Cefnogaeth ar gyfer Effaith Ymchwil

Ein nod yw darparu cymorth a gwobrwyo staff sydd wedi cymryd rhan yn gyson mewn cefnogaeth a gwobrwyo staff sydd wedi cymryd rhan yn gyson mewn gweithgareddau ymgysylltu, effaith ac arloesi, tra'n darparu cyfleoedd newydd i'r rhai a allai fod wedi'u cyfyngu rhag gwneud hynny yn y gorffennol.

Gyda'r pwyslais cynyddol gan Gynghorau Ymchwil a Chyllido'r DU ar drosi ymchwil i effaith ac arloesi, mae Aberystwyth yn awyddus i alluogi cymaint â phosib o'n hymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol i gyflawni ei botensial effaith. Fel rhan o ymrwymiad y Brifysgol i fuddsoddi mewn effaith ac arloesi, ceir nifer o fentrau newydd i gael gwared o rwystrau a allai atal effaith ein hymchwil.

Amser

Gall gweithgareddau effaith neu arloesi ymchwil weithiau gymryd llawer iawn o amser, ond (heblaw yn achos rhai grantiau allanol) prin eu bod wedi'u hariannu'n uniongyrchol. Gall hyn olygu fod effaith ymchwil neu arloesi yn derbyn blaenoriaeth isel o gymharu â meysydd eraill. Bydd PA yn mynd i'r afael â hyn drwy dyrannu amser yn y WAMM a chreu cofnod penodol ar gyfer gweithgareddau effaith. Mae'r WAMM wedi ei atal ar gyfer blwyddyn calendr 2023 er mwyn gwella ei ymarferoldeb. 

Cymorth Gweinyddol

Mae Swyddogion Effaith Ymchwil a Chyfnewid Gwybodaeth yn darparu cyngor disgyblaeth-benodol, cymorth wrth ymgymryd â gweithgareddau ymgysylltu ac effaith a chymorth wrth ysgrifennu astudiaethau achos ar gyfer y REF.

Mae cyflwyno tystiolaeth ar gyfer effaith ymchwil yn hanfodol, yn enwedig ar gyfer yr FfRhY, ond gall weithiau fod yn broses hir sy'n cymryd llawer iawn o amser. Rydym hefyd yn cynnig cymorth arbenigol ac yn goruchwylio casglu data (e.e. ar PURE) yn ogystal ag archwilio cyfleoedd ymchwil trwy gasglu tystiolaeth effaith.

Mae PURE yn caniatáu staff i gasglu gweithgarwch ymchwil cyfredol gan gynnwys allbynnau ymchwil, gweithgareddau ac effeithiau ar un system ddiogel. Mae PURE hefyd yn bwydo data i mewn i Borth Ymchwil PA. Mae Porth Ymchwil Aberystwyth yn gwneud y gorau o ymchwil staff ac ôl-raddedigion Prifysgol Aberystwyth sydd ar gael yn agored ar-lein, yn rhad ac am ddim. Yn y porth cynhwysir allbynnau cyhoeddedig, traethodau ôl-raddedig, manylion y prosiect, yn ogystal â chofnodion o weithgareddau parch eraill. Gall pob aelod o staff academaidd ymchwil fewngofnodi i'r system gyda'u manylion mewngofnodi PA. Cysylltwch â'r Swyddog Data Mynediad Agored ac Ymchwil, pure@aber.ac.uk, os oes unrhyw broblem.

Hyfforddiant

Mae'r Brifysgol yn cydnabod ei fod yn hollbwysig darparu hyfforddiant i staff ar bob agwedd o effaith ymchwil. 

Dyrannwyd cyllid i ddarparu cyfleoedd i staff academaidd gael eu hyfforddi gan arbenigwyr allanol. Ategir hyn gan hyfforddiant 'mewnol' a gynnigir gan ein Swyddogion Effaith Ymchwil a Chyfnewid Gwybodaeth a gan aelodau eraill o staff sydd eisoes wedi cael llwyddiant yn gwireddu effaith ac sy'n gallu trosglwyddo arfer gorau.

