Entrepreneur iaith yn ennill £20,000

Enillydd Gwobr CaisDyfeisio 2013, Jake Stainer (ar ei eistedd), gyda’r beirniaid (chwith i’r dde) Tony Diment (mentrwr cyfalafol), Peter Gradwell (sylfaenydd Gradwell dot com Ltd), Nigel Davies (sefydlydd Innoval Technology), Jane Clayton (Cadeirydd Bay Leisure Limited a Chyfarwyddwr Practis Graham Evans & Partners LLP) a Huw Morgan, cyn-Bennaeth Bancio Busnes yn HSBC Bank plc.

Enillydd Gwobr CaisDyfeisio 2013, Jake Stainer (ar ei eistedd), gyda’r beirniaid (chwith i’r dde) Tony Diment (mentrwr cyfalafol), Peter Gradwell (sylfaenydd Gradwell dot com Ltd), Nigel Davies (sefydlydd Innoval Technology), Jane Clayton (Cadeirydd Bay Leisure Limited a Chyfarwyddwr Practis Graham Evans & Partners LLP) a Huw Morgan, cyn-Bennaeth Bancio Busnes yn HSBC Bank plc.

19 Mawrth 2013

Sylfaenydd cymuned gymdeithasol ar-lein ar gyfer dysgwyr iaith yw enillydd cyntaf cystadleuaeth i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth gwerth £20,000, Gwobr CaisDyfeisio.

Mae Jake Stainer yn fyfyriwr Marchnata a Sbaeneg yn ei ail flwyddyn yn Aberystwyth, ac ef yw sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr y wefan iaith Papora, www.papora.com.

Cafodd Jake ei ysbrydoli i sefydlu Papora yn dilyn taith gyfnewid i ddinas Gijon yn Sbaen yn 2007, a’i awydd i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a gwella ei Sbaeneg.

Nod Papora, sydd yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio, yw dod â dysgwyr a siaradwyr cynhenid at ei gilydd er mwyn cyfnewid ieithoedd. Eisoes mae ganddi 11,000 o ddefnyddwyr o 135 o wledydd yn dysgu mwy na 100 o ieithoedd. 

Bwriad Jake yw defnyddio’r wobr o £20,000 i ddatblygu'r safle, ychwanegu nodweddion newydd, cynyddu ei phresenoldeb ar-lein a datblygu cymwysiadau symudol.

Dywedodd: "Rwy'n falch iawn o fod yn enillydd cyntaf Gwobr CairDyfeisio. Rwyf wedi bod yn datblygu'r syniad y tu ôl i Papora ers yr oeddwn yn 16 ac mae'r gystadleuaeth hon wedi rhoi cyfle i mi ei brofi o flaen panel o bobl busnes profiadol sydd wedi bwrw llygad beirniadol drosto fel cynnig busnes. Diolch byth, maent wedi gweld y potensial a rhoi i mi bleidlais o hyder sylweddol."

"Rwy'n credu'n gryf y dylai unrhyw un yn unrhyw le yn y byd gael y cyfle i ddysgu ieithoedd newydd, beth bynnag fo'u hamgylchiadau economaidd. Am y rheswm hwn bydd Papora bob amser yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio. Fodd bynnag, yr wyf hefyd yn awyddus i ymchwilio i'r posibilrwydd o ddatblygu gwasanaethau lefel uwch ar y safle y gall rhai pobl fod yn barod i dalu amdanynt, "ychwanegodd.

Roedd Jake yn un o chwech i gyrraedd rownd derfynol a chyflwyno eu cynigion busnes i banel o bum beirniad.

Cadeirydd panel beirniaid Gwobr CaisDyfeisio oedd Nigel Davies, gŵr sy’n raddedig o Aberystwyth a sefydlydd Innoval Technology, cwmni ymgynghori ar dechnoleg o’r Deyrnas Gyfunol a brynwyd yn ddiweddar gan Danieli, cwmni rhyngwladol o’r Eidal.

Dywedodd Nigel: "Llongyfarchiadau mawr i bawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol am eu gwaith. Mae gwaith Jake yn eithriadol ac eisoes yn boblogaidd. Bydd y beirniaid yn dilyn gyda diddordeb mawr sut y bydd y cysyniad hwn yn datblygu wrth iddo fuddsoddi arian y wobr er mwyn datblygu Papora."

