62. Datblygu cnydau i helpu i atal y broblem gynyddol o ddiabetes yn Affrica
Yr Athro Rattan Yadav

Miled Perlog

Prosiect sy’n cael ei arwain gan wyddonwyr yn Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) i ddatblygu cnydau – yn benodol mathau a hybridiau o miled perlog – a all ffynnu yn Affrica Is-Sahara, gan ddarparu ffynhonnell fwyd wydn a chyfeillgar i ddiabetes ar gyfer poblogaethau lleol.

Mae gan dîm Prifysgol Aberystwyth, dan arweiniad Dr Rattan Yadav, enw da iawn yn y maes hwn, a hwythau newydd gwblhau prosiect tebyg yn India.

Canfuwyd bod miled perlog yn helpu i atal defnyddwyr rhag datblygu diabetes math 2, yn ogystal â helpu dioddefwyr i reoli eu cyflwr.

Mae ganddo gynnwys ffibr uchel gan ei fod yn treulio'n araf, gan helpu i gynnal lefelau siwgr yn y gwaed dros gyfnod cymharol hir o amser.

Cnwd Aberystwyth sy’n gwrthsefyll sychder i helpu ffermwyr Affrica

Mwy o wybodaeth

Yr Athro Rattan Yadav

Adran Academaidd

IBERS

Nesaf
Blaenorol