Enwi model ExoMars ar ôl arloeswr roboteg y gofod o Brifysgol Aberystwyth

Chwith i’r dde: Stephen Fearn a Dr Matt Gunn a fu’n gyfrifol am adeiladu Crwydryn ExoMars Barnes, a Dr Helen. Yn ei law mae Dr Matt Gunn yn dal palet lliw’r daith a ddatblygwyd gan y diweddar Athro Dave Barnes.

Chwith i’r dde: Stephen Fearn a Dr Matt Gunn a fu’n gyfrifol am adeiladu Crwydryn ExoMars Barnes, a Dr Helen. Yn ei law mae Dr Matt Gunn yn dal palet lliw’r daith a ddatblygwyd gan y diweddar Athro Dave Barnes.

05 Gorffennaf 2018

Mae model maint llawn o grwydryn ExoMars a fydd yn chwilio am fywyd ar y blaned Mawrth yn 2021 wedi ei enwi ar ôl arloeswr roboteg y gofod o Brifysgol Aberystwyth.

Enwyd Barnes ar ôl y diweddar Athro Dave Barnes, fu’n gyfrifol am gychwyn cyfraniad Prifysgol Aberystwyth at daith yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd / Roscosmos i’r blaned Mawrth.

Roedd yr Athro Barnes, a fu farw yn sydyn yn 2014, hefyd yn aelod blaenllaw o'r tîm a ddatblygodd y glaniwr arloesol Beagle2 oedd yn rhan o daith Mars Express yn 2003.

Adeiladwyd replica Aberystwyth gan Stephen Fearn a Dr Matt Gunn o'r Adran Ffiseg.

Cafodd ei ddadorchuddio gan Sue Horne MBE, Pennaeth Archwilio’r Gofod, Asiantaeth Gofod y DU a Dr Helen Miles o Brifysgol Aberystwyth ar nos Wener 29 Mehefin, mewn digwyddiad i ddathlu cyfraniad ymchwil gwyddonwyr y gofod a ffisegwyr yr haul yn Aberystwyth.

Bydd Barnes yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo taith ExoMars ESA/Roscosmos a fydd yn cael ei lansio yn 2020.

Drwy ddefnyddio camerâu ac offer tebyg i’r hyn fydd ar y crwydryn go iawn, bydd y model rhyngweithiol hefyd yn esbonio'r ymwchwil gaiff ei wneud wedi iddo lanio ar y blaned Mawrth.

Mae Dr Helen Miles o Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn flaenllaw wrth greu llawer o weithgareddau allanol ExoMars Aberystwyth.

Dywedodd Dr Miles: “Roedd y penderfyniad i enwi ein model maint llawn ar ôl yr Athro Dave Barnes yn un emosiynol, ond un sydd yn gyson â thraddodiad sydd wedi datblygu ar hyd y blynyddoedd. Mae nifer o grwydriaid prototeip wedi cael eu hadeiladu wrth i ni baratoi ar gyfer y daith, ac mae gan bob un ohonynt enwau sy'n dechrau gyda 'B'.

“Mae yna nifer o grwydriaid prototeip yn bodoli, Bridget, Brian a Bruno a ddatblygwyd gan Airbus, ac yma yn Aberystwyth rydym wedi bod yn gweithio gyda phrototeip bach o’r enw Blodwen. Felly roedd Barnes yn berffaith.”

Adeiladodd Dr Miles fodel rhithwyr o’r crwydryn er mwyn efelychu’r lluniau camera fydd yn cael eu tynnu, ac mae’n cael ei ddefnyddio gan beirianwyr sydd yn adeiladu crwydryn y daith.

Mae Crwydryn ESA/Roscosmos ExoMars yn gael ei ddatlygu gan Thales Aleni Space a’i adeiladu gan Airbus Defence and Space yn Stevenage.

Roedd gwaith yr Athro Barnes ar ExoMars yn cynnwys datblygu palet lliwiau’r crwydryn, a ysbrydolwyd gan wydr lliw o’r oesoedd canol.

Cynlluniwyd y palet i wrthsefyll y lefelau uchel iawn o olau uwchfioled a geir ar y blaned Mawrth, ac sy’n achosi i liwiau bylu’n gyflym. Bydd yn cael ei ddefnyddio i galibradu camerâu a systemau sbectromedr y daith er mwyn sicrhau bod lliwiau’n cael eu cofnodi’n gywir.

Mae gwaith yr Athro Barnes wedi parhau dan arweiniad Dr Matt Gunn ac aelodau o dîm roboteg y gofod Prifysgol Aberystwyth.

Mae Dr Gunn yn aelod o dri thîm sydd yn datblygu offer ar gyfer y daith:

  • PanCam, system o dri chamera gwyddonol ar gyfer mapio’r tirwedd yn ddigidol ac sy’n cael ei arwain gan Labordy Gwyddoniaeth y Gofod Mullard yng Ngholeg Prifysgol Llundain;
  • ISEM, sbectromedr is-goch y daith a fydd yn asesu mwynoleg targedau, sy’n cael ei arwain gan Sefydliad Ymchwil y Gofod Academi Gwyddoniaeth Rwsia;
  • a CLUPI, camera ansawdd uchel sydd wedi’i ddylunio ar gyfer tynnu lluniau agos, ac sy’n cael ei arwain gan Sefydliad Archwilio’r Gofod y Swistir.

Mae tîm Aberystwyth wedi bod yn profi offerynnau prototeip y daith yn y maes a datblygu’r biblinell ar gyfer prosesu lluniau fydd cael eu hanfon yn ôl i’r Ddaear.

Yn ogystal, mae Dr Gunn a’i gydweithwyr wedi bod yn profi y system gamerâu, PanCam, mewn anialdir ar draws y byd, gan gynnwys Gwlad yr Iâ, Utah yn yr UDA ac anialwch Atacama yn Ne America.

Dywedodd Dr Gunn: “Mae'r camera yn sensitif iawn gan fod y gwyddonwyr sy'n gweithio gyda'r delweddau hyn yn chwilio am wahaniaethau cynnil iawn mewn lliw. Nid yw'r delweddau yn lluniau lliw arferol; byddant yn cael eu defnyddio er mwyn adnabod y gwahanol fathau o greigiau ar y blaned Mawrth. Mae'n hysbys bod rhai creigiau yn ffurfio mewn amgylcheddau gwlyb, felly gallai dehongli'r delweddau yn gywir gynorthwyo gwyddonwyr wrth iddynt chwilio am arwyddion posibl o fywyd.”    

“Yr Athro Barnes fu’n gyfrifol am ddechrau’r gwaith yma ar ExoMars ac roedd yn arloeswr ym maes roboteg y gofod. Rydym yn gweld ei eisiau yn fawr ac mae enwi model Aberystwyth yn addas iawn. Ein gobaith yw y bydd y model hwn yn ysbrydoli pobl yn y ffordd y gwnaeth Dave ein ysbrydoli ni.”

Mae Crwydryn ExoMars Aberystwyth ar gael i ymweld â sioeau ac ysgolion. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan ExoMars Prifysgol Aberystwyth. Yn oygysal, mae modd dilyn Barnes ar Twitter @BarnesRover.