Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2017

Dr Dawn Mannay,un o siaradwyr Creu Dyfodol Cyfartal, Cynhadledd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2017

Dr Dawn Mannay,un o siaradwyr Creu Dyfodol Cyfartal, Cynhadledd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2017

23 Chwefror 2017

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2017.

Bydd y rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau yn rhoi cyfle i fyfyrwyr, staff ac aelodau o'r gymuned leol i ddod a dathlu merched a'u cyflawniadau.

Un o'r prif ddigwyddiadau fydd cynhadledd un-dydd arbennig yn y Brifysgol ddydd Mawrth 7fed Mawrth 2017.

Caiff Creu Dyfodol Cyfartal, Cynhadledd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2017 ei chynnal mewn partneriaeth รข Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru (WEN). Mae'n ddigwyddiad rhad ac am ddim ond mae angen cadw lle.

Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill mae:

  • Trafodaeth ford gron gan yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar yr hyn mae’n ei olygu i fod yn fenyw ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol heddiw.
  • Dangosiad arbennig o 'Dry', ffilm ysbrydoledig yn seiliedig ar stori wir am ferch ifanc yn tyfu fyny yn Nigeria ond a ffilmwyd ar leoliad yn ardal Aberystwyth.

Wrth sôn am y rhaglen o weithgareddau, dywedodd y trefnydd Ruth Fowler: "Ar ôl llwyddiant y llynedd, rydyn ni'n  edrych ymlaen yn eiddgar at Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni. Rydym wedi tynnu rhaglen gyffrous at ei gilydd ac yn falch iawn i groesawu ystod o siaradwyr gwadd gwych. Mae Aberystwyth yn brifysgol gynhwysol ac mae'r digwyddiadau yma ar agor i bawb.’

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn cael ei ddathlu mewn gwledydd dros y byd ar 8 Mawrth ers troad yr ugeinfed ganrif.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cydraddoldeb Prifysgol Aberystwyth, Dr Debra Croft:"Mae digwyddiadau i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod wedi bod yn rhan o'r calendr blynyddol yn Aberystwyth ers blynyddoedd maith. Nod y digwyddiadau yw tynnu sylw at waith a chyflawniadau menywod yn ein sefydliad ac ar draws y byd, ac ar yr un pryd, darparu llwyfan ar gyfer trafodaeth a dadl ar faterion ehangach sy’n wynebu maes cydraddoldeb rhyw.

"Eleni, rydym yn gweithio tuag at adnewyddu Siarter Athena SWAN ac rwy’n mawr obeithio bydd yr amrywiol drafodaethau a sgyrsiau yn llywio ein cynlluniau ar gyfer y tair blynedd nesaf. Mae'r digwyddiadau yn dystiolaeth o'n hymrwymiad parhaus i gydraddoldeb rhwng y rhywiau yn Aberystwyth - cydnabyddiaeth bod cydraddoldeb yn fater i bawb. Bydd digwyddiadau 'Wythnos Un Byd' sydd hefyd yn cael eu cynnal yn ystod yr un wythnos yn tynnu sylw at hyn."