Gwobr Arian Safon Iechyd Corfforaethol i Brifysgol Aberystwyth

Aelodau staff Prifysgol Aberystwyth yn dathlu derbyn Gwobr Efydd y Safon Iechyd Corfforaethol a gyflwynwyd i’r Brifysgol ym mis Mawrth.

Aelodau staff Prifysgol Aberystwyth yn dathlu derbyn Gwobr Efydd y Safon Iechyd Corfforaethol a gyflwynwyd i’r Brifysgol ym mis Mawrth.

29 Ebrill 2015

Dyfarnwyd Gwobr Arian y Safon Iechyd Corfforaethol, marc ansawdd hyrwyddo iechyd yn y gweithle Llywodraeth Cymru, i Brifysgol Aberystwyth.

Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n gyfrifol am ddarparu Safon Iechyd Corfforaethol ac mae sefydliadau yn cael eu hasesu ar draws pedair lefel, o gategorïau efydd, arian, aur a phlatinwm mewn perthynas â’u hymarferion i hyrwyddo iechyd a lles eu gweithwyr.

Dyfarnwyd Gwobr Efydd Y Safon Iechyd Corfforaethol i Brifysgol Aberystwyth ym mis Gorffennaf 2014.

Dywedodd Dirprwy Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol Prifysgol Aberystwyth, Heather Hinkin: “Mae hwn yn newyddion gwych. Mae derbyn y Wobr Arian o fewn llai na blwyddyn i dderbyn yr Efydd yn dystiolaeth o’r hyn yr ydym wedi ei gyflawni.

“Mae llawer o waith rhagorol yn digwydd yma ym Mhrifysgol Aberystwyth i gynyddu a hybu iechyd a lles ymysg staff a myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys ymwybyddiaeth straen, hyrwyddo dewisiadau bwyd iach yn ein llefydd bwyta, y fenter Ffit ac Iach, cefnogi pobl sydd eisiau rhoi’r gorau i ysmygu, ac ymgyrch Teithio’r Byd sy’n cymell pobl i ymarfer yn gyson.”

“Hoffwn ddiolch i’r Grŵp Llywio Iechyd Corfforaethol a’r staff am eu cyfraniadau at y gwaith o hyrwyddo iechyd a lles ym Mhrifysgol Aberystwyth, a gosod y sylfeini ar gyfer ennill y wobr hon.”

Fel mentrau ansawdd eraill yn y gweithle, mae’n rhaglen raddol a chaiff sefydliadau eu hail-asesu bob tair blynedd.

Mae’r gwaith i gyflawni'r Safon yn gyson â'r model rhagoriaeth busnes, a ddefnyddir i ysgogi datblygiad ansawdd a datblygiad sefydliadol mewn llawer o sefydliadau.

Ceir mwy o wybodaeth am Safon Iechyd Corfforaethol yma.