Llwyddiant Llanelli

Pafiliwn pinc y maes

Pafiliwn pinc y maes

18 Awst 2014

Llongyfarchiadau i ddau o gynfyfyrwyr Aber ar eu llwyddiant llenyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Cipiodd Lleucu Roberts y ddwy brif wobr i lenorion, sef Gwobr Goffa Daniel Owen am y nofel Rhwng Edafedd a’r Fedal Ryddiaith am y gyfrol Saith Oes Efa.

Wrth draddodi’r feirniadaeth, dywedodd un o’r beirinaid Catrin Beard fod yr awdur “yn trin iaith yn gyson gelfydd, a’i champ yw peidio â gwthio’r gelfyddyd i’ch wyneb – y pleser yw dychwelyd drachefn a thrachefn, a chanfod rhywbeth newydd o hyd.

“Mae Saith Oes Efa’ n gyfrol sy’n haeddu ei lle ar unrhyw silff lyfrau. Dyma enillydd teilwng sy’n llawn haeddu’r Fedal Ryddiaith gyda phob clod.”

Mae Lleucu'n awdur ac yn gyfieithydd amser llawn. Cyhoeddodd 6 nofel i oedolion a 5 nofel i blant ac oedolion ifanc. Enillodd wobr Tir na-n-Og ddwywaith.

Y Prifardd Ceri Wyn Jones oedd enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr.

‘Lloches’ oedd yr awdl ac yn ôl un o’r beiriniaid, Llion Jones, “Dyma fardd ag egni yn ei ieithwedd a dawn loyw i amrywio’i gyweiriau i bwrpas.

"[Mae e’n] codi cwestiynau anodd y byddai’n llawer haws dianc a cheisio lloches rhagddynt . Ond fel y dywedodd y bocsiwr Joe Louis gynt, fe gawn redeg a rhedeg ond does dim cuddio i fod.”

Mae Ceri yn fardd poblogaidd. Cyrhaeddodd ei gyfrol Dauwynebog y rhestr fer o dri ar gyfer gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2008. Mae ei gerddi’n destunau gosod ar gyfer cyrsiau Lefel A a Gradd. Bu’n Fardd Plant Cymru, ac ef ers 2012 yw Meuryn cyfres radio Y Talwrn.

Meddai Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor, “Mae’n bleser mawr llongyfarch Lleucu Roberts a Ceri Wyn Jones, dau o raddedigion y Brifysgol, ar eu llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.  Ac mae’n braf nodi fod y ddau yn gyn-ddisgyblion ysgolion y sir – Ysgol Gyfun Penweddig yn achos Lleucu ac Ysgol Uwchradd Aberteifi yn achos Ceri Wyn.
 
"Cyflawnodd y ddau gamp-ddwbl go eithriadol yn eu ffyrdd eu hunain.  Ymuna Ceri Wyn Jones â rhengoedd y rhai sydd wedi cipio’r Gadair ddwywaith.  Cyflawnodd Lleucu Roberts gamp unigryw yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol drwy ennill y ddwy brif wobr Rhyddiaith – Gwobr Goffa Daniel Owen a’r Fedal Ryddiaith – yn yr un Eisteddfod.
 
"Mae Adran y Gymraeg ac Adran y Saesneg a’r Brifysgol gyfan yn ymfalchïo yn eu cyn-fyfyrwyr ac mae’n dangos fod Prifysgol Aberystwyth yn meithrin doniau ysgrifennu creadigol o’r radd flaenaf.”

 

AU33814