Beth yw Effaith Ymchwil?

Mae dau ddiffiniad allweddol o effaith ymchwil. 

Diffinio effaith ymchwil ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (FfRhY) - 'Effaith ar yr economi, ar gymdeithas, diwylliant, polisi neu gwasanaethau cyhoeddus, iechyd, yr amgylchedd neu ansawdd bywyd, y tu hwnt i'r byd academaidd'

Diffiniad UKRI o effaith ymchwil - 'Y cyfraniad amlwg y mae ymchwil ardderchog yn ei wneud i gymdeithas a'r economi'

Mae effaith ymchwil (yn wahanol i'r broses o gyfnewid gwybodaeth neu'r broses o ymgysylltu a'r cyhoedd) bob tro yn arwain at rhyw fath o newid (yn y byd tu hwnt i academia). 

Am ragor o ddiffiniadau gallwch ddod ar eu traws, gwelir ein Terminoleg Effaith Ymchwil.

Enghreifftiau o Effaith Ymchwil

Mae enghreifftiau o effaith ymchwil yn cynnwys: 

  • Gwella ansawdd bywyd, iechyd a lles pobl ac anifeiliaid 
  • Gwella gallu creadigiol a bywyd diwylliannol 
  • Cyfrannu tuag at lunio polisi ar sail tystiolaeth a dylanwadu ar bolisïau a deddfwriaeth cyhoeddus yn lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol
  • Gwella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth y cyhoedd 
  • Llunio a gwella effeithiolrwydd gwasanaethau cyhoeddus
  • Gwella lles cymdeithasol, cydlyniad cymdeithasol a / neu diogelwch cenedlaethol
  • Newid diwylliant ac arferion sefydliadol
  • Cyfrannu tuag at gynaliadwyedd amgylcheddol
  • Gwella sgiliau busnesau a sefydliadau

Cyfnewid Gwybodaeth

Mae cyfnewid gwybodaeth (CG) yn broses lle datblygir perthnasoedd cydweithredol sydd wedi'u hadeiladu ar greu gwerth, cyfnewid neu gyd-greu gwybodaeth sydd o fudd i'r ddwy ochr. Mae'r Concordat Cyfnewid Gwybodaeth (CCG) yn manylu ar yr egwyddorion a'r fframwaith y mae CG yn perthyn iddynt. I’r CCG mae CG yn “ymdrech gydweithredol, greadigol sy’n troi gwybodaeth ac ymchwil yn effaith yn y gymdeithas a’r economi.” Mae CG yn broses lle gellir gwireddu newid neu effaith ymchwil.

Ymgysylltu â'r Cyhoedd

"Mae ymgysylltu â’r cyhoedd yn disgrifio'r llu o ffyrdd y gellir rhannu gweithgarwch a manteision addysg uwch ac ymchwil â'r cyhoedd. Mae ymgysylltu yn broses ddiffiniol, sy'n cynnwys rhyngweithio a gwrando, gyda'r nod o greu budd i'r ddwy ochr", NCCPE.

Gellir ystyried ymgysylltu â'r cyhoedd fel rhan o gyfnewid gwybodaeth. Gall hyn hefyd gynnig dulliau pwysig o sicrhau effaith, gan wneud eich ymchwil yn fwy amlwg mewn ffyrdd sy'n golygu ei bod yn fwy tebygol o wneud gwahaniaeth i fywydau bob dydd.

Mae Cynghorau Ymchwil y DU yn glir ynghylch gwerth y rhan y gall chwarae fel llwybr i greu effaith.

Mae'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (FfRhY) hefyd yn annog ymchwilwyr i gyflwyno astudiaethau achos effaith sy'n cynnwys ymgysylltu â'r cyhoedd. 'Roedd canran sylweddol o astudiaethau achos effaith a gyflwynwyd i FfRhY 2014 a FfRhY 2021 yn cynnwys rhyw fath o ymgysylltiad â'r cyhoedd. Bydd 'Ymgysylltu ac Effaith' yn elfen fwy o FfRhY 2029. 

Mathau o Ymgysylltu:

• Estyn allan
• Gwyddoniaeth Dinasyddion
• Celfyddydau Cyfranogol
• Ymgysylltiad Cymunedol
• Ymgysylltu â Phartneriaid
• Dysgu yn y Gymuned
• A llawer, llawer mwy….