Cyllid ar gyfer Effaith Ymchwil: Hybu Effaith Ymchwil, Absenoldeb Effaith Ymchwil, Mynediad Agored
Mae'r Gronfa Effaith Ymchwil yn cynnwys tair elfen:
- Hybu Effaith Ymchwil
- Absenoldeb Effaith Ymchwil
- Cyhoeddi Mynediad Agored ar gyfer Sail Ymchwil
Gellir cyflwyno ceisiadau trwy gydol y flwyddyn a dylid eu cyflwyno i ymchwil@aber.ac.uk erbyn y cyntaf o bob mis. Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu’n bennaf ar sail cyrhaeddiad ac arwyddocâd posibl yr effaith a ragwelir gan Grŵp Gorchwyl y Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi, neu ddirprwy dynodedig. I wneud cais am gymorth ar gyfer:
-
ymgysylltu, effaith ac arloesi defnyddiwch Ffurflen gais y Gronfa Effaith Ymchwil. Mae cyllid o hyd at £10,000 y flwyddyn academaidd ar gael i gefnogi gweithgareddau sy'n cyfrannu tuag at effaith ymchwil a gydnabyddir gan y FfRhY. Rydym yn cydnabod bod angen cymorth ar gyfer ystod eang o weithgareddau a gellir gwneud cais am gostau teithio, costau staff (yn unol â polisi presennol y Brifysgol) neu costau sy'n gysylltiedig â chynnal a threfnu gweithdai a digwyddiadau. Fodd bynnag, ni fydd ceisiadau cyffelyb yn cael eu blaenoriaethu. Cysylltwch â'ch Swyddog Effaith Ymchwil a Chyfnewid Gwybodaeth ar ymchwil@aber.ac.uk i drafod eich syniadau cyn gwneud cais gan ei fod yn bosib bod ffynonellau cyllid eraill ar gael sy'n fwy addas. Am gyngor ynglŷn a moeseg effaith ymchwil gweler Moeseg Ymchwil.
-
Absenoldeb Effaith Ymchwil defnyddiwch y Cais am Absenoldeb Effaith Ymchwil. O dan y Cynllun Absenoldeb Effaith Ymchwil gall aelod o staff ymgeisio am gyfnod o absenoldeb hyd at chwe mis i ganolbwyntio ar gynhyrchu effaith yn deillio o’u hymchwil. Bydd PA yn darparu’r cyllid ar gyfer gwaith dysgu a chyfrifoldebau gweinyddol yr aelod o staff. Mae pob aelod staff ar gontract ymchwil yn gymwys i ymgeisio ac mae pump lle ar gael ar y cynllun. Dylid cyflwyno ceisiadau o leiaf tri mis cyn dechrau'r semester perthnasol. Am fanylion pellach gweler ei'n polisi Cynllun Absenoldeb Effaith Ymchwil.
- costau cyhoeddi Mynediad Agored i gefnogi effaith bosibl defnyddiwch y Ffurflen Gais Mynediad Agored.
Cronfeydd Allanol
Dylai gweithgareddau effaith ymchwil fod yn rhan o'ch prosiect ymchwil o'r cychwyn a dylent fod yn rhan annatod o unrhyw gais am grant.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'ch Swyddog Datblygu Ymchwil, rdostaff@aber.ac.uk, yn y lle cyntaf. Gall y Swyddog Effaith Ymchwil a Chyfnewid Gwybodaeth hefyd ddarparu menbwn.
Mae cyfleoedd hefyd i wneud cais am gyllid dilynol i gefnogi gwaith effaith ymchwil, er bod y cronfeydd hyn fel rheol yn targedu gweithgareddau sy'n ymdrin â'r cyhoedd. Rydym wedi rhestru rhai o'r cronfeydd isod.