Cytundeb cyhoeddi mawr i fyfyriwr doethuriaeth o Brifysgol Aberystwyth

Kiare Ladner, sydd ar hyn o bryd yn gorffen doethuriaeth mewn Ysgrifennu Creadigol yn Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth.

Kiare Ladner, sydd ar hyn o bryd yn gorffen doethuriaeth mewn Ysgrifennu Creadigol yn Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth.

06 Mehefin 2018

Mae myfyriwr Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi sicrhau'r cytundeb gyda Picador, un o gyhoeddwyr ffuglen mwyaf ei bri yn y byd.

Prynodd Picador yr hawliau byd-eang ac ym mhob iaith i Nightshift, nofel gyntaf “ddoniol, ddinesig a llenyddol” Kiare Ladner, a bydd yn cael ei chyhoeddi gan Pan Macmillan yn hydref 2019.

Ar hyn o bryd mae Ladner, sydd yn hanu o Dde Affrica, yn gorffen Doethuriaeth mewn Ysgrifennu Creadigol yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Esblygiad yw ei nofel gyntaf o nofela ganddi o'r un enw, "Nightshift", a gyflwynwyd fel rhan o'i thraethawd ymchwil doethurol "Shifting Territories".

Ariannwyd ei Doethuriaeth yn Aberystwyth gan Ysgoloriaeth Ddatblygu Gyrfaoedd Doethurol y Brifysgol - AberDoc.

Fel rhan o'i hysgoloriaeth, bu Kiare hefyd yn dysgu myfyrwyr israddedig yn yr Adran, gan ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o Ysgrifenwyr Creadigol i ddilyn ei hesiampl wych o ymarfer creadigol.

Dywedodd Dr Louise Marshall, Pennaeth yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn Aberystwyth: “Rydym wrth ein bodd o glywed am lwyddiant gwych Kiare wrth iddo sicrhau cytundeb cyhoeddi gyda Picador. Mae hwn yn ddatblygiad anhygoel i nofelydd newydd ac un y mae Kiare’n ei lawn haeddu. Mae goruchwyliwr ei doethuriaeth, yr Athro Matthew Francis, wedi canmol dawn anhygoel Kiare ac mae gweld ei gwaith yn derbyn y fath gydnabyddiaeth gyhoeddus, ac ar raddfa mor fawr, yn destun boddhad mawr.”

Pan fydd y nofel wedi ei chyhoeddi, bydd Kiare yn ymuno â phantheon o gyn-fyfyrwyr enwog o Aberystwyth sydd wedi profi gyrfaoedd llwyddiannus iawn fel nofelwyr.

Yn eu mysg mae Sarah Hall (The Carhullan Army, The Wolf Border), Katherine Stansfield (The Visitor, Falling Creatures, The Magpie Tree), Tyler Keevil (Burrard Inlet, No Good Brother, Hometown Tales: Wales), ac Eliza Granville (Gretel and the Dark).

Cafodd yr hawliau i Nightshift eu caffael gan y cyhoeddwr cysywllt Ravi Mirchandani oddi wrth Cathryn Summerhayes yn Curtis Brown.

Disgrifiodd Mirchandani y nofel fel “un gyntaf hynod o gyffrous, nofel o nosweithiau a shifftiau, rhwng hoyw a strêt, sobr a ffwrdd â hi; o sut y mae'n bosibl dod o hyd i chi’ch hunan yn y ddinas neu fynd ar goll yn llwyr; o obsesiwn a dirgelwch eithriadol ni’n hunain ac eraill”.

"Wrth i'r brifddinas ddatblygu’n fwy gwahanol i weddill y wlad, nid nofel arsylwol hyfryd am Lundain yn unig yw hi, ond taith drwy demtasiynau a pheryglon unrhyw un o ddinasoedd mawr y byd," meddai.

Ychwanegodd Summerhayes: "Rwyf wedi bod yn chwilio am nofel lenyddol drefol, dywyll, goeglyd ers cryn amser. Ac rwyf wedi dod o hyd i un o'r diwedd. Mae Kiare yn dalent newydd anhygoel ac mae hi, Ravi a Thîm Picador yn gyfuniad gwych ar gyfer Nightshift.”

Cyn ymuno ag Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth, bu Kiare’n ar gwrs MA mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol East Anglia, lle y derbyniodd Wobr Bwrsariaeth Asiantaeth Lenyddol David Higham.

Mae ei storïau byrion wedi ymddangos yn Wasafiri, Lightship Anthology 1, New Contrast aEclectica.

Dywedodd Kiare: “Y cyfan sydd wedi bod ar fy meddwl yw y byddai gweld fy ngwaith yn cael ei gyhoeddi gan Picador yn gwireddu breuddwyd, ond fentrwn i ddim breuddwydio am hyn. Mae gweithio ar fy llyfr gyda thîm Picador yn gyffrous iawn i mi.”