"Mae'n bwysig cydnabod cefnogaeth cyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth er mwyn gwneud y gystadleuaeth yn bosibl. Ychydig iawn o brifysgolion yn y DG sydd wedi llwyddo i gyllido cystadleuaeth arloesol fel hon o gyfraniadau cyn-fyfyrwyr. Rydym yn hynod ddiolchgar iddynt am eu cefnogaeth, prawf eto o’r parch mawr sydd ganddynt tuag at eu cyn-brifysgol."

Ar ôl cwblhau ei astudiaethau yn Ysgol John of Gaunt yn ei dref enedigol, Trowbridge yn Wiltshire, treuliodd Jake flwyddyn yn gweithio i gwmni datblygu cyrsiau iaith ar-lein yn Tarragona, Catalunia.

Arweiniodd ei gariad at yr iaith Sbaeneg a’i diddordeb mewn marchnata ef i astudio Marchnata a Sbaeneg yn Aberystwyth, un o ychydig o brifysgolion yn y DG sy’n cynnig y cyfuniad.

Ym mis Medi 2013 bydd Jake yn dychwelyd i Sbaen am flwyddyn fel rhan o'i radd. Ar hyn o bryd mae’n aros i glywed a yw wedi cael ei dderbyn i astudio yn un o ysgolion busnes mwyaf blaenllaw’r wlad yn Barcelona.

Ar ôl graddio, mae'n bwriadu canolbwyntio ei ymdrechion ar adeiladu Papora yn fusnes ar-lein rhyngwladol llwyddiannus.

Y pump arall i gyrraedd rownd derfynol Gwobr CaisDyfeisio oedd Michael Konieczny (Adran Ieithoedd Ewropeaidd), Marc Diaper (Ysgol Rheolaeth a Busnes) Alex Pitchford (Sefydliad Mathemateg a Ffiseg), Luke Marr (Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol) a Mick McMonagle (Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig).

Cafodd cynigion Alex Pitchford a Mick McMonagle ganmoliaeth arbennig gan y beirniaid.

InvEnterPrize

Lansiwyd Gwobr CaisDyfeisio gan Brifysgol Aberystwyth ym mis Medi 2012 er mwyn annog entrepreneuriaeth ac ysgogi syniadau newydd ar gyfer cynnyrch neu wasanaethau y gellid eu datblygu yn fusnesau llwyddiannus. Mae’n agored i holl fyfyrwyr y Brifysgol.

Cyrhaeddodd chwe myfyriwr y rownd derfynol a chyflwyno eu gwaith i banel o bum beirniad o dan gadeiryddiaeth un o raddedigion Aberystwyth a chyfarwyddwr sylfaenydd Innoval Technology, Nigel Davies.

Aelodau eraill y panel oedd Jane Clayton, Cadeirydd Bay Leisure Limited a Chyfarwyddwr Practis Graham Evans & Partners LLP, y mentrwr cyfalafol profiadol Tony Diment, Peter Gradwell, sylfaenydd Gradwell dot com Ltd, a Huw Morgan, cyn-Bennaeth Bancio Busnes yn HSBC Bank plc.

Trefnwyd y gystadleuaeth gan Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori a darparwyd y wobr gyntaf o £20,000 gan gyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, drwy Gronfa Flynyddol y Brifysgol.

Gall yr enillydd ddefnyddio'r arian i ariannu costau sefydlu, mentora technegol, amddiffyn eiddo deallusol a llawer mwy.

Y Gronfa Flynyddol

Cronfa Flynyddol Prifysgol Aberystwyth yw'r ymgyrch flynyddol codi arian fwyaf llwyddiannus gan brifysgol yng Nghymru.

Dros y tair blynedd diwethaf cododd y Gronfa Flynyddol dros £750,000 gan gyn-fyfyrwyr i ariannu nifer o brosiectau gan gynnwys ysgoloriaethau ôl-raddedig, cyfleusterau ac offer newydd ar gyfer cymdeithasau chwaraeon myfyrwyr, a chronfa galedi sy'n cynorthwyo myfyrwyr i oresgyn anawsterau ariannol annisgwyl.

Cefnogodd cyfranwyr ymgyrch 2011/12 y Gronfa Flynyddol y nod o annog entrepreneuriaeth a phosibiliadau gyrfaoedd newydd a arweiniodd at greu'r gystadleuaeth Gwobr CaisDyfeisio a'r wobr gyntaf o £20,000.

AU9013