Pen-blwydd Hapus William Shakespeare!

Soned 30

Soned 30

23 Ebrill 2015

Mae dau aelod o staff Prifysgol Aberystwyth, Dewi Huw Owen, Swyddog Ymchwil yn Sefydliad Mercator, ac Adam Wilson, Datblygwr Cyfryngau Newydd yn Adran Farchnata’r Brifysgol, wedi bod wrthi’n ddyfal dros yr wythnosau diwethaf yn paratoi ffilm fer i ddathlu pen-blwydd William Shakespeare, sef yr 23ain o Ebrill.

Yn y ffilm, perfformir ‘Soned 30’, cerdd o eiddo Shakespeare, gan gast eang ac amlieithog.

Dechreuir a gorffennir y perfformiad gyda llinellau o gyfieithiad Cymraeg Hynek Janoušek, brodor o Brag sy’n fyfyriwr MA yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, ar hyn o bryd.

Mae’r cyfieithiad hwn, ynghyd â’r gwreiddiol Saesneg, i’w gweld yn eu cyfanrwydd yn isdeitlau’r fideo.

Darllenir gweddill llinellau’r soned gan adroddwyr o bedwar ban byd mewn llawer iawn o ieithoedd gwahanol, o’r Sbaeneg i’r Lydaweg, o’r Fasgeg i’r Ffinneg, o’r Tsiecheg i’r Eingl-Sacsoneg, a llawer mwy.

Dywedodd Dewi Huw Owen: “Dethlir yn y gwaith gyfoeth ein llên fyd-eang, dylanwad parhaol Shakespeare ar ddiwylliannau ein byd, ac amrywiaeth cain ieithoedd dyn.”

Mae ymron i bob un o’r adroddwyr yn y fideo wedi bod, ar ryw adeg, yn fyfyrwyr neu’n staff ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gyffredinol, ac yng Nghanolfan Mercator yn benodol.

Mae’r ffilm yn rhan o arlwy Blog Cronfa Cyfieithiadau’r Gymraeg, sef y blog wythnosol y mae Huw yn ei gadw i gyd-fynd â’i waith gyda Phrosiect Sefydliad Mercator a Phrifysgol Aberystwyth ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i lunio catalog disgrifiadol ar-lein o gyfieithiadau i'r Gymraeg ym meysydd y Dyniaethau, y Celfyddydau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.

Ers mis Hydref 2014, mae Huw wedi cyhoeddi blogiau am gyfieithiadau o gerddi, caneuon, ffilmiau, nofelau, dramâu, cyfryngau newydd, gwaith celf, deunydd ffeithiol, dogfennau cyfreithiol, a llawer, llawer mwy.

Gellir darllen y rhain oll, a dilyn y blogiau diweddaraf hefyd, drwy glicio ar https://cyfieithiadau.wordpress.com/.

Gellir hefyd ymweld â’r Gronfa ei hunan, sy’n cynnwys yn agos at 800 o gyfieithiadau o ymron i 40 o ieithoedd bellach, ar https://www.porth.ac.uk/cyfieithiadau/.

Lansiwyd y ffilm y bore ‘ma (dydd Iau), felly cliciwch yma  https://cyfieithiadau.wordpress.com/2015/04/22/pen-blwydd-hapus-william-shakespeare/ i alw draw at y blog i gael mwynhau ffrwyth llafur Adam, Huw a’u cyfeillion, ac ymuno â nhw i ddymuno pen-blwydd hapus, ac amlieithog, i William Shakespeare.

A chofiwch, fel y nodir ar arwyddair y blog ei hun, “Bob dydd Iau, bydd #cyfieithiadau!”

Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant
Crewyd Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant (Mercator: Cyfryngau’n wreiddiol) ym 1988 yn dilyn argymhelliad gan Senedd Ewrop i lywodraethau aelod - wladwriaethol a’r Comisiwn Ewropeaidd ddechrau gweithio’n gadarnhaol er mwyn cydnabod ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol. O’r cychwyn cyntaf bu’r Sefydliad yn ymrwymo i gasglu, cadw, dadansoddi a chylchredeg gwybodaeth am ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol yn yr Undeb Ewropeaidd fel rhan o Rwydwaith o ganolfannau ymchwil arbenigol.

Heddiw, lleolir Sefydliad Mercator yn yr Adran Astudiaethau Ffilm, Theatr a Theledu, AILICC, Prifysgol Aberystwyth, Cymru. Yn gartref i nifer o brosiectau sydd yn arbenigo ym meysydd ieithoedd, cyfieithu creadigol a llenyddol, cyfryngau, cyhoeddi a diwylliant, mae’n cyflawni rhan fawr o’i gweithgarwch fel rhan o rwydweithiau eang o sefydliadau, prifysgolion,  cwmnïoedd, asiantaethau, cymdeithasau ac unigolion ar draws Ewrop, ac hefyd tu hwnt yn fwyfwy. Mae ieithoedd lleiafrifol yn rhan ganolog o weledigaeth Sefydliad Mercator, gyda’r rhan fwyaf o’r prosiectau’n canolbwyntio’n benodol ar yr ieithoedd hyn a’u cyd-destunau.