Gwireddu Effaith Ymchwil

Yn yr adran hon rydym wedi cynnwys enghreifftiau o'r astudiaethau achos uchaf eu sgôr o FfRhY 2014 a FfRhY 2021 ac yn cynnig rhai awgrymiadau am sut i fynd ati i lunio astudiaeth achos cryf. Rydym hefyd wedi ffocysu ar un o'r ffyrdd mwyaf allweddol o wireddu effaith ymchwil - ymgysylltu â’r cyhoedd.

Effaith a'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (FfRhY)

Mae'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (FfRhY) yn hollbwysig i sector Addysg Uwch y DU, gydag un sy newydd gymryd lle yn 2021. Bydd 'Ymgysylltu ac Effaith' yn ffurfio 25% o bob cyflwyniad Uned Asesu ar gyfer FfRhY 2029. 

Nod polisi cyffredin y cyrff cyllido ar gyfer asesu ymchwil yw sicrhau bod sylfaen ymchwil ddeinamig ac ymatebol o'r radd flaenaf yn parhau ar draws y sbectrwm academaidd yn y DU. Disgwyliwn y bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy amcanion craidd y Fframwaith:

  • Darparu atebolrwydd am fuddsoddiad cyhoeddus mewn ymchwil a cynhyrchu tystiolaeth o fanteision y buddsoddiad hwnnw
  • Darparu gwybodaeth feincnodi a sefydlu ffyn mesur enw da, i'w defnyddio yn y sector Addysg Uwch ac er gwybodaeth i'r cyhoedd
  • Llywio dosbarthiad y cyllid ar gyfer ymchwil

Caiff sefydliadau Addysg Uwch eu hasesu ar draws tri maen prawf allweddol: cyfraniad at wybodaeth a dealltwriaeth, ymgysylltu ac effaith a phobl, diwylliant a’r amgylchedd, gwerth 50%, 25% a 25% o’r proffil cyffredinol yn y drefn honno ar gyfer FfRhY 2029.

Asesu Effaith Ymchwil

Asesir 'Ymgysylltu ac Effaith' gan y FfRhY o ran trylwyredd, ‘cyrhaeddiad’ ac ‘arwyddocâd’:

  • Cyrhaeddiad pa mor eang y teimlwyd yr effaith ymchwil
  • Arwyddocâd - i ba raddau mae'r effaith ymchwil wedi galluogi, cyfoethogi, dylanwadu neu newid perfformiad, polisïau, arferion, gwasanaethau, dealltwriaeth, ymwybyddiaeth neu les y buddiolwyr - hynny yw, faint o wahaniaeth a wnaed i'r buddiolwyr

Mae'r is-baneli yn asesu 'cyrhaeddiad' ac 'arwyddocâd' effeithiau ar yr economi, ar gymdeithas, diwylliant, polisi neu gwasanaethau cyhoeddus, iechyd, yr amgylchedd neu ansawdd bywyd a ategwyd gan ymchwil ardderchog a gyflwynwyd gan yr uned asesu.

Roedd yr astudiaethau achos uchaf eu sgôr yn FfRhY 2014 ac yn FfRhY 2021 i gyd wedi darparu enghreifftiau o dystiolaeth gref i brofi cyrhaeddiad ac arwyddocâd eu heffaith ymchwil.  

Mae cyrhaeddiad yn llawer haws i'w brofi nag arwyddocâd, yn enwedig pan ddaw'n fater o hawlio effeithiau o ymgysylltu â'r cyhoedd.

Meini Prawf Sgorio Effaith Ymchwil y FfRhY

Defnyddwyd y raddfa isod ar gyfe FfRhY 2014 a FfRhY 2021. Disgwyliwn y canllawiau ar gyflwyniadau FfRhY 2029. 

Gradd

Disgrifiad

Pedair Seren Effeithiau rhagorol o ran eu cyrhaeddiad a'u harwyddocâd
Tair Seren Effeithiau sylweddol iawn o ran eu cyrhaeddiad a'u harwyddocâd
Dwy Seren Effeithiau sylweddol o ran eu cyrhaeddiad a'u harwyddocâd
Un Seren Effeithiau cydnabyddedig ond cymedrol o ran eu cyrhaeddiad a'u harwyddocâd
Anosbarthiedig Unai fawr ddim cyrhaeddiad nac arwyddocâd; neu nad oedd yr effaith yn gymwys; neu nad oedd yr effaith wedi ei selio ar ymchwil ardderchog a gynhyrchwyd gan yr uned a gyflwynwyd

