Ymchwil ôl-raddedig i elwa o gymynrodd

Teulu a ffrindiau’r diweddar Margaret Wooloff gyda myfyrwyr, staff a chyn-fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth yn nodi ei chymynrodd hael i’w chyn-brifysgol.

Teulu a ffrindiau’r diweddar Margaret Wooloff gyda myfyrwyr, staff a chyn-fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth yn nodi ei chymynrodd hael i’w chyn-brifysgol.

13 Hydref 2017

Bydd uchelgais oes un o gyn-fyfyrwyr Aberystwyth i adael etifeddiaeth barhaol i’w halma mater yn cael ei gwireddu yn 2018.

Mae Margaret Wooloff, a fu farw ym mis Hydref 2016, wedi gadael £400,000 yn ei ewyllys i hyrwyddo ymchwil ôl-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd mewn Ffrangeg yn 1943 ac yna gwrs ôl-radd mewn hyfforddiant athrawon.

Treuliodd Margaret Wooloff flynyddoedd cynnar ei gyrfa ddysgu ym Mharis ar ôl y rhyfel. Wedi iddi ddychwelyd i Gymru daeth yn Bennaeth Ysgol Ramadeg y Frenhines Elizabeth i Ferched yng Nghaerfyrddin lle y bu am fwy na 20 mlynedd.

Parhaodd cysylltiad Margaret Wooloff ag Aberystwyth gydol ei hoes ac roedd yn aelod gweithgar o Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr y Brifysgol.

Cyhoeddwyd ei chymynrodd o £400,000 i ariannu ymchwil ôl-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ystod dathliad blynyddol Diwrnod y Sylfaenwyr yn yr Hen Goleg ddydd Gwener 13 Hydref 2017.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure: "Fel athro a phennaeth, rhoddodd Margaret Wooloff ei bywyd i hyrwyddo addysg cenedlaethau o bobl ifanc. Byddwn yn sicrhau bod ei chyfraniad oes yn parhau wrth i’w rhodd hael gefnogi ymchwilwyr gyrfa cynnar ym Mhrifysgol Aberystwyth wrth iddynt ymdrechu i gael effaith Gymru a'r byd. "

Dywedodd Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth, Louise Jagger: "Mae gan Aber le arbennig yng nghalonnau ein cyn-fyfyrwyr ledled y byd. Cadwodd Margaret Wooloff mewn cysylltiad agos â'i halma mater a Chymdeithas y Cyn-fyfyrwyr. Mae haelioni ei rhodd wedi’n rhyfeddu, ac mae’n brawf o’r pwys a roddai ar ragoriaeth addysgol a’i hymroddiad i fyfyrwyr.