Moeseg Effaith Ymchwil

Dylid ystyried gofynion moesol gweithgareddau ymchwil cyn cychwyn ar unrhyw brosiect ymchwil. Trafodir y rhain mewn mwy o fanylder ar ein tudalennau Moeseg Ymchwil Uniondeb Gwaith Ymchwil.

Effaith Ymchwil

Efallai bod yr effaith wedi'i chynllunio fel rhan o'r prosiect ymchwil. Fodd bynnag, gallai fod gweithgareddau ychwanegol (e.e. ymgysylltu â'r cyhoedd) yn ogystal â'r gwaith ymchwil neu effaith serendipitous, na fyddent efallai wedi cael eu hystyried ar ddechrau'r prosiect ymchwil. Dylai'r un egwyddorion sy'n rheoli ein hymchwil hefyd reoli'r effaith sy'n deillio ohoni, sef:

  • Parch at hawliau, diogelwch a lles yr holl gyfranogwyr ac anifeiliaid dynol
  • Parchu diwylliannau, gwerthoedd, traddodiadau a'r amgylchedd o'n cwmpas
  • Gonestrwydd, uniondeb a phroffesiynoldeb bob amser

Mae rhagor o wybodaeth ar gyfer Moeseg Ymchwil ar gael ar-lein yn a chynhelir sesiynau hyfforddi yn pob tymor.

Gofynnwch i chi'ch hun, pam mae'r ymchwil yn cael ei gynnal? Pwy fydd yn elwa a sut? A oes effeithiau cadarnhaol yn ogystal ag effeithiau negyddol yn deillio o’r ymchwil?

Er mwyn ystyried moeseg effaith ymchwil, yna dylem atgoffa ein hunain o ddiffiniad Research England: “Effaith ar, newid neu fudd i'r economi, cymdeithas, diwylliant, polisi cyhoeddus neu gwasanaethau, iechyd, yr amgylchedd neu ansawdd bywyd y tu hwnt i'r byd academaidd. ”(h.y. ag eithrio effaithiau academaidd). Gall hyn gynnwys lleihau neu atal niwed, risg, cost neu effeithiau negyddol eraill.

Hefyd, diffiniad mwy cyffredinol y UKRI: “Y cyfraniad amlwg y mae ymchwil ardderchog yn ei wneud i gymdeithas a'r economi.”(h.y. gan gynnwys effaithiau academaidd).

Nid oes rhaid i'r holl effaith dda a gwerth chweil fod ar gyfer y FfRhY. Roedd effaith yn bodoli cyn y  FfRhY ac nid yw'n unigryw i'r DU.

Gallai effaith hyd yn oed fod yn gleddyf deublyg na allwch ei lwyr reoli. Gallai'r ymchwil arwain at effeithiau cadarnhaol a negyddol. A fyddai'r effeithiau cadarnhaol yn gorbwyso'r effeithiau negyddol yn y tymor hir? Ceir blog (LSE) diddorol am hyn.

Ceir Astudiaethau Achos Effaith ar gyfer FfRhY 2021 ar gronfa ddata ar-lein. Gall yr Astudiaeth Achos a gyflwynwyd gynnwys gwybodaeth gyfrinachol y gellir ei golygu. Ni ddylai unrhyw fuddiolwyr gael cam os caiff gwybodaeth sensitif ei rhyddhau oherwydd yr FfRhY. Yn ddelfrydol, dylwn adeiladu perthynas hirdymor gyda'r buddiolwyr hyn er eu budd hwy yn ogystal â budd PA. Dylid cynnwys rhanddeiliaid a phartneriaid yn y broses os yn bosibl a gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Cofiwch, os yw gweithgareddau effaith yn ychwanegol i’r cynllun ymchwil, yn hytrach na chael eu hintegreiddio ynddo, yna efallai y bydd angen cymeradwyaeth foesegol ar wahân arnoch.

