Prifysgol Aberystwyth yn dathlu Wythnos Roboteg

Aelodau Clwb Roboteg Aberystwyth yn Labordy’r Traeth 2017

Aelodau Clwb Roboteg Aberystwyth yn Labordy’r Traeth 2017

15 Mehefin 2018

Mae peirianwyr ac adeiladwyr robot o bob oed i gymryd rhan yn Wythnos Roboteg Aberystwyth sy’n cael ei chynnal o 25 tan 30 Mehefin 2018.

Cynhelir yr wythnos o ddigwyddiadau gan Adran Ffiseg a Chyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth fel rhan o Wythnos Roboteg y DU.

Yn yr Hen Goleg, bydd sesiynau adeiladu robotiaid i bawb, gemau olympaidd i robotiaid i ysgolion a noson i ddathlu cyfraniad Aberystwyth at ymchwil roboteg y gofod.

Bydd dangosiad arbennig o’r ffilm sci-fi Ex Machina yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, a thrafodaeth i ddilyn ar y datblygiadau diweddaraf ym meysydd deallusrwydd artiffisial a roboteg.

Daw’r wythnos i fwcl gyda Labordy’r Traeth yn y Bandstand yn Aberystwyth, lle bydd cyfle i ymwelwyr ddysgu a chwarae gyda phob math o robotiaid yng nghwmni aelodau Clwb Roboteg Aberystwyth.

Bydd cyfleoedd hefyd i gymryd rhan mewn dwy gystadleuaeth. Ysgrifennu stori fer hyd at 400 gair ar un o’r pynciau canlynol ‘Byw yn y dyfodol gyda robotiaid’, ‘Antur gyda robot’ a ‘Mae fy ffrind yn robot’, neu ddylunio poster ar un o’r themâu canlynol ‘Robot allanol’, ‘Robot gofod’ neu ‘Robot cydymaith’.

Dylid anfon y ceisiadau drwy e-bost i roboticsweek@aber.ac.uk erbyn dydd Gwener 22 Mehefin 2018, bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ddydd Gwener 29 Mehefin yn noson roboteg y gofod yn yr Hen Goleg. Mwy o fanylion ar gael ar-lein.

Dywedodd Cydlynydd yr Wythnos Roboteg Dr Patricia Shaw: “Rydym wrth ein bodd i fod yn rhan o ddathliadau roboteg y DU eleni. Bwriad Wythnos Roboteg Aberystwyth yw tanio diddordeb pobl mewn roboteg a chynnig cyfle iddynt ddarganfod mwy am y datblygiadau sy’n digwydd yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’r digwyddiadau yn agored i bawb.”

Rhaglen Wythnos Roboteg Aberystwyth 2018:

  • Dydd Llun 25 tan ddydd Gwener 29 Mehefin, 10:00am-4:00pm, yr Hen Goleg Arddangosfa Robotiaid
    Bydd yr arddangosfa yn cynnwys ymchwil gwyddor gofod a roboteg, crefft robot a detholiad o geisiadau’r gystadleuaeth.
  • Dydd Llun 25 Mehefin, 1:00-3:00pm, yr Hen Goleg
    Gemau Olymaidd i Robotiaid
    Cystadleuaeth i dimau o ysgolion cynradd lleol i adeiladu robot i gymryd rhan
    mewn cyfres o heriau i robotiaid.
  • Dydd Mawrth 26 a dydd Iau 28 Mehefin, 4:00-6:00pm, yr Hen Goleg
    Crefft Robot
    Cyfle i greu robot eich hun o ba bynnag rannau y gallwch ddod o hyd iddynt o’r domen o bapur, beiros a darnau amrywiol o ddeunyddiau. Gellir arddangos y robotiaid fel rhan o’r arddangosfa. Pris: £1 i bob robot.
  • Dydd Mercher 27 Mehefin, 4:00-9:00pm, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
    O Ffuglen i Realiti: dangosiad arbennig o’r ffilm sci-fiEx Machina, a thrafodaeth i’w ddilyn ar y datblygiadau diweddaraf ym meysydd deallusrwydd artiffisial a roboteg. Bydd arddangosfa a pitsa am ddim ar y noson. Tocynnau ar gael o Ganolfan y Celfyddydau.
  • Dydd Gwener 29 Mehefin, 4:00-9:00pm, yr Hen Goleg
    Noson o Roboteg y Gofod
    Mae gan ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth gysylltiad nodedig gydag ymchwil i’r gofod. Chwaraeodd gwyddonwyr Aberystwyth ran flaenllaw yn nhaith Beagle2 ac mae ganddynt ran amlwg yn natblygiad yn nhaith ESA/Roscosmos ExoMars Rover sydd i’w lansio yn 2020. Bydd y noson yn cynnwys cyflwyniad gan Sue Horne MBE, Pennaeth Archwilio’r Gofod, Asiantaeth Gofod y DU ac yn datgelu model maint llawn o grwydryn ExoMars. Mae’r noson yn rhad ac am ddim ond archebwch eich lle yma.
  • Dydd Sadwrn 30 Mehefin, 10:00-4:00pm, Bandstand Aberystwyth
    Labordy’r Traeth
    Mae Labordy’r Traeth hynnod boblogaidd yn dychwelyd ac yn cynnig diwrnod ar y traeth gyda robotiaid yng nghwmni aelodau Clwb Robotiaid Aberystwyth.

Mae Wythnos Roboteg Aberystwyth 2018 wedi derbyn cymorth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Ceir rhagor o wybodaeth am raglen yr wythnos ar ar-lein.