Goruchaf Lys y Deyrnas Gyfunol – Beth mae’r cyhoedd yn ei weld?

‘Twickenham’ gan Isobel Williams

‘Twickenham’ gan Isobel Williams

13 Ebrill 2015

Bydd yr artist a’r blogiwr, Isobel Williams yn cyflwyno darlith gyhoeddus ddarluniadol yn Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth, ar ddydd Mercher 22ain Ebrill am 18.15, gan rannu ei phrofiadau o dynnu lluniau o’r seddi cyhoeddus yn y Goruchaf Lys.

Pam mae'n ei wneud, a sut y llwyddodd i gyrraedd yno? Bydd darlith Isobel, gyda llu o'i lluniau, yn disgrifio sut mae tynnu lluniau o bobl o dan yr A40 a'r gwersylloedd protestio Occupy wedi'i harwain i lys uchaf y wlad.

Bydd hi'n cynnwys ei meddyliau a'i lluniau am achos Nicklinson, sef yr achos 'hawl-i-farw' y gwrandawyd arno yn y Goruchaf Lys.

Cynhelir y digwyddiad yn Ystafell EM 1.21, Adeilad Elystan Morgan yng Nghanolfan Llanbadarn, Prifysgol Aberystwyth. Mae’r ddarlith yn agored i bawb a does dim angen cadw lle ymlaen llaw.

AU11715