Interniaeth yn Saudi Arabia i fyfyrwraig IBERS

Janna Leigh Randle

Janna Leigh Randle

18 Mai 2016

Mae Janna Leigh Randle yn ei thrydedd blwyddyn yn astudio Bioleg y Môr a Dŵr Croyw yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), ac yn un o ddim ond tri o fyfyrwyr ledled y byd i dderbyn interniaeth fawreddog ym Mhrifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Y Brenin Abdullah (KAUST) yn Saudi Arabia.

Wedi i Janna raddio ym mis Gorffennaf eleni, mi fydd yn cychwyn ar interniaeth 6 mis yn astudio ecosystemau ac effeithiau newidiadau yn y tymheredd ar rîffiau cwrel yn y Môr Coch, ble nad oes fawr  o ymchwil wedi ei wneud hyd yma.

Bydd Janna yn gweithio i’r Athro Carlos Duarte, arbenigwr byd enwog ar effeithiau newid hinsawdd mewn ecosystemau morol, ac a fu’n siaradwr yng Nghynhadledd COP 21 y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd ym Mharis y llynedd.

Dywedodd Janna "Rwyf wrth fy modd i dderbyn y cyfle unigryw hwn mor gynnar yn fy ngyrfa. Rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod fy nghyd interniaid ac yn methu aros i fynd i’r afael â’r ymchwil yn Saudi Arabia.

Mae astudio ar gyfer gradd mewn Bioleg y Môr a Dŵr Croyw yn swnio fel dewis annhebygol i berson ifanc o Barnoldswick wledig ger Skipton yn Swydd Gaerhirfryn, ond rwyf wrth fy modd â’r pwnc ac mae gen i halen yn fy ngwaed –roedd fy hen ewythr yn forwr masnachol a mae fy nhad yn dod o Whitby ac yn bysgotwr brwd cyn iddo gychwyn sgwba-blymio."

Fe ddewisodd Janna ddod i Brifysgol Aberystwyth dros Newcastle am ddau brif reswm. Bu ei phrofiad o’r Diwrnod Agored yn y ddinas yn llethol; ond roedd darlithwyr IBERS yn angerddol ac yn ysbrydoledig, a'r addewid o allu cymryd rhan mewn ymchwil fel myfyriwr israddedig seliodd y fargen.

Yn ogystal ag astudio a mynychu teithiau maes ym Mhortiwgal a'r Alban, yn ei hail flwyddyn yn Aberystwyth fe ymgeisiodd Janna am, a chael swydd Cynorthwy-ydd Ymchwil yn gweithio gyda myfyrwyr PhD yn canolbwyntio ar effeithiau dynol yn yr amgylchedd morol.

Mae Janna yn chwarae rhan mewn fideo ar wefan IBERS yn rhoi barn myfyriwr o fyw yn Aberystwyth "Nid wyf wedi bod adref eleni ... fe arhosais yn Aber dros yr haf ... dyna faint yr wyf wrth fy modd yma" meddai.

Tra'n edrych ymlaen at ei chyfnod yn Saudi Arabia mae hi'n dweud y bydd yn gweld eisiau’r dref a bydd yn bendant yn dychwelyd.

Mae gan Janna gymwysterau morol trawiadol – bu’n snorclo ers yn 7 oed ac mae wedi bod yn sgwba-blymiwr brwd ers yn 11. Roedd yn blymiwr achub yn 16 oed a chymhwyso fel  Divemaster yn y Caribî yn 18 oed cyn dod i'r Brifysgol .

Mae hi wedi cael profiad cadwraeth morol pob haf gan gynnwys Interniaeth Cadwraeth Morol yng Ngwlad Thai a chwblhaodd gwrs Ecoleg Rîff Cwrel yn y Maldives ar ddiwedd ei hail flwyddyn, ble ddatblygodd diddordeb mewn effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd Dr Pippa Moore, Cydlynydd y Cynllun ar gyfer Bioleg y Môr a Dŵr Croyw ac Arweinydd y Thema Anifeiliaid a Gwyddorau Dyfrol yn IBERS "Mae Janna yn fyfyriwr hynod frwdfrydig gydag angerdd gwirioneddol ar gyfer systemau morol a'u cadwraeth. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd y cyfle hwn yn labordy yr Athro Duarte yn garreg gamu i yrfa hynod lwyddiannus mewn bioleg y môr "


AU17016