Cymorth i ffoaduriaid o Wcráin yn dangos grym cefnogaeth pan fo'r ewyllys gwleidyddol yno

03 Mawrth 2022

Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Gillian McFadyen a Dr Arddun Hedydd Arwyn yn dadansoddi’r ymateb Ewropeaidd cadarnhaol i’r argyfwng ffoaduriaid o Wcrain, gan dynnu sylw at y ffaith ei fod yn amlygu gwahaniaethu hiliol ac ymatebion anghyfartal i ffoaduriaid, a’r gwersi y gellir eu dysgu ar gyfer argyfyngau dyngarol yn y dyfodol.

Prifysgol Aberystwyth yn condemnio ymosodiad Rwsia ar Wcráin

04 Mawrth 2022

Mae Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure,  wedi ysgrifennu at fyfyrwyr a staff i gynnig cefnogaeth i’r rhai sydd wedi eu heffeithio gan weithredoedd milwrol Rwsia yn Wcráin.

Rhyfel Wcráin: gallai teuluoedd consgriptiaid anhapus Rwsia danseilio ymdrech rhyfel y Kremlin

07 Mawrth 2022

Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Jenny Mathers o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trafod sut y gall tystiolaeth brwydrwyr Rwsiaidd a gyflwynir i’w rhieni, wrthbrofi yn effeithiol naratif y Kremlin am ei ddefnydd o rym yn Wcráin.

Galwad paru’r aligator yn helpu i ddatrys un o broblemau hynaf astroffiseg

10 Mawrth 2022

Mae dirgelwch sydd wedi para canrifoedd ynghylch pam mae jetiau o blasma yn cael eu saethu hyd at 10,000 cilometr i fyny o wyneb yr Haul wedi'i ddatrys mewn prosiect y mae ymchwilydd o Brifysgol Aberystwyth wedi chwarae rhan ynddo.

Llwyddiant ysgubol i fyfyrwyr Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn y ‘Ryng-gol’

09 Mawrth 2022

Cafodd myfyrwyr o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth lwyddiant rhyfeddol yn yr Eisteddfod Ryng-golegol a gynhaliwyd ym Mangor ar 5 Mawrth 2022, gan ennill y ddwy brif wobr lenyddol.

Menter Cymru Iwerddon newydd i hybu twristiaeth gynaliadwy

17 Mawrth 2022

Bydd academyddion o Brifysgol Aberystwyth yn arwain ar brosiect Ewropeaidd newydd i hybu twristiaeth mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru ac Iwerddon.

Prifysgol Aberystwyth yn cyflwyno gwyddoniaeth hynod i ddisgyblion yn ei digwyddiad allgymorth blynyddol

17 Mawrth 2022

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyflwyno penglogau anifeiliaid, crwydriaid robotig a bwydydd rhyfedd i bron i 1,000 o ddisgyblion fel rhan o’i digwyddiad allgymorth blynyddol sy’n cael ei gynnal fel rhan o Wythnos Wyddoniaeth Prydain.

Cyflwyno gwrthrychau a llawysgrifau Gwenallt i’r Brifysgol a’r Llyfrgell Genedlaethol

21 Mawrth 2022

Ar Ddiwrnod Barddoniaeth y Byd, mae teulu un o lenorion mwyaf disglair Cymru wedi cyflwyno detholiad o’i lawysgrifau a’i eiddo personol i'r Brifysgol.

Adnodd newydd i helpu pobl LHDTC+ hŷn sydd wedi profi cam-drin domestig

28 Mawrth 2022

Mae Menter Dewis Choice, sydd wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn lansio pecyn adnoddau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gynorthwyo ymarferwyr sy'n gweithio gyda phobl LHDTC+ hŷn sydd yn neu sydd wedi dioddef cam-drin domestig.

Gwaith adeiladu yn dechrau ar brosiect ynni gwyrdd

29 Mawrth 2022

Mae’r gwaith wedi dechrau ar osod arae solar newydd a fydd yn cynhyrchu trydan gwyrdd i Brifysgol Aberystwyth.