Rhoi’r gorau iddi

Dim Smygu Cymru

Dim Smygu Cymru

11 Mawrth 2014

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyngor ar roi’r gorau i smygu a phrawf cynhwysedd ysgyfaint ar ddydd Mercher 12 Mawrth fel rhan o Ddiwrnod Dim Smygu.

Bydd Ymgynghorydd Ffordd Iach o Fyw proffesiynol o Dim Smygu Cymru ar gael yn Llyfrgell Hugh Owen (Llawr D) o 10 y bore tan 3 y prynhawn i ddarparu gwybodaeth am y peryglon sy’n gysylltiedig â smygu ynghyd â chyngor gwerthfawr ac adnoddau rhad ac am ddim i’ch helpu i roi’r gorau iddi.

Bydd cyfle hefyd i smygwyr a phobl nad ydynt yn smygu, gymryd prawf cynhwysedd ysgyfaint rhad ac am ddim (spriometry) yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol o dan oruchwyliaeth staff hyfforddedig o'r Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff .

Pum munud yn unig sydd eu hangen er mwyn cwblhau’r prawf a fydd hefyd ar gael rhwng 10 y bore a 3 y prynhawn. Bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn cael eu cynnwys mewn raffl am ddim.

Ymysg y gwobrau mae sesiwn hyfforddi personol; sesiwn cryfder a chyflyru; 30 munud o hypnotherapi (ymlacio sylfaenol); sesiwn tylino chwaraeon 30 munud; asesiad ffitrwydd cyflawn a sesiwn ymgynghori ffordd o fyw.

Mae gweithgareddau'r diwrnod yn cael eu trefnu gan Hyrwyddwr Iechyd y Brifysgol, Michele Presacane.

Dywedodd Michelle: “Nid yw rhoi'r gorau iddi yn hawdd, ond nid yw’n amhosibl chwaith. Mae’r gefnogaeth sydd ar gael yn cynyddu’r tebygolrwydd o lwyddo, felly galwch i’n gweld.”

“Mae manteision byr a hir dymor o roi’r gorau i dybaco. O fewn 20 munud i roi'r gorau iddi bydd pwysedd gwaed a chyfradd y galon yn gostwng yn sylweddol, ac ar ôl 12 awr bydd lefel y carbon monocsid yn y corff hefyd yn gostwng.

“Yn yr hirdymor mae’r manteision yn cynnwys llai o beswch a bod yn fyr o anadl, gwell cylchrediad, gostwng risg o glefydau’r galon a strôc, a risg is o ganser yr ysgyfaint, y geg, y gwddf a'r bledren.

"Byddai rhoi'r gorau iddi hefyd yn golygu cael mwy o arian yn eich poced. Os ydych yn ysmygu un pecyn o sigaréts y dydd byddwch yn gwario tua £7.47. Mewn wythnos mi fyddwch wedi gwario £52.29 sydd yn £222.23 mewn mis. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn gallu archebu'r gwyliau yr ydych wedi bod breuddwydio amdano gan eich bod wedi smygu £2,719.08 dros y flwyddyn!”

“Cofiwch felly fod gennych y cyfle i roi’r gorau i dybaco, dyw hi byth yn rhy hwyr! Galwch draw ar y 12 Mawrth am gymorth.”

Cliciwch yma am rhagor o fanylion am yr hyn sy'n cael ei wneud ym Mhrifysgol Aberystwyth i greu amgylchedd gwaith cadarnhaol a chefnogol.

AU5814