Rhaglenni Ymchwil

Rhaglenni Ymchwil

Dull mwy annibynnol, ymarferol o astudio’n uwchraddedig.

Mae rhaglen uwchraddedig ymchwil yn canolbwyntio’n helaeth ar ymchwil a bydd yn eich helpu i weithio, fel arfer, tuag at radd Meistr Athroniaeth (MPhil).

Gwybodaeth Allweddol:

 

  • Bydd yn cymryd tua blwyddyn i ddwy flynedd (yn llawn amser) neu ddwy i bedair blynedd (yn rhan amser) i wneud rhaglen sy’n seiliedig ar ymchwil;
  • Gan fod llai o strwythur i’r rhaglen fel arfer bydd yn cymryd mwy o amser i’w gwblhau na’r rhaglen gyfatebol a addysgir;
  • Mae rhaglenni ymchwil yn cynnwys: Meistr Gwyddoniaeth (MSc), Meistr Ymchwil (MRes) neu Feistr Athroniaeth (MPhil);
  • Bydd yn rhaid i chi gynnal eich ymchwil dwys eich hun, sef cyfres o brosiectau ymchwil bychain neu un prif brosiect ymchwil, ac yna traethawd ymchwil a chyflwyniad llafar;
  • Bydd y rhaglen yn helpu i loywi eich sgiliau ymchwil a’ch gwybodaeth am y dulliau ymchwil diweddaraf yn eich maes dewisol;
  • Er y bydd aelod academaidd uwch o’r staff yn goruchwylio rhywfaint arnoch, mae hunanddisgyblaeth, cymhelliant a bod yn drefnus yn elfennau hanfodol i gwblhau rhaglen ymchwil.

 

Edrychwch ar ein Rhaglenni Uwchraddedig