Athro yn y Gyfraith yn Aberystwyth wedi’i ethol yn Is-Lywydd corff hawliau dynol Ewropeaidd

Yr Athro Ryszard Piotrowicz

Yr Athro Ryszard Piotrowicz

07 Ebrill 2017

Mae’r Athro Ryszard Piotrowicz o Ysgol y Gyfraith, Aberystwyth wedi cael ei ethol yn Is-Lywydd GRETA, sef Grŵp Arbenigwyr Cyngor Ewrop ar Weithredu yn erbyn Masnachu Pobl.

GRETA yw un o brif gyrff hawliau dynol Cyngor Ewrop. Mae’n monitro sut mae gwledydd Ewropeaidd yn cyflawni eu dyletswydd i amddiffyn hawliau pobl sy’n cael eu masnachu yn ogystal â’u hymdrechion i erlyn masnachwyr pobl.

Etholwyd yr Athro Piotrowicz i GRETA yn wreiddiol yn 2012, ac fe wasanaethodd am dymor pedair blynedd, cyn cael ei ail-ethol am ail dymor ym mis Tachwedd 2016. 

Cafodd ei ethol gan ei gymheiriaid i weinyddu fel Is-Lywydd yn 28fed cyfarfod GRETA a gynhaliwyd yn Strasbourg rhwng 27-31 Mawrth 2017. Bydd yn gwasanaethu am dymor o ddwy flynedd.

Yn sôn am gael ei ethol, dywedodd yr Athro Ryszard Piotrowicz: “Rwy’n hynod falch o gael fy ethol gan fy nghydweithwyr yn GRETA i fod yn Is-Lywydd. 

“Fel aelod o GRETA rwyf wedi ymweld â nifer o wledydd Ewropeaidd i asesu eu cydymffurfiaeth â’r gyfraith ac i argymell camau a mesurau ymarferol i helpu pobl sy’n cael eu masnachu. 

“Fel Is-Lywydd byddaf yn parhau â’r gwaith hwn, ond byddaf hefyd yn cyfrannu at drefnu gweithgareddau GRETA, yn cynnwys penderfynu ar flaenoriaethau gweithredu a mentrau eraill y gallwn eu cymryd i annog gwledydd i wneud mwy.”

Yr Athro Ryszard Piotrowicz
Ac yntau'n hanu o'r Alban, astudiodd yr Athro Piotrowicz ym Mhrifysgolion Dundee, Glasgow, Thessaloniki a Warsaw, yn ogystal ag astudio yn Sefydliad Materion Rhyngwladol Gwlad Pwyl yn Warsaw a Sefydliad Max-Planck y Gyfraith Ryngwladol yn Heidelberg.

Ar ôl cael ei Ddoethuriaeth yn 1987, aeth i fod yn ddarlithiwr ym Mhrifysgol Tasmania, gan aros am ddeng mlynedd ac yna cael ei benodi'n Ddeon ar Gyfadran y Gyfraith.

Cafodd Gadair yn y Gyfraith yn 1999 ac mae hefyd wedi dysgu'r gyfraith ryngwladol ym Mhrifysgolion Glasgow a Durham. Mae'n un o Gymrodorion Alexander-von-Humboldt a bu'n athro gwadd yn y gyfraith ryngwladol mewn sawl gwlad.

Mae'n arbenigo ar gyfraith ymfudo a'r gyfraith ddyngarol ryngwladol, ac ar hyn o bryd mae wrthi'n gweithio'n bennaf ar y materion cyfreithiol sy'n codi o fasnachu pobl.

Mae wedi cynghori cyrff rhyngwladol, llywodraethau cenedlaethol a chyrff anllywodraethol ar y materion hyn. Mae'n aelod o Grŵp Arweinyddiaeth Atal Caethwasiaeth Cymru a bu'n aelod o Grŵp y Comisiwn Ewropeaidd o Arbenigwyr ar Fasnachu Pobl o 2008-15.

Mae'r Athro Piotrowicz wedi gweithio'n eang â sefydliadau rhyngwladol, gan gynnwys y Sefydliad dros Ddiogelwch a Chydweithredu yn Ewrop (OSCE), Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid (UNHCR), Sefydliad Rhyngwladol Ymfudo (IOM) a'r UE.