Mae'r Swyddogion Effaith Ymchwil a Chyfnewid Gwybodaeth hefyd yn derbyn hyfforddiant parhaus er mwyn gwneud yn siwr eu bod yn rhoi'r cyngor gorau. Mae'r hyfforddiant yn amrywio o sesiynau arfer gorau ar draws y sector, sesiynau ‘Hyfforddi'r Hyfforddwr’ a sesiynau dan arweiniad Senedd y DU / Llywodraeth Cymru. Mae'r hyfforddiant yma wedyn yn eu galluogi i gynnig cyflwyniadau a gweithdai effeithiol, cymorthfeydd un-i-un ac i godi ymwybyddiaeth o effaith ymchwil ledled yr Adrannau. Cysylltwch ag unrhyw anghenion hyfforddi penodol.

Gwobrwyo a Chydnabyddiaeth

Mae'r Brifysgol yn annog gweithgareddau effaith ymchwil wrth wobrwyo a chydnabod llwyddiant:

Hyrwyddo effaith ymchwil ar dudalennau gwe a chyhoeddiadau eraill y Brifysgol - Bydd llwyddiant yn y maes effaith ymchwil yn cael ei hyrwyddo ar wefan y Brifysgol ac mewn deunydd cyhoeddedig a chyhoeddusrwydd.

Gwobr Prifysgol Aberystwyth am Effaith Ymchwil Rhagorol - Mae'r wobr hon yn cydnabod newid neu fudd pwysig i'r gymdeithas sydd wedi deillio o ymchwil y Brifysgol.

Mae dwy wobr ar gael; un sy'n cydnabod effaith ymchwil rhagorol yn y Gwyddorau a'r llall yn y Gwyddorau Cymdeithasol, y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Bydd yr enillwyr yn derbyn £500 ar gyfer cefnogi gweithgareddau effaith ymchwil newydd. Gellir enwebu unigolyn neu grŵp ac mae'r wobr yn agored i holl staff academaidd y Brifysgol (beth bynnag math eu cytundeb). Gall unigolion hunan-enwebu neu gael eu henwebu gan gydweithwyr. Mae manylion y dyddiad cau fel rheol yn cael ei gyfleu drwy ebost. 

Ystyrir y ceisiadau yn nhermau cyrhaeddiad yr effaith ymchwil, a'i arwyddocâd i'r buddiolwyr. Mae'r ffurflen gais ar gael yma.

Gwobr Prifysgol Aberystwyth am Effaith Ymchwil Rhagorol

 

2021 Gwobr am Effaith Ymchwil Eithriadol 

Trawsnewid yr Ymateb i Drais a Cham-drin Domestig (DVA) yn ddiweddarach mewn bywyd trwy Fenter Dewis Choice: Dr Sarah Wydall, Adran Y Gyfraith a Throseddeg

 

Lleihau'r ddibyniaeth ar borthiant protein wedi'i fewnforio o fewn cadwyn gyflenwi anifeiliaid cnoi cil: Dr Christina Marley, IBERS

 

2020 Gwobr am Effaith Ymchwil Eithriadol 

‘CSI’ Canoloesol - cyfraniad seliau canoloesol i ymchwil wyddonol ac arferion treftadaeth: Dr Elizabeth New, Adran Hanes a Hanes Cymru

 

Defnyddio teleiechyd i gefnogi anghenion seicogymdeithasol cleifion gofal lliniarol a chleifion canser: Dr Rachel Rahman, Adran Seicoleg

 

2019 Gwobr am Effaith Ymchwil Eithriadol 

Cydweithredu ar achosion torfol o salwch: Yr Athro Colin McInnes, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol

 

Rheoli pysgodfeydd yn gynaladwy: Yr Athro Paul Shaw, Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig

 

2018 Gwobr am Effaith Ymchwil Eithriadol

Dronau a Malaria: Dr Andy Hardy, Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear

 

Adfywio Ieithoedd Lleiafrifol: Dr Catrin Wyn Edwards, Dr Huw Lewis a Dr Elin Royles, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol