Proffiliau Myfyrwyr

Lisa

Seicoleg (C800) Raddedig, 2018.

“Rwy'n cael fy nghyflogi gan y Bwrdd Iechyd Lleol i gynllunio a chomisiynu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau ac fe'm derbyniwyd i ddilyn cwrs BSc mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth.  Gan fy mod yn gweithio'n llawn-amser, astudiais yn rhan-amser dros gyfnod o sawl blwyddyn.   Yn ystod y cyfnod hwn, datblygais nid yn unig wybodaeth am fy mhwnc ond hefyd sgiliau sydd wedi bod yn eithriadol o ddefnyddiol imi, megis dealltwriaeth well a manylach o ddata ac ystadegau. Cefais gyfle hefyd i wella fy sgiliau fy hun wrth ymchwilio a chyflwyno gwybodaeth.  Roedd pwnc fy nhraethawd estynedig yn uniongyrchol gysylltiedig â'm gwaith ac fe'i derbyniwyd fel tystiolaeth mewn strategaeth ranbarthol ar gyfer comisiynu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a ddefnyddir i bennu cyfeiriad cyllid dros gyfnod o 3 i 5 mlynedd.”

Samjhana

Seicoleg, gyda blwyddyn integredig mewn diwydian (WF7F). Ar leoliad ar hyn o bryd.

"Fy lleoliad Blwyddyn mewn Diwydiant gyda Heddlu Swydd Bedford, yn yr Adran Gwelliant Parhaus. Yn sgil fy ngwaith prosiect cefais brofiad o feysydd gwaith ledled y llu, a threuliais gyfnodau gyda gwahanol adrannau i ddysgu mwy am yr hyn y maent yn ei wneud. Mae'r profiad uniongyrchol hwn o weithio gyda'r Heddlu wedi bod yn brofiad dysgu anhygoel, ac wedi fy nghynorthwyo i wella a datblygu sgiliau a fydd o gymorth imi wedi'r brifysgol. Mae hefyd wedi fy annog i feddwl mwy am yr hyn sydd o ddiddordeb i mi a'r hyn yr hoffwn ei wneud yn y dyfodol."

Conor

Seicoleg, gyda blwyddyn integredig yn astudio dramor (N1FW). Yn graddio ym mis Gorffennaf 2019.

"Ym Mhrifysgol Bergen yng ngorllewin Norwy, cefais brofi diwylliant ac amgylchedd addysgol cwbl wahanol, a chael ymdrwytho ynddo. Roedd hwn yn brofiad a gyfoethogodd fy sgiliau academaidd a phersonol trwy roi cyfle cwbl unigryw a thrawsffurfiol imi mewn gwlad gyffrous a hardd."

Camilla

Seicoleg (C800) Raddedig, 2017.

“Wedi imi raddio dechreuais weithio fel seicolegydd cynorthwyol i Seicolegydd Clinigol mewn practis preifat; rhoddodd y swydd hon y cyfle imi ehangu fy ngwybodaeth am ymchwil, ac yn enwedig am brofi seicometrig, a gweld gwahanol ddulliau therapiwtig ar waith. Wedi'r interniaeth hon, gweithiais fel Seicolegydd cynorthwyol i wasanaeth IAPT (gwella mynediad i therapïau seicolegol), gydag ymarferwyr CBT a Seicolegwyr Cwnsela. Dysgais am bwysigrwydd asesiadau clinigol, ac effeithiolrwydd therapi EMDR (therapi Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu trwy Symudiad y Llygaid) wrth leihau trawma. Ym mis Medi 2018 dechreuais ar fy Noethuriaeth Broffesiynol mewn Seicoleg Cwnsela ym Mhrifysgol Regents a'm gwaith fel ymarferydd dan hyfforddiant gyda chleientiaid sy'n gwella wedi gorddibyniaeth ar alcohol a chyffuriau yn ysbyty cymunedol Edgware yn Llundain".

Simona

Seicoleg (C800) Raddedig, 2017.

"Astudiais BSc mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth a charu pob eiliad o'r profiad. Mae'n brifysgol wych, mae ansawdd y dysgu yn arbennig o uchel ac mae'r darlithwyr yn mwynhau dysgu eu modiwlau.  Cefais gymorth hefyd yn canfod profiad gwirfoddoli da, a roddodd ddechrau gwych imi wrth imi chwilio am swydd. Wedi imi raddio, symudais ymlaen yn syth i astudio am radd meistr mewn Seicoleg Glinigol a Seicoleg Iechyd, gan raddio gyda rhagoriaeth. Bellach rwy'n gweithio fel gweithiwr cymorth llawn-amser, yn helpu pobl i fagu sgiliau newydd a fydd yn eu galluogi i fod yn fwy annibynnol ac i fyw eu bywydau ag urddas. Mae gennyf hefyd swydd ran-amser fel darlithydd seicoleg mewn canolfan Siapaneaidd sy'n paratoi myfyrwyr Siapaneaidd ar gyfer y brifysgol.  Fe wnaeth fy mhrofiad yn Aberystwyth yn sicr fy mharatoi ar gyfer fy addysg bellach a'm gyrfa trwy roi imi'r holl wybodaeth a sgiliau ymarferol yr oedd arnaf eu hangen."

Melisa

Seicoleg (C800) Raddedig, 2017.

Graddiodd Melisa Basol â BSc mewn Seicoleg o Brifysgol Aberystwyth ym mis Gorffennaf 2017, cyn mynd ymlaen i Brifysgol Caergrawnt i astudio am MPhil. Dechreuodd ar ei PhD mewn Seicoleg yng Ngholeg Penfro, Caergrawnt, yn hydref 2018.

Mae Melisa'n un o 92 o fyfyrwyr a ddechreuodd ar ei hysgoloriaeth y llynedd, ar ôl cael ei dethol o blith cyfanswm o 5,798 o ymgeiswyr. Mae Ysgoloriaethau Gates Caergrawnt yn cael eu dyfarnu i'r bobl fwyaf eithriadol yn academaidd ac ymroddedig yn gymdeithasol, o bedwar ban byd, ac fe'u cydnabyddir fel ysgoloriaethau uwchraddedig rhyngwladol mwyaf nodedig Prifysgol Caergrawnt.

Yn ôl Melisa: "Rwy'n teimlo'n hynod o freintiedig i fod yn ymuno â chymuned o unigolion uchelgeisiol o'r un anian â mi sydd yn benderfynol o gael dylanwad. Ac er bod y gronfa hon yn un arbennig o nodedig a hael, rwy'n ymwybodol na fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb ymddiriedaeth a chefnogaeth ddiamod fy adran yn Aber. Dim ond adlewyrchiad yw fy llwyddiannau o'r arweiniad a'r gefnogaeth a gefais trwy gydol fy ngradd israddedig a thu hwnt i hynny."