aberystwyth, a ymddangosodd ar stamp 3 ceiniog y Swyddfa Bost yn 1971 fe rhan o ymgyrch i gydnabod pensaernïaeth ddeniadol mewn Prifysgolion ym Mhrydain, yn cael ei adnewyddu yn sgil buddsoddiad gwerth £1.2m.

Y gost wreiddiol o godi a dodrefnu'r adeilad, sydd bellach yn gartref i'r Sefydliad Mathemateg a Ffiseg, oedd £578,000. Cafodd ei adeiladu ar gyfer adrannau Ffiseg a Mathemateg, a’r adran Ystadegau a oedd newydd ei sefydlu.

Agorwyd y drysau am y tro cyntaf yn Hydref 1962 a chafodd yr adeilad ei agor yn swyddogol ym Mai 1963 gan bennaeth y Swyddfa Dywydd a Chymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Sir Graham Sutton, a oedd hefyd yn gyn-fyfyriwr ac yn gyn aelod staff yn Aberystwyth.

Eisoes cwblhawyd rhan gyntaf y gwaith sydd yn cynnwys derbynfa newydd ar y llawr gwaelod. Mae disgwyl i weddill y gwaith, sydd yn cynnwys gosod isadeiledd trydanol a rhwydwaith TG newydd, a sustem ffôn VoIP (Voice Over Internet Protocol) newydd, gael ei gwblhau erbyn Gorffennaf 2010.

Yn ogystal mae sustem oleuo ynni-effeithlon yn cael ei gosod a fydd yn arbed o leiaf 35% o’r trydan sydd yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd, arbediad sydd gyfystyr â 86kg o Garbon Deuocsid yn flynyddol.

Cafodd y gwaith ei wneud gan ddau gwmni lleol, L & R Construction, sydd a’i swyddfa ar Ystâd Ddiwydiannol Glan yr Afon Aberystwyth, a’r contractwyr trydanol EOM o’r Drenewydd.