Astudiaethau Achos Effaith FfRhY

Mae astudiaethau achos FfRhY 2014 a FfRhY 2021 ar gael ar gael mewn cronfeydd ddata ar-lein:

  • Cronfa ddata astudiaethau achos effaith FfRhY 2021
  • Cronfa ddata astudiaethau achos effaith FfRhY 2014

Mae bron i holl astudiaethau achos FfRhY 2014 a FfRhY 2021 ar gael ar y bas data (heblaw y rhai hynny 'nad oedd i'w cyhoeddi'). Mae rhai o'r astudiaethau achos hefyd wedi'u golygu oherwydd cyfrinachedd. 

Gallwch hefyd edrych ar astudiaethau achos FfRhY y Brifysgol.

Astudiaethau Achos Effaith Ymchwil 4*

Rydym wedi cynnwys rhai dolenni i astudiaethau achos effaith 4* o FfRhY 2014 a FfRhY 2021 isod.

Gallwch hefyd ofyn i’n Swyddogion Effaith Ymchwil a Chyfnewid Gwybodaeth, ymchwil@aber.ac.uk, am ragor o enghreifftiau o astudiaethau achos â sgôr isel a sgôr uchel o FfRhY 2021 a FfRhY 2014.

Gwersi o FfRhY 2014 a FfRhY 2021

  • Mae effaith yn mynd y tu hwnt i ledaenu a / neu ymgysylltu â'r cyhoedd
  • Nid oedd effaith dda yn cyfateb i astudiaeth achos dda: roedd astudiaeth achos effaith dda angen naratif clir a chysylltiadau clir rhwng y sail ymchwil a’r effaith a honnwyd
  • Cyfleu defnyddwyr a buddiolwyr yn glir
  • Defnyddio’r iaith o ganllawiau’r FRhY i’w gwneud yn haws i ddarllen ac asesu astudiaethau achos effaith unigol
  • Mae angen ymdrech sylweddol i gwblhau astudiaeth achos effaith

Mae astudiaethau achos effaith gref yn darparu:

  • Tystiolaeth bendant o'r honiadau a wnaed o ran cyrhaeddiad ac arwyddocâd, gan gynnwys pwy gafodd fudd a sut
  • Tystiolaeth o allbynnau ymchwil a data cadarn sy’n adlewyrchu’n benodol y berthynas rhwng y broses ymchwil, y canfyddiad neu’r cynnyrch a’r effaith a gyflawnwyd yn y parth cyhoeddus
  • Naratifau clir a chymhellol yn cysylltu'r rhaglen ymchwil â'r effaith a honnir
  • Tystiolaeth wiriadwy (ansoddol neu feintiol) i gefnogi'r effaith honedig (ac, os oedd ymchwil nifer o sefydliadau wedi cyfrannu at yr un effaith, yna tystiolaeth o gyfraniad y sefydliad a gyflwynodd yr achos astudiaeth effaith); a (lle bo'n briodol) lledaeniad yr effaith y tu hwnt i'r buddiolwyr uniongyrchol i gynulleidfa lawer ehangach ac o bosibl yn fyd-eang
  • Buddiolwyr yr ymchwil wedi’u nodi’n glir, gan gynnig tystiolaeth gadarn o gyrhaeddiad a/neu arwyddocâd i gefnogi’r naratif, a thrafodaeth ar gyd-destun ehangach yr ymgysylltu.
  • Mae astudiaeth achos effaaith ymchwil sy'n sgorio'n dda, yn seiliedig ar effaith ymchwil gref, sydd wedi ei chynllunio a'i thystiolaethu. Disgrifir hyn yn fwy manwl ym mlog "How to turn a 3* impact case study into 4*" gan Bella Reichard

Sylwer: Nid oedd astudiaethau achos gwanach bob amser yn dangos yn effeithiol y cysylltiad rhwng yr ymchwil sylfaenol a’r buddion a hawliwyd ac fe’u graddiwyd yn unol â hynny (rhai heb eu dosbarthu lle na ellid canfod unrhyw gysylltiad perthnasol). Roedd gwybodaeth amwys yn ‘gadael i'r asesydd nodi'r effaith a oedd yn gymwys, a oedd yn risg i'r sefydliad a’i gyflwynodd gan y gallai'r wybodaeth gael ei chamddehongli'.