Materion RhDDC

Ym mis Mai 2018, rhoddodd y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (RhDDC) a'r Ddeddf Diogelu Data ddilynol (2018) fwy o reolaeth i unigolion dros eu data personol (y mae ganddynt hawl i'w gyrchu, i'w newid neu i'w ddileu ar unrhyw adeg). Rhaid i PA fod â rheswm dilys dros gasglu'r data a bydd yn cadw unrhyw ddata (copi caled neu electronig) yn ddiogel. Rhaid dileu data ar ôl y cyfnod cadw penodedig. Mae cosbau difrifol am beidio â chadw at y rheoliadau hyn. Gweler ein tudalennau Cydymffurfiaeth Gwybodaeth am ragor o wybodaeth.

O ran yr FfRhY, gall data personol o'r fath gynnwys llythyrau tysteb, arolygon a holiaduron adborth, recordiadau a thrawsgrifiadau o gyfweliadau. Er y byddai'r sail gyfreithiol ar gyfer casglu data fel rhan o'r prosiect ymchwil fwy na thebyg yn ‘dasg er budd y cyhoedd’, mae'n annhebygol y byddai casglu data i werthuso neu gadarnhau effaith yn ymchwil ei hun. Felly byddai'n rhaid i'r sail gyfreithiol fod yn seiliedig yn bennaf ar eu ‘caniatâd’. Dylid cyfeirio unrhyw un sy'n darparu gwybodaeth sy'n cynnwys data personol at yr Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Ymatebwyr Arolwg Ymgysylltu â'r Cyhoedd ac at Ddarparwyr Tystebau. Yr uchafswm amser i gadw data o'r fath fyddai un cylch FfRhY ynghyd ag un flwyddyn (h.y. wyth mlynedd), yn ddelfrydol ar y system ddiogel PURE. Fel arall, byddai'n rhaid i unrhyw gofnodion electronig cael eu diogelu gan gyfrinair ac unrhyw gopïau caled mewn drôr dan glo mewn ystafell dan glo. Yn y DU, rhaid i unigolyn fod o leiaf tair ar ddeg oed i roi caniatâd ar gyfer defnyddio eu data personol. Felly, ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau ymestyn / cyswllt ysgol / ehangu cyfranogiad, gallem ond casglu data myfyrwyr Blwyddyn 9 a hŷn. Ar gyfer plant sy'n iau na hyn, rhaid i unrhyw ddata a gesglir fod yn gwbl ddienw gyda chaniatâd rhiant / gwarchodwr, ond gellid gofyn i’w hathrawon am dystebau yn lle hyn.

Os ydych chi'n bwriadu cynnal cyfweliadau i werthuso neu gadarnhau effaith ymchwil yna bydd angen i chi ofyn am ganiatâd y cyfwelai. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Fast Track. Unwaith eto, byddai materion RhDDC yn berthnasol i unrhyw recordiadau neu drawsgrifiadau o gyfweliadau o'r fath.

Ceir astudiaethau achos effaith ar gyfer FfRhY 2021 ar lein. Gall astudiaethau achos gynnwys gwybodaeth gyfrinachol y gellir ei olygu. Ni ddylid casglu data personol os nad yw'n berthnasol.

Ymgysylltu â'r Cyhoedd

Mae'r National Co-ordinating Centre for Public Engagement (NCCPE) yn cael ei gydnabod gan y sector Addysg Uwch fel yr arbenigwr blaenllaw yn y maes yma. Maent yn cyflwyno materion cymdeithasol a moesegol y dylid eu hystyried wrth gynllunio gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd.

Gall Ymgysylltu â'r Cyhoedd ymdrin â llu o weithgareddau sydd â'r potensial i greu effaith ymchwil, e.e. Trosglwyddo Gwybodaeth a / neu Ymgynghoriaeth, ymestyn allan, cyswllt ysgolion ac ehangu Cyfranogiad. Gweler y tudalennau PA hyn am ragor o wybodaeth am y gweithgareddau hyn a manylion cyswllt staff sydd ag arbenigedd o weithio yn y meysydd hyn.

Pe defnyddir cyfarfodydd cyhoeddus a siaradwyr allanol gwahoddedig fel llwybr tuag at effaith dylid ystyried ein dyletswyddau Prevent yn ofalus.