Mapiau'n datgelu lle mae coedwigoedd yn newid ledled y byd

10 Ionawr 2022

Mae mapiau sy'n datgelu ardaloedd o goedwigoedd y byd sydd wedi newid yn sylweddol dros y degawd diwethaf wedi’u cyhoeddi drwy brosiect yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (ESA) sy’n cael ei reoli a’i gydlynu gan Brifysgol Aberystwyth.

Cyhoeddi enw cwmni adeiladu'r Hen Goleg a lansio cymal olaf yr ymgyrch codi arian

14 Ionawr 2022

Mae cynlluniau uchelgeisiol i ddod â bywyd newydd i Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth wedi cymryd cam mawr ymlaen heddiw, ddydd Gwener 14 Ionawr 2022, gyda chyhoeddi enw prif gontractwr adeiladu’r prosiect.

Y Brifysgol yn noddi Cronfa Cyllid Ffilm Ddogfen newydd Gwobr Iris

17 Ionawr 2022

Mae Prifysgol Aberystwyth yn noddi Cronfa Cyllid Ffilm Ddogfen newydd a drefnir gan Ŵyl Ffilm LHDT+ Gwobr Iris.

Cyllid ar gyfer ymchwil i ddiogelu sifiliaid diarfog mewn ardaloedd lle mae gwrthdaro

18 Ionawr 2022

Mae rhwydwaith ymchwil rhyngwladol a arweinir gan y Brifysgol yn cynnig cyllid i brosiectau ymchwil sy'n canolbwyntio ar ddiogelu sifiliaid diarfog mewn ardaloedd lle mae gwrthdaro.

Cyllid newydd i hybu ymchwil i glefydau marwol

19 Ionawr 2022

Mae haint parasitig sy’n effeithio ar filiynau o bobl ledled y byd i gael ei dargedu gan raglen ymchwil gwerth £2.5 miliwn i ddarganfod cyffuriau sy’n cynnwys academyddion o Brifysgol Aberystwyth.

Hwb o hanner miliwn i gyfleusterau addysg nyrsio newydd Prifysgol Aberystwyth

20 Ionawr 2022

Bydd grant o £500,000 gan Lywodraeth Cymru yn ariannu cyfleusterau ym Mhrifysgol Aberystwyth ar gyfer ei chyrsiau nyrsio a fydd yn cychwyn ym mis Medi eleni.

Ffi Drwydded y BBC - a allai hyn fod yn ddiwedd ar ddarlledu cyhoeddus yn y DU?

20 Ionawr 2022

Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Jamie Medhurst (Darllenydd mewn Ffilm, Teledu a’r Cyfryngau) yn ymateb i’r cyhoeddiad diweddar am rewi ffi drwydded y BBC am ddwy flynedd cyn ei diddymu yn gyfan gwbl o bosibl, ac a allai hi fod yn ddiwedd ar ddarlledu cyhoeddus.

Academyddion Aberystwyth yn ymuno â phaneli arbenigol sy'n gosod safonau addysg uwch

27 Ionawr 2022

Penodwyd tri academydd o Brifysgol Aberystwyth i baneli arbenigol sy'n helpu i bennu safonau a chynnwys cyrsiau addysg uwch ledled y Deyrnas Unedig.


 

Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn talu teyrnged i berfformiad llawn ysbrydoliaeth gan staff a myfyrwyr yn ystod blwyddyn academaidd 20/21

28 Ionawr 2022

Mae Is-Ganghellor a Chadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth wedi sôn am eu balchder yn y sefydliad ac am ba mor ddiolchgar ydynt am yr hyn a gyflawnwyd gan ei staff wrth i’r sefydliad gyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21 – blwyddyn ac arni effeithiau COVID-19.