23. Cyfraniad at Ddeddfwriaeth Ddatganoledig a Hygyrchedd y Gyfraith yng Nghymru
Dr Catrin Fflur Huws

Clawr Comisiwn y Gyfraith

Mae gwaith Catrin Fflûr Huws ar ddatganoli ar y gwahaniaeth rhwng cyfraith Cymru a Lloegr, yn enwedig o ran hygyrchedd cyfraith Cymru, a’i hygyrchedd yn y Gymraeg a’r Saesneg wedi cael effaith fawr ar bolisi cyhoeddus.

Mae Huws wedi datblygu corff o waith ar ddwyieithrwydd yn y system gyfreithiol, a gafodd ei ddyfynnu yn adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith sy’n Gymwys yng Nghymru.

Mae'r gwaith hefyd wedi llywio Bil Deddfwriaeth (Cymru) 2018, gwaith Comisiwn Cyfiawnder Cymru, a hefyd ymatebion ffurfiol Tribiwnlys y Gymraeg, yn 2015 a 2017 i ymgynghoriad ar ddiwygio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Mwy o wybodaeth

Dr Catrin Fflur Huws

Adran Academaidd

Adran Y Gyfraith a Throseddeg

Nesaf
Blaenorol