137. Plismona Troseddau Fferm a Chefn Gwlad: Hysbysu Strategaeth yr Heddlu, dyrannu adnoddau a rheoli newid wrth fynd i'r afael â throseddau fferm a gwledig
Dr Wyn Morris

Dr Wyn Morris (chwith), Ysgol Busnes Aberystwyth, a Dr Gareth Norris, Adran Seicoleg, a ddatblygodd yr astudiaeth trosedd gwledig.

Mae ymchwil gan Ysgol Busnes Aberystwyth wedi cael effaith fawr ar adnoddau a phlismona ffermydd, busnesau fferm, cymunedau gwledig ac unigolion o fewn ardal Heddlu Dyfed-Powys.

Roedd diffyg gwelededd yr heddlu, adnoddau a darpariaeth cyfrwng Cymraeg gyfyngedig wedi arwain at deimladau o unigedd a bregusrwydd yn y cymunedau hyn.

Comisiynwyd yr ymchwil gan Heddlu Dyfed-Powys, a rhoddwyd argymhellion ar adnoddau a strategaethau ar waith drwy Strategaeth Troseddau Gwledig 2017-2021 a newidiodd brosesau a gwasanaethau o ganlyniad.

Gwelir canlyniadau allweddol fel gwell ymddiriedaeth, cyfathrebu a pherthnasoedd rhwng cymunedau a'r heddlu.

Newyddion: Lansio arolwg troseddau gwledig cyntaf Cymru gyfan a gynhelir gan Brifysgol Aberystwyth

Mwy o wybodaeth

Dr Wyn Morris

Adran Academaidd

Ysgol Fusnes Aberystwyth

Nesaf
Blaenorol