Diddordeb mawr mewn Diwrnod Agored i hyrwyddo ymchwil iechyd a lles yng Ngheredigion

Mr Paul James, a gafodd lawdriniaeth fawr i’r galon yn ddiweddar, yn siarad yn lansiad Uned Ymchwil Asesu Lles ac Iechyd (WARU) Prifysgol Aberystwyth ddydd Mercher 15 Mawrth

Mr Paul James, a gafodd lawdriniaeth fawr i’r galon yn ddiweddar, yn siarad yn lansiad Uned Ymchwil Asesu Lles ac Iechyd (WARU) Prifysgol Aberystwyth ddydd Mercher 15 Mawrth

20 Mawrth 2017

Daeth bron i 200 o bobl leol i’r Diwrnod Agored i lansio Uned Ymchwil Asesu Lles ac Iechyd (WARU) newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Mercher y 15fed o Fawrth.

Mae'r uned wedi ei lleoli yn adeilad Carwyn James ar Gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth ac mi fydd gwyddonwyr yno yn cynnal ymchwil hybu iechyd a lles yn y gymuned, gyda'r nod o helpu i leihau'r baich o glefydau cronig a derbyniadau i'r ysbyty.

Mae Dr Rhys Thatcher yn arbenigwr chwaraeon ac ymarfer corff yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Roeddem yn falch iawn o weld cymaint o aelodau'r gymuned yn cymryd rhan yn y Diwrnod Agored, ac mae llawer ohonynt wedi dangos diddordeb mewn cymryd rhan yn ein prosiectau ymchwil diweddaraf”, dywedodd Dr Thatcher.

“Ein nod yn WARU yw cynnal ymchwil a fydd yn cynnig gwybodaeth i bobl yng nghanolbarth Cymru ac yn eu cefnogi er mwyn eu galluogi i fyw bywydau iachach ac i helpu eu hunain.”

Siaradodd Mr Paul James o Lanbadarn yn ystod y lansiad am ei brofiad o dderbyn cyngor  gan arbenigwyr chwaraeon ac ymarfer corff yn IBERS yn 2015 wrth hyfforddi fel un o'r tîm Taith Tân i godi arian i elusen.

Nid oedd yn sylweddoli ar y pryd ei fod yn dioddef o gyflwr difrifol ar y galon – mae Paul wedi derbyn llawdriniaeth fawr yn ddiweddar ac mae bellach yn gwella ac mae’r broses adferiad yn cynnwys sesiynau ymarfer corff yng Nghanolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth.

Dywedodd Paul: “Roeddwn yn falch o allu rhannu fy stori yn lansiad WARU ac yn credu y gallai uned fel hon wedi fy helpu i adnabod fy mhroblemau iechyd ynghynt ac mi fydd yn gaffaeliad mawr i Geredigion, a chanolbarth Cymru.”

Ar y Diwrnod Agored fe gynhaliwyd amrywiaeth o asesiadau ac arddangosiadau iechyd a lles yn rhad ac am ddim gan gynnwys dadansoddi dietegol, gweithrediad yr ysgyfaint a chyfansoddiad y corff, gweithgarwch corfforol a mesur gallu corfforol, technoleg 'glyfar', ddigidol-gysylltiedig i atgyfnerthu ymddygiad iach a rôl ymarfer corff er mwyn gostwng y perygl o ddatblygu neu waethygu cyflyrau cronig fel diabetes, strôc a chlefyd Parkinson.

Roedd y diwrnod hefyd yn cynnwys cyfres o sgyrsiau ar ystod eang o bynciau sy'n cynnwys strôc, clefyd siwgr ac ymdopi â straen i fyfyrwyr.

Bydd WARU hefyd yn cynnal cyfres o gyfleoedd MOT iechyd rheolaidd, gan ddechrau gyda'r MOT i rai dros 60 oed ar yr 22ain o Fawrth, digwyddiad sydd wedi cael ei gynnal yn llwyddiannus gan Dr Marco Arkesteijn a David Langford o IBERS, gan weithio gyda Age Cymru yn adeilad Carwyn James dros y 3 mlynedd ddiwethaf.