Pam fod Effaith Ymchwil yn bwysig?

Mae ‘impact’ neu 'effaith ymchwil' erbyn hyn yn rhan annatod o dirlun ymchwil y DU.

Mae diffiniad ‘effaith ymchwil’ yn gallu amrywio yn ôl y sawl sy'n defnyddio'r ymadrodd - o feithrin cyswllt â chymunedau o ddefnyddwyr, i newid ymddygiad pobl. Ond does dim modd gwadu bod disgwyl inni, fel ymchwilwyr, wneud mwy na dim ond sicrhau bod ein hymchwil ar gael (drwy ei gyhoeddi neu drwy ffyrdd eraill). Yn hytrach, lle y bo'n briodol, mae disgwyl inni gydweithio â phobl a sefydliadau eraill sy'n defnyddio ymchwil - ac weithiau mae ein cyllidwyr yn mynnu hynny.

Yn benodol, mae'r ddwy brif ffynhonnell o gyllid cyhoeddus i'n gwaith ymchwil, sef y Cynghorau Cyllido (drwy'r FfRhY) a'r Cynghorau Ymchwil, ill dau yn mynnu bod gweithgareddau effaith ymchwil yn cael eu gwneud. Mae'r ymrwymiad i sicrhau bod meithrin cyswllt â'r cyhoedd yn cael ei ymgorffori yng ngwaith prifysgolion hefyd wedi'i ddatgan yn y Concordat i Feithrin Cyswllt ag Ymchwil ymhlith y Cyhoedd, sef cytundeb a lofnodwyd gan bob un o Gynghorau Ymchwil y DU. Yn y bôn, ym marn ein prif gyllidwyr, mae effaith ymchwil yn rhan annatod o waith ymchwil

Mae egwyddor syml iawn yn sylfaen i'r safbwynt hwn, sef os yw ymchwil a wneir drwy arian cyhoeddus yn gallu bod o fudd i'r gymdeithas, bywyd diwylliannol neu'r economi, mae'n ddyletswydd ar yr ymchwilydd hwyluso hynny.

At hynny, mae ymchwil sy'n creu effaith yn cyfrannu at greu gwell dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o waith prifysgolion ac yn fodd o wneud gwaith ymchwil yn fwy perthnasol ac o gryfhau atebolrwydd.

I rai ymchwilwyr ym Mhrydain, nid yw effaith ymchwil yn fwy na chyfrwng i gael cyllid er mwyn gwneud ymchwil, neu'n fodd o gael sgôr uchel yn y FfRhY a thrwy hynny gael gwell proffil i ymchwil eu prifysgol. Ond i eraill, mae'n llawer mwy na hynny: sef bod gan ymchwilwyr ddyletswydd i ddefnyddio canlyniadau eu hymchwil er mwyn gwella'r gymdeithas.

Barn Prifysgol Aberystwyth yw bod ein hymchwil yn gallu gwneud gwahaniaeth pwysig. Mae hanes y Brifysgol wedi'i ymwreiddio'n ddwfn yn y gymuned ac mae'n elwa ar gefnogaeth y gymuned, ac mae hynny'n arwain at ethos sefydliadol sy'n canolbwyntio ar gyfrifoldeb cymunedol a chydlyniant cymdeithasol. Un o’n prif amcanion fel sefydliad yw dal ati i ganolbwyntio ar heriau cyfoes drwy ein gwaith ymchwil, gan gyfrannu at y ddadl gyhoeddus yng Nghymru, Prydain a'r byd ehangach.

Rydym wedi datblygu ein Pecyn Cymorth ar Effaith Ymchwil, gan obeithio y bydd yn gallu rhoi cymorth i ymchwilwyr y Brifysgol wrth iddynt ddatblygu eu hagenda ar effaith ymchwil a'u helpu i feddwl am effaith ymchwil mewn ffyrdd newydd. Gobeithio y cewch yr adrannau isod o'r pecyn cymorth yn ddefnyddiol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni: ymchwil@aber.ac.uk.