Lleoliad ôl-ddoethurol uchel ei fri yn Princeton i fyfyriwr Mathemateg uwchraddedig o Brifysgol Aberystwyth

Christian Arenz

Christian Arenz

13 Mai 2016

Mae Christian Arenz, a gwblhaodd ei radd PhD yn ddiweddar yn Adran Fathemateg Prifysgol Aberystwyth, wedi cael cynnig swydd uchel ei bri fel Cymrawd Ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Princeton yn yr Unol Daleithiau.

Dechreuodd Christian ei yrfa academaidd ym Mhrifysgol Saarbrücken yn yr Almaen lle’r enillodd radd Ffiseg a Chrefydd yn 2012.

Enillodd Ysgoloriaeth Datblygu Gyrfa Ddoethurol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2013, a dechrau ei astudiaethau PhD dan oruchwyliaeth Dr Daniel Burgarth yn y Grŵp Strwythurau Cwantwm, Gwybodaeth a Rheolaeth yn yr Adran Fathemateg.

Mae’r Grŵp Strwythurau Cwantwm, Gwybodaeth a Rheolaeth yn un o bedwar grŵp ymchwil blaenllaw yn yr Adran Fathemateg, ac yn gweithio ym maes systemau cwantwm a’u hymwneud â’u hamgylchedd, ac yn enwedig ym maes peirianneg rheolaeth gwantwm sy’n prysur ddatblygu.

Roedd gwaith ymchwil Christian yn canolbwyntio ar ddadansoddi rheolaeth ar systemau cwantwm agored gan ddefnyddio dulliau damcaniaethau rheoli.

Mae gwaith Christian yn Aberystwyth wedi ei alluogi i barhau â’i yrfa ym Mhrifysgol Princeton, sydd ar hyn o bryd yn 7fed yn rhestr Prifysgolion y Byd y Times Higher Education.  Bydd ei Gymrodoriaeth Ôl-ddoethurol yn dechrau ar 1 Mehefin 2016.

Meddai Christian: “Mae’n gyffrous iawn cael mynd i America i weithio mewn lle a chanddo draddodiad gwych, ac i astudio gydag arbenigwyr blaenllaw. Bydd y gwaith yn datblygu’r gwaith rwyf wedi ei wneud yma yn Aberystwyth. Rwyf wedi mwynhau fy ngradd PhD, fy amser yma a’r amgylchedd hyfryd.”

Yn Princeton bydd yn astudio Rheolaeth Gwantwm, a rheolaeth allanol ar system gwantwm drwy laseri.  Bydd ei waith yn cynnwys datblygu model mathemategol i lywio system gymhleth tuag at nod penodedig, ymchwilio i strategaethau ar gyfer defnyddio deinameg swnllyd fel adnodd i reoli systemau cwantwm, yn ogystal ag astudio cyfrifiannu cwantwm, maes sy’n prysur dyfu.

I gael gwybod mwy am grwpiau ymchwil yr Adran Fathemateg ewch i: https://www.aber.ac.uk/en/maths/research/

AU14616