A oes gan siaradwyr Cymraeg synnwyr digrifwch gwahanol? Astudiaeth newydd

Chwerthin

Chwerthin

30 Gorffennaf 2026

Mae hiwmor yn rhan annatod o’n bywydau bob dydd, ond a yw’n bosib bod siarad Cymraeg yn dylanwadu ar yr hyn a gawn yn ddoniol? Dyna'r cwestiwn y mae academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ymchwilio iddo.

Mae ymchwil yn y gorffennol wedi awgrymu - ar ben y manteision cymdeithasol - fod dwyieithrwydd hefyd yn gallu bod yn fanteisiol yn wybyddol, gan gynnwys gallu canolbwyntio a chofio’n well.

Bydd yr astudiaeth newydd yn ystyried a yw'r manteision posib hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y modd y mae pobl ddwyieithog yn deall, yn gwerthfawrogi ac yn creu hiwmor.

Bydd ymchwilwyr yn profi a yw pobl sydd â’r Gymraeg yn famiaith iddynt yn cael profiad gwahanol o hiwmor ac yn creu hiwmor yn wahanol i bobl sydd â’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt.

Bydd yr astudiaeth yn chwilio am gyfranogwyr o Gymru a fydd yn gwneud cyfres o dasgau ar-lein ac yn ateb cwestiynau am sut maen nhw'n defnyddio hiwmor yn eu bywydau bob dydd. 

Dan arweiniad Dr Gil Greengross a Dr Hanna Binks o Adran Seicoleg y Brifysgol, bydd y prosiect yn astudio sut mae iaith yn dylanwadu ar hiwmor, gan gynnwys sut y’i defnyddir mewn bywyd bob dydd ymhlith siaradwyr dwyieithog.

Dywedodd Dr Hanna Binks o Brifysgol Aberystwyth, sy'n gyd-ymchwilydd ar y prosiect:

"Mae gan iaith gyswllt agos â hunaniaeth, diwylliant a mynegiant emosiynol. Mae siaradwyr Cymraeg yn symud rhwng y ddwy iaith yn rheolaidd, ac rydym yn awyddus i ddeall a yw hynny'n dylanwadu ar sut mae hiwmor yn cael ei weld a’i ddefnyddio ganddynt.

"Bydd yr ymchwil hon yn dyfnhau ein dealltwriaeth am ddwyieithrwydd, gan hefyd dynnu sylw at arwyddocâd diwylliannol hiwmor o fewn cymunedau Cymraeg.  Mae'n cynnig cyfle unigryw i archwilio sut mae iaith yn dylanwadu ar sut rydyn ni'n meddwl, cyfathrebu a chreu cysylltiadau â phobl eraill."

Bydd y tîm ymchwil yn astudio a yw siaradwyr Cymraeg yn gweld gwahanol jôcs yn ddoniol ac a ydynt yn eu hadrodd yn wahanol yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Byddant hefyd yn ymchwilio i weld a yw'r hyblygrwydd gwybyddol sy'n gysylltiedig â medru dwy iaith yn cael ei adlewyrchu yng ngallu digrifwch pobl.

Dywedodd Dr Gil Greengross, y Prif Ymchwilydd ac Uwch Ddarlithydd Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth:

"Mae hiwmor yn cyffwrdd â phob agwedd ar ein bywydau, bron, yn amrywio o gyfeillgarwch a pherthnasoedd teuluol i sut rydym ni'n ymdopi â heriau, a’n cyswllt â'n cymunedau. Ond er gwaethaf degawdau o ymchwil ar ddwyieithrwydd, ychydig iawn o sylw sydd wedi'i roi i sut mae iaith yn dylanwadu ar ein synnwyr digrifwch.

"Hoffem wybod a yw newid rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yn dylanwadu ar sut mae pobl yn gwerthfawrogi jôcs, creu syniadau doniol a defnyddio hiwmor mewn sefyllfaoedd bob dydd. Yn ogystal â dysgu mwy i ni am seicoleg hiwmor, gallai'r canlyniadau hefyd ddweud wrthym am y manteision cymdeithasol a gwybyddol ehangach sy’n deillio o fyw mewn dwy iaith."

Bydd yr ymchwilwyr ar Stondin Prifysgol Aberystwyth yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llantwd, yng ngogledd Sir Benfro, rhwng 1 a 8 Awst, lle byddant yn dechrau recriwtio cyfranogwyr o bob rhan o Gymru.

Ar ben ein helpu i ddeall mwy am ddwyieithrwydd a gwybyddiaeth gymdeithasol, disgwylir i'r astudiaeth roi dealltwriaeth newydd am bwysigrwydd diwylliannol hiwmor yng Nghymru a rôl y Gymraeg wrth lunio rhyngweithio cymdeithasol, hunaniaeth a bywyd cymunedol.