Astudiaeth fitamin yr haul

Ffion Curtis a Ronnie Maher, un o'r bobl sydd yn rhan o'r astudiaeth

Ffion Curtis a Ronnie Maher, un o'r bobl sydd yn rhan o'r astudiaeth

21 Rhagfyr 2012

Gallai fitamin D, sydd hefyd yn cael ei adnabod wrth yr enw ‘fitamin yr haul’, fod yn hanfodol y gaeaf hwn er mwyn dygymod â chyflyrau meddygol megis clefyd yn siwgr math 2.

Mae tystiolaeth i awgrymu bod cysylltiad rhwng lefelau isel o fitamin D a chlefyd siwgr math 2, cyflwr sy’n effeithio ar fwy na 160,000 o bobl yng Nghymru.

Mae clefyd siwgr math 2 yn gyflwr hir dymor sy'n digwydd pan nad yw'r corff yn cynhyrchu digon o inswlin i weithio'n iawn, neu pan fydd y corff yn colli’r gallu i ymateb i’r hyn mae inswlin yn ei wneud. Canlyniad hyn yw lefelau uwch na’r arferol o siwgr yn y gwaed.

Mae fitamin D yn rheoleiddio swyddogaethau dros 200 o enynnau ac mae'n hanfodol ar gyfer twf a datblygiad y corff. Mae'n cynnal cydbwysedd calsiwm yn y corff, yn rhoi hwb i’r system imiwnedd ac yn lleihau'r risg o bwysedd gwaed uchel.

Mae Ffion Curtis o Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prifysgol Aberystwyth yn cynnal astudiaeth ymysg pobl leol o lefelau fitamin D yn y gwaed a rheolaeth siwgr yn y gwaed.

Esbonia Ffion, "Yn ystod yr haf bydd y rhan fwyaf ohonom yn cael digon o fitamin D o'r haul, ond yn ystod y gaeaf mae'n ddoeth chwilio am ffynonellau amgen o fitamin D yn ogystal â threulio amser allan yn yr awyr agored gan fod ymarfer corff rheolaidd hefyd yn bwysig."

"Mae nifer y bobl sy'n dioddef clefyd siwgr math 2 yn cynyddu yn ddramatig ar draws y byd. Ar yr un pryd, mae ffyrdd o fyw pobl yn newid. Maent yn treulio llai o amser yn yr awyr agored ac yn gwneud llai o ymarfer corff, ac o ganlyniad yn gweld llai o olau'r haul sy'n hanfodol i bob un ohonom," meddai Ffion.

"Nod ein hastudiaeth yw sefydlu a oes perthynas rhwng fitamin D a rheolaeth siwgr yn y gwaed mewn pobl, boed clefyd y siwgr arnynt neu beidio. Os oes prawf o hyn efallai y bydd hi’n bosib cynghori pobl sy’n dioddef o glefyd siwgr math 2 sut y gallant reoli'r cyflwr heb ddibynnu cymaint ar feddyginiaeth.

"Gallai newidiadau bychain i ffordd o fyw pobl wella eu hansawdd bywyd, ac o bosib leihau’r niferoedd sy’n datblygu clefyd siwgr", ychwanegodd.

Daeth pwysigrwydd fitamin D i’r amlwg gyntaf yn sgil y defnydd o olew iau penfras er mwyn trin achosion cynnar o’r clefyd rickets - y llechau. Erbyn hyn cydnabyddir fod gan fitamin D swyddogaeth bwysig o ran cynnal iechyd da, ac mae lefelau isel wedi eu cysylltu â chyflyrau meddygol eraill megis sglerosis ymledol, canser, ac osteoporosis.

Awgrymwyd bod cymaint â 50% o boblogaeth y byd mewn perygl o ddiffyg fitamin D. Mae ffynonellau gwerthfawr o fitamin D yn cynnwys pysgod, llaeth, sudd oren, melynwy, grawnfwyd ac olew iau penfras.

Mae’r Nadolig yn amser i’w fwynhau, llawenhau.....a bod yn iach! Dyma gyngor ar sut i gadw’n iach y Nadolig hwn:

•    Mwynhewch eich cinio Nadolig, ond ceisiwch gadw at eich diet arferol gymaint â phosibl dros gyfnod y Nadolig. Ar ôl eich cinio Nadolig, ewch am dro gan y bydd hyn yn gymorth i reoli glwcos yn y gwaed a defnyddio mwy o galorïau.

•    Bydd cadw’n weithgar dros fisoedd oer y gaeaf yn eich cadw'n gynnes, yn cynyddu sensitifrwydd inswlin ac yn llesol i'r meddwl.

•    Mae ymarfer corff yn cynorthwyo’r cyhyrau i gario glwcos o'r gwaed yn effeithiol, dyna pam ei bod mor werthfawr wrth reoli clefyd siwgr.
Mae’r effaith yn para rhwng 24 a 72 awr yn unig, felly mae'n bwysig cadw at raglen ymarfer corff rheolaidd er mwyn sicrhau bod y cyhyrau’n parhau i dynnu siwgr o'r gwaed.

•    Gwnewch yn siŵr bod byrbrydau iach ar gael yn rhwydd fel nad ydych yn bwyta gormod o siocledi a mins peis! Gall ambell i fwyd sydd yn uchel mewn braster/siwgr gael ei gynnwys fel rhan o ddiet amrywiol iach os ydych yn dioddef clefyd siwgr neu beidio.

•    Os ydych yn dioddef clefyd siwgr neu beidio, ceisiwch osgoi uchafbwyntiau glwcos yn y gwaed (siwgr). Oherwydd ei bod yn Nadolig, bydd ein diet yn newid a bydd hyn yn achosi i lawer o bobl brofi lefelau glwcos uwch na'r arfer yn y gwaed.

•    Os oes gyda chi ormod o fisgedi neu siocledi, beth am eu rhoi i gartref gofal lleol neu at y ffair ysgol nesaf?

•    Dewiswch gig neu bysgod wedi grilio, rhostio neu bobi, yn lle wedi’i ffrio.

•    Trïwch osgoi mwy o fenyn neu ddresin ar ffrwythau a salad.

•    Beth am gyflwyno hufen ar wahân gyda phwdin fel eich bod gallu cymryd llai.

•    Ceisiwch osgoi colli prydau bwyd gan y byddwch yn llwgu adeg y pryd nesaf ac yn fwy tebygol o orfwyta.

•    Mwynheuwch y Nadolig!

Ariennir yr astudiaeth gan y rhaglen ‘Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS)’ a gefnogir gan y Gronfa Gyllid Gymdeithasol Ewropeaidd trwy raglen Cydweithrediad y Llywodraeth Gymreig, ac mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda Dr Sam Rice, Ymgynghorydd Clefyd y Siwgr gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

AU43612