Dathlu Pythefnos Masnach Deg

yr Is-Ganghellor, yr Athro April McMahon, Angela Jones, Rheolwr Lletygarwch Cyffredinol a Jeremy Mabbutt, Pennaeth Gwasanaethau Lletygarwch.

yr Is-Ganghellor, yr Athro April McMahon, Angela Jones, Rheolwr Lletygarwch Cyffredinol a Jeremy Mabbutt, Pennaeth Gwasanaethau Lletygarwch.

06 Mawrth 2013

Mae’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn dathlu Pythefnos Masnach Deg gydag nifer o hyrwyddiadau arbennig.

Dyfarnwyd statws Masnach Deg  i Brifysgol Aberystwyth gan y Sefydliad Masnach Deg yn 2009, ac mae wedi ymrwymo i gefnogi, hyrwyddo a defnyddio nwyddau Masnach Deg.

Mae Pythefnos Masnach Deg a gynhelir bob blwyddyn yn hyrwyddo egwyddorion a chynnyrch masnach deg a'r cysylltiadau rhwng defnyddwyr a chynhyrchwyr. Mae’r digwyddiad eleni yn rhedeg tan y 10fed o Fawrth.

Mae'r Sefydliad Masnach Deg yn galw ar y cyhoedd i edrych ar ôl y bwyd rydym yn ei garu a'r bobl sy'n ei dyfu. Mae dewis Masnach Deg yn un ffordd o helpu i sicrhau bargen well i filiynau o bobl mewn gwledydd sy'n datblygu.

Dyma Jeremy Mabbutt, Pennaeth Gwasanaethau Lletygarwch  y Brifysgol i esbonio:

 "Mae gennym bolisi prynu bwyd cynaliadwy cynhwysfawr a moesol sy’n rhoi ystyriaethau amgylcheddol, iechyd a chynaliadwyedd wrth wraidd unrhyw benderfyniadau prynu a wneir. Drwy ein siopau a gwasanaethau arlwyo , mae cynnyrch Masnach Deg ar gael yn rhwydd i staff, myfyrwyr, trefnwyr cynadleddau a chynadleddwyr. Mae ein darpariaeth Masnach Deg yn bwysig o ran helpu i godi ymwybyddiaeth ymhlith ein myfyrwyr a'n staff ac ymwelwyr i'r Brifysgol o'r angen i sicrhau gwell dyfodol i gynhyrchwyr yn y byd sy'n datblygu".

Ceir rhagor o fanylion yma  http://www.aber.ac.uk/en/hospitality/news-events/