Cynnal Ffair Werdd gyntaf y Brifysgol

Trefnwyr Heather Crump a Christopher Woodfield

Trefnwyr Heather Crump a Christopher Woodfield

24 Hydref 2014

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal ei 'Ffair Werdd' gyntaf erioed ar ddydd Mercher 29 Hydref.

Mae'r Ffair wedi'i hanelu at staff a myfyrwyr sydd â diddordeb mewn materion gwyrdd, cynaliadwyedd, gwirfoddoli a'r amgylchedd a bydd yn cael ei chynnal yn Undeb y Myfyrwyr rhwng 10yb-4yp. Mae'n un o'r cyntaf o'i bath yng Nghymru.

Bydd sefydliadau megis y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB), Cyngor Sir Ceredigion a Chyfeillion y Ddaear yn bresennol.

Bydd un ar ddeg o seminarau yn cael eu cynnal drwy gydol y dydd ar bynciau fel ailgylchu, cynaliadwyedd a masnach deg gyda threfnwyr yn gobeithio y bydd yn darparu "llwyfan rhyngweithiol" ar gyfer y rhai sy'n bresennol.

Nod y Ffair yw cynyddu ymwybyddiaeth o faterion cynaliadwyedd a thanlinellu ymrwymiad Prifysgol Aberystwyth i gyflawni ei nodau strategol o wella rheoli gwastraff a dŵr, a lleihau ei ôl-troed carbon.

Dywedodd Ymgynghorydd Amgylcheddol a threfnydd y Brifysgol, Heather Crump; “Roeddwn i'n meddwl bod bwlch yn y ffeiriau presennol ac mae hwn yn rhoi cyfle delfrydol i ni arddangos materion gwyrdd a chynaliadwy, tynnu sylw at yr hyn sy'n digwydd yn yr ardal leol a'r Brifysgol ynghylch cynaladwyedd amgylcheddol.”

Dywedodd y cyd-drefnydd, Chris Woodfield; “Bydd y Ffair yn darparu'r cyfle i ymgysylltu myfyrwyr â chynaliadwyedd yn y Brifysgol a rhoi cyfle i bobl i ddysgu, a rhoi cynnig ar rywbeth newydd."

Yr hashtag ar gyfer y digwyddiad fydd #FfairWerddPA

Mae rhestr lawn o’r sefydliadau fydd yn bresennol a rhaglen y sgyrsiau ar gael isod:

•        Aber Beach Buddies

•        Aber Food Coop

•        Beacon

•        Biffa

•        Canolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion

•        Canolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth

•        Canolfan Organig Cymru

•        Y Ganolfan Dechnoleg Amgen (CAT)

•        Cyfeillion y Ddaear / Grŵp Antifracking

•        Cyngor Sir Ceredigion

•        Cymdeithas Amgylcheddol Prifysgolion a Cholegau (EAUC)

•        Gardd Myfyrwyr

•        Gardd Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth

•        Grŵp Blackout Prifysgol Aberystwyth

•        Grŵp gofal yr Arfordir Prifysgol Aberystwyth

•        Gwasanaethau Campws Prifysgol Aberystwyth

•        Gwirfoddolwyr Cadwraeth Prifysgol Aberystwyth

•        Masnach Deg Cymru & Aberystwyth

•        Adnoddau Naturiol Cymru

•        Prosiect Gweilch Dyfi

•        y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB)

•        Ymchwil Miscanthus, IBERS 

•        Ysgol Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth

Yn ogystal, bydd taflenni ar gael gan Gyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd (FSC), Coed Cadw, Surfers Against Sewage ac Operation Wallacea a WRAP Cymru.

Rhaglen y seminarau:

10.15 - Sgiliau maes adnabod a phrofiad ymarferol - cyrsiau maes bywyd a chadwraeth ecoleg - Ysgol Dysgu Gydol Oes

10.30 - Ffreutur Gwyrdd - Canolfan Organig Cymru

11.00 - Ailgylchu yng Ngheredigion - Cyngor Sir Ceredigion

11.30 - Pam Masnach Deg? Cyflwyniad i Fasnach Deg yn Ffair Fasnach Deg gyntaf y Byd - Masnach Deg Cymru

12.00 - Camau bach i Gynaliadwyedd - Gwasanaethau Campws PA

12.30 - Ymateb i Straen - Canolfan Chwaraeon PA

1.00 - Prifysgol gynaliadwy - Cymdeithas Amgylcheddol Prifysgolion a Cholegau

1.30 - Prydain Di-Garbon - Canolfan y Dechnoleg Amgen (CAT)

2.00 - Gwyrdd yw'r Du Newydd - Beacon

2.30 - Miscanthus, deng mlynedd o waith ymchwil yn IBERS - Ymchwil Miscanthus, IBERS

3.30 - Trosolwg o Adnoddau Naturiol Cymru fel sefydliad - Adnoddau Naturiol Cymru

4.00 – Gorffen