Hyfforddiant Ymchwil Uwchraddedig
Manylion am yr Hyfforddiant Ymchwil
Swyddfa Astudiaethau Uwchraddedig: Hyfforddiant Ymchwil
PGM0120: Research Skills and Personal Development
Efallai y bydd yn rhaid i rai myfyrwyr PhD astudio PGM0120 yn rhan o’u gofynion hyfforddiant ymchwil. Mae hwn yn fodiwl uwchraddedig 20 credyd. Bydd y Swyddfa Astudiaethau Uwchraddedig yn rhoi gwybodaeth lawn i fyfyrwyr cofrestredig. http://www.aber.ac.uk/cy/grad-school/
Mae Cymorth i Fyfyrwyr yn cyfrannu at y dysgu a’r asesu ar gyfer y modiwl hwn drwy seminarau datblygu ysgrifennu. Caiff y modiwl ei asesu drwy bynciau ymchwil a chyflwyniadau a phortffolios datblygu ymchwil ac ysgrifennu.
Rhaglen Ysgrifennu Ymchwil
Mae’r Rhaglen Ysgrifennu Ymchwil ar gyfer myfyrwyr Mphil a PhD yn eu hail a’u trydedd flwyddyn sy’n gweithio ar ysgrifennu eu traethawd ymchwil. Caiff y rhaglen ei threfnu gan y Swyddfa Astudiaethau Uwchraddedig a Chymorth i Fyfyrwyr. Mae’n cynnwys staff o amrywiaeth eang o adrannau academaidd yn y brifysgol. Gall hefyd gynnwys darlithwyr gwadd rhyngwladol.
Cynhelir y rhaglen ddwywaith y flwyddyn. Mae Rhaglen 1 yn gwrs preswyl deuddydd a gynhelir yn Neuadd Gregynog, ger y Drenewydd yng nghanolbarth Cymru ddiwedd Ebrill neu ddechrau Mai. http://www.wales.ac.uk/defaultpage.asp?page=E3000
Mae Rhaglen 2 yn gwrs 3 diwrnod a gynhelir ar y campