Canolfan Sbectrwm Genedlaethol yn hwb posib i swyddi yn y Canolbarth

Campws Gogerddan

Campws Gogerddan

16 Tachwedd 2020

Gallai cynlluniau arloesol i sefydlu Canolfan Sbectrwm Genedlaethol yn y Canolbarth arwain at greu dros 60 o swyddi llawn-amser, uchel eu gwerth.

Mae Ysgol Fusnes Prifysgol Aberystwyth wedi cwblhau Asesiad Effaith Economaidd o’r cynlluniau.

Amcangyfrifa’r astudiaeth y gallai rhwng 42 a 66.5 o swyddi llawn amser gael eu creu o ganlyniad uniongyrchol i sefydlu’r Ganolfan Sbectrwm, yn ogystal â hyd at 172 o swyddi adeiladu dros dro yn ystod datblygiad graddol y Ganolfan.

Partneriaeth rhwng Prifysgol Aberystwyth a QinetiQ yw’r Ganolfan gyda’r nod o hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr sbectrwm radio a pheirianwyr systemau, a gwella sgiliau peirianwyr presennol i harneisio potensial y technolegau sbectrwm radio sydd eu hangen ar economi gyfoes.

Sbectrwm radio yw’r seilwaith meddal sy’n galluogi cysylltedd diwifr rhwng llefydd, pobl a dyfeisiau drwy, er enghraifft, ffonau symudol, systemau llywio a systemau radar.

Y nod yw galluogi diwydiant a’r llywodraeth i ganfod ac arddangos y genhedlaeth nesaf o gymwysiadau diwifr arloesol sydd eu hangen i ddyblu cyfraniad economaidd blynyddol sbectrwm radio yn y DU i dros £100bn erbyn 2025.

"Bydd datblygiadau ym maes peirianneg ac arloesi ar y sbectrwm a'r cwmnïau newydd sy'n ffurfio o ganlyniad i'r Ganolfan Sbectrwm yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer cyflogaeth a hyfforddiant i weithlu a phoblogaeth y Canolbarth. Yn benodol, bydd y Ganolfan yn rhoi cyfleoedd i'r boblogaeth iau sydd o oedran gweithio ac sy'n ceisio aros yn yr ardal," medd yr adroddiad gan yr Athro Nick Perdikis, Dr Sarah Clarke a Dr Wyn Morris o Ysgol Fusnes Aberystwyth.

"Bydd canlyniad effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol yn gwneud cyfraniad pwysig at wydnwch yr economi leol drwy greu swyddi uchel eu gwerth. Bydd hefyd yn cefnogi'r gadwyn gyflenwi leol ac yn ysgogi economi leol fywiog, gan ychwanegu at ddiwydiant twristiaeth drwy gydol y flwyddyn, tra’n sicrhau gwasanaethau lleol.

"Mae effeithiau economaidd ehangach sy'n gysylltiedig â dysgu yn cynnwys llai o risg o ddiweithdra, gwell iechyd corfforol, mwy o ymgysylltu dinesig ac ehangu cyfranogiad. Ymhlith yr effeithiau eraill mae datblygu technoleg sbectrol a'i chyfraniad at ddiwydiant sbectrwm arloesol a'r potensial i'r Ganolfan yng Nghanolbarth Cymru ddod yn ganolfan bwysig yn fyd-eang ar gyfer peirianneg sbectrol."

Mae’r prosiect wedi ennyn cefnogaeth Llywodraeth Cymru, sydd wedi rhoi buddsoddiad cychwynnol o £60,000 i ganiatau i’r consortiwm diwydiannol ac academaidd rhwng Prifysgol Aberystwyth a QinetiQ ddatblygu ymhellach eu cynlluniau ar gyfer canolfan arloesi ac ymchwil newydd.

Dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Ken Skates: "Mae gan Brifysgol Aberystwyth gyfle unigryw i helpu i ail-ddychmygu economi Cymru a chreu ecosystem rhwng y llywodraeth, diwydiant a'r byd academaidd i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr mewn arloesi, ymchwil ac arbrofi yn seiliedig ar sbectrwm.

"Bydd hyn yn cynnig buddiannau economaidd enfawr i Ganolbarth Cymru o ran hyrwyddo'r technolegau digidol diweddaraf a helpu i gryfhau ein gallu i wrthsefyll rhai o'r heriau byd-eang mwyaf sy'n ein hwynebu, megis y pandemig coronafeirws sydd wedi rhoi ein heconomi o dan bwysau aruthrol.

"Mae gan ddatblygiad y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol botensial enfawr ac mae'r newyddion y gallai greu nifer o swyddi tra medrus i'w groesawu'n fawr. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynlluniau yma.”

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Rydym ni am weld y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol yn rym fydd yn ysgogi datblygu a phrofi’r genhedlaeth nesaf o dechnolegau diwifr sy’n angenrheidiol yng Nghymru a’r DU yn ehangach. Bydd sefydlu’r Ganolfan hefyd yn helpu i sbarduno creu swyddi newydd, uchel eu gwerth yn y canolbarth, ac rydym ni’n ddiolchgar i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth i’r adnodd ymchwil arloesol hwn sy’n dod ag arbenigedd at ei gilydd ar draws y llywodraeth, diwydiant a’r byd academaidd.”

Dywedodd James Willis, Rheolwr Gyfarwyddwr Busnes a Gwybodaeth QinetiQ: “Mae QinetiQ yn falch i fod yn rhan o’r cyfle cyffrous a newydd hwn sy’n adeiladu ar y presenoldeb sydd gennym yn y canolbarth. Rydym ni’n falch iawn i gael defnyddio ein gallu sy’n arwain y byd mewn technolegau sbectrwm radio a’n gallu i greu ymchwil croestoriadol er budd economi Cymru a’r economi genedlaethol.”

Mae sefydlu Canolfan Sbectrwm Genedlaethol yn elfen allweddol ym mhartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru sy’n cynnwys Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Powys a chyrff strategol eraill.

Y Cynghorydd Rhodri Evans yw aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion sy’n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio. Dywedodd: “Rydym ni’n croesawu’r gefnogaeth a roddwyd i Brifysgol Aberystwyth a QinetiQ i edrych ymhellach ar sefydlu Canolfan Sbectrwm Genedlaethol a allai arwain at wir gyfleoedd i ranbarth canolbarth Cymru. Mae’n cyd-fynd â’n huchelgais ar gyfer y canolbarth i gynnal rhaglenni blaenllaw o ymchwil uwch. Rydym ni am weld mwy o swyddi gwerth uchel yn y rhanbarth; gallai’r ganolfan hon gynnig un llwybr at gyflawni hyn.”

Yn ei cham cyntaf, bydd y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol wedi’i lleoli yn adeilad yr Arglwydd Milford ar gampws Gogerddan Prifysgol Aberystwyth a bydd Adran Ffiseg y Brifysgol yn datblygu pecyn newydd o fodiwlau uwchraddedig mewn Peirianneg Sbectrwm Radio. Anelir y cyrsiau at fyfyrwyr yn ogystal â diwydiannau a busnesau lleol a chenedlaethol sy’n dymuno gwella sgiliau eu staff yn y meysydd cynyddol bwysig hyn.

Ar gampws Gogerddan hefyd ceir cyfleusterau ymchwil blaenllaw o fewn Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) y Brifysgol ac ArloesiAber, y campws arloesi a menter newydd sy’n meithrin cydweithio rhwng y byd academaidd a diwydiant.  Mae QinetiQ Aberporth yn cynnal arbrofion ac ymchwil newydd, cymhleth gan annog cydweithio ar draws cymuned amrywiol o randdeiliaid.

Yn y pen draw, bydd angen seilwaith newydd a chyfleusterau profi pwrpasol ar gyfer technolegau diwifr mewn amrywiol leoliadau yng Ngheredigion a Phowys.