Aber yn adennill Dyfarniad Rhagoriaeth Adnoddau Dynol mewn Ymchwil

Chwith i’r Dde: Dr Jennifer Deaville, Rheolwr Datblygu Ymchwil, Dr Dafydd Roberts, Swyddog Datblygu Ymchwil a Sarah Wydall o Gyfadran y Celdyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn absennol o’r llun mae Heather Hinkin o Adnoddau Dynol a Dr Patricia Shaw o Gyfadran Busnes a’r Gwyddorau Ffisegol.

Chwith i’r Dde: Dr Jennifer Deaville, Rheolwr Datblygu Ymchwil, Dr Dafydd Roberts, Swyddog Datblygu Ymchwil a Sarah Wydall o Gyfadran y Celdyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn absennol o’r llun mae Heather Hinkin o Adnoddau Dynol a Dr Patricia Shaw o Gyfadran Busnes a’r Gwyddorau Ffisegol.

13 Mehefin 2019

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cael ei chydnabod am ei hymrwymiad hirdymor i ddatblygiad gyrfa ymchwilwyr.

Cyhoeddwyd bod Aberystwyth yn un o un-ar-ddeg prifysgol sydd wedi cadw’r Wobr Rhagoriaeth Adnoddau Dynol mewn Ymchwil gan y corff dyfarnu Vitae ddydd Llun 10 Mehefin 2019.

Lansiwyd y cynllun yn 2010, ac Aberystwyth oedd un o’r prifysgolion cyntaf yn y DU i gael ei chydnabod.

Dyfarnwyd y wobr, sy’n cael ei adolygu bob dwy flynedd, wedi cyfweliad panel gyda thîm trawsadrannol o Brifysgol Aberystwyth gan dîm adolygiad-gan-gymheiriaid rhyngwladol yn mis Mawrth 2019.

Eu hargymhelliad nhw i Banel Gwobr Rhagoriaeth Adnoddau Dynol mewn Ymchwil y DU oedd bod Aberystwyth yn cael yr hawl i gadw’r wobr.

Dywedodd yr Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae dyfarniad Gwobr Rhagoriaeth Adnoddau Dynol mewn Ymchwil am ddwy flynedd arall yn newyddion gwych i bawb sy’n gysylltiedig ag ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth. Fel sefydliad sy’n cael ei arwain gan ymchwil, ein nod yw cefnogi a datblygu ymchwilwyr fel bod eu gwaith yn medru helpu cymdeithas i fynd i’r afael â rhai o faterion ein cyfnod sydd yn prysur bwyso. I wneud hyn, mae’n rhaid i ni ddatblygu potensial ymchwil ein holl staff ac mae’r dyfarniad hwn yn cydnabod bod y fframwaith gennym yn ei le i wneud hyn.”

Arweiniwyd cais Prifysgol Aberystwyth gan Dr Dafydd Roberts, Swyddog Datblygu Ymchwil yn Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi’r (RBI) Brifysgol, ac sy’n dwyn ynghyd gyfraniadau gan gydweithwyr sy’n rhan o Grŵp Concordat Ymchwil Prifysgol Aberystwyth.

Dywedodd Dr Roberts: “Mae cadw’r wobr yn bwysig. Mae’n gadarnhad o’n gwaith caled a’r cynlluniau uchelgeisiol sydd gennym dros y ddwy flynedd nesaf. Mae angen i’r gymuned ymchwil gymryd rhan er mwyn cryfhau datblygiad gyrfaol ymchwilwyr. Mae Grŵp Concordat Ymchwil PA yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn croesawu sylwadau a chyfranogiadau ymchwilwyr ar draws cyfnodau gyrfa, yn enwedig ymchwilwyr gyrfa cynnar.”

Ynghyd â Dr Roberts, yr aelodau o dîm Prifysgol Aberystwyth a fu’n ymwneud â chyfweliad yr Adolygiad Sefydliadol oedd Heather Hinkin o Adnoddau Dynol; Sarah Wydall o Gyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol a Dr Patricia Shaw o’r Gyfadran Busnes a’r Gwyddorau Ffisegol.

Cyflwynwyd dwy astudiaeth achos yn y cais eleni.

Datblygwyd y cyntaf, Women in Research Network, gan Dr Marie Neal o Dîm Datblygu Ymchwil RBI, fel fforwm i bob disgyblaeth archwilio materion sy’n wynebu ymchwilwyr benywaidd ar bob cam o’u gyrfa.

Canolbwyntiodd yr ail ar hyrwyddo cymrodoriaethau cyfnod penodol gan yr adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi drwy gydlynu gweithdai llunio cynigion ar draws Cymru er mwyn gwell graddfa llwyddiant ceisiadau i gynlluniau cyllido megis Cymrodoriaethau Unigol Marie Skłodowska-Curie (a gyllidwyd gan Llywodraeth Cymru – ScoRE & NRN-LCEE).

Mecanwaith yw’r Wobr Rhagoriaeth Adnoddau Dynol mewn Ymchwil ar gyfer gweithredu egwyddorion Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfa Ymchwilwyr, cytundeb rhwng cyllidwyr a chyflogwyr staff ymchwil i wella cyflogaeth a chefnogaeth i ymchwilwyr a gyrfaoedd ymchwilwyr mewn addysg uwch yn y DU.