Academydd o Aberystwyth i adolygu Siarter Ieithoedd Lleiafrifol Cyngor Ewrop

Yr Athro Elin H G Jones, Cyfarwyddwr Sefydliad Mercator sydd wedi ei lleoli ym Mhrifysgol Aberystwyth

Yr Athro Elin H G Jones, Cyfarwyddwr Sefydliad Mercator sydd wedi ei lleoli ym Mhrifysgol Aberystwyth

05 Ebrill 2017

Mae academydd blaenllaw o Brifysgol Aberystwyth wedi ei phenodi gan Gyngor Ewrop yn aelod o weithgor a fydd yn adolygu Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol.

Mae’r Athro Elin H G Jones, Cyfarwyddwr Sefydliad Mercator yn Adran Astudiaethau Theatr Ffilm a Theledu, yn ymuno â Gweithgor y Cyfryngau sy’n cyfarfod am y tro cyntaf ym Mrwsel yr wythnos hon (6 a 7 Ebrill 2017).

Ymhlith aelodau eraill y Gweithgor mae’r Athro Tom Moring (Prifysgol Helsinki), yr Athro Birgitta Busch (Prifysgol Fiena), yr Athro Stefan Oter (Prifysgol Hambwrg) a’r Athro Jarmo Lainio (Prifysgol Stockholm).

Cafodd y Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol ei fabwysiadu gan Gyngor Ewrop yn 1992.

Nod y Siarter yw amddiffyn a hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol a rhanbarthol, a sicrhau fod modd i’w siaradwyr eu defnyddio yn gyhoeddus ac yn breifat.

Bydd y Gweithgor yn trafod i ba raddau y mae’r newidiadau sydd wedi digwydd yn y cyfryngau wedi cael effaith ar gyfraith achosion y Siarter ers iddi ddod i rym.

Bydd hefyd yn ystyried y ffordd orau o ymateb i’r newidiadau hyn wrth gyflwyno argymhellion i wladwriaethau unigol ar y camau penodol sydd angen eu gweithredu er mwyn cydymffurfio â gofynion y Siarter ym maes y cyfryngau.

Bydd y Gweithgor yn cwblhau ei argymhellion yn Hydref 2017.

Dywedodd yr Athro Jones: “Dyma gyfle amserol iawn i adolygu sut y mae’r Siarter hon yn effeithio ar faes y cyfryngau, yn enwedig o ystyried y newidiadau pellgyrhaeddol sydd wedi digwydd dros y ddau ddegawd diwethaf – chwyldro mewn technoleg gyfathrebu, dyfodiad y cyfryngau cymdeithasol, newidiadau i fuddsoddiad cyhoeddus a modelau economaidd, ynghyd â globaleiddio cynyddol yng nghyd-destun y cyfryngau.

“Mi wyddom fod y cyfryngau yn holl bwysig i gymunedau ieithyddol, a dydy ieithoedd lleiafrifol neu ranbarthol ddim yn eithriadau i’r rheol honno. Mae’r Siarter yn gonfensiwn rhyngwladol pwysig sydd yn gallu dwyn gwladwriaethau unigol i gyfrif wrth amddiffyn a hyrwyddo’r ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol sydd o fewn eu ffiniau.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio gydag aelodau eraill o Weithgor Cyngor Ewrop ar yr adolygiad yma o’r Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol”.

Croesawyd y penodiad gan yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth University: “Rydym wrth ein boddau fod yr Athro Jones wedi cael ei gwahodd i ymuno â’r Gweithgor hwn o ysgolheigion arbenigol o sawl prifysgol ar draws Ewrop. Mae hyn yn gydnabyddiaeth o’i gwaith dros sawl degawd ym maes cyfryngau ieithoedd lleiafrifol yn ogystal â gwaith Sefydliad Mercator yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.”

Ym mis Tachwedd 2017, bydd Cyngor Ewrop yn cynnal cynhadledd ryngwladol i nodi 25 mlynedd ers creu’r Siarter.

Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol

Mabwysiadwyd y Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol fel confensiwn ar 25 Mehefin 1992 gan Bwyllgor Gweinidogion Cyngor Ewrop, ac fe’i agorwyd ar gyfer ei lofnodi yn Strasbwrg ar 5 Tachwedd 1992. Daeth i rym fel Cytuniad ar 1 Mawrth 1998. Cyfres Cytuniadau Ewrop 148.

Mae’r Siarter yn ymrwymo Gwladwriaethau i gymryd camau gweithredol i hyrwyddo defnydd yr ieithoedd hyn ym meysydd addysg, y llysoedd, gweinyddiaeth, y cyfryngau, diwylliant, bywyd economaidd a chymdeithasol ac wrth gydweithio’n drawsffiniol.

Mae’r Siarter yn mynd y tu hwnt i amddiffyn lleiafrifoedd a gwrth-wahaniaethu, ac mae’n ofynnol ar y Gwladwriaethau i gymryd mesurau gweithredol er lles ieithoedd lleiafrifol.

Mae Cyngor Ewrop yn monitro fod y Siarter yn cael ei gweithredu yn ymarferol ac mae’n rhaid i lywodraethau gyflwyno Adroddiadau Cyfnodol bob tair blynedd.

Gwerthusir yr Adroddiadau hyn gan Bwyllgor Rhyngwladol yr Arbenigwyr ac yna mae Pwyllgor y Gweinidogion, Cyngor Ewrop, yn gwneud Argymhellion i bob gwladwriaeth yn unigol.

Hyd yma mae 33 o’r 47 aelod wladwriaeth o Gyngor Ewrop (nid yr Undeb Ewropeaidd) wedi llofnodi’r Siarter, ac mae 25 o’r rhain wedi ei gadarnhau : yr Almaen, Armenia, Awstria, Bosnia a Hersegofina, Croatia, Cyprus, Denmarc, y Deyrnas Unedig, y Ffindir,  Hwngari, yr Iseldiroedd, yr Iwcrain, Liechtenstein, Lwcsembwrg, Montenegro, Norwy, Gwlad Pwyl, Rwmania, Serbia, Slofacia, Slofenia, Sbaen, Sweden, y Swistir a’r Weriniaeth Tsiec. Yn y gwladwriaethau hyn, mae’r Siarter yn amddiffyn ac yn hyrwyddo 79 o ieithoedd a ddefnyddir gan 203 o grwpiau ieithyddol/lleiafrifoedd cenedlaethol.

 

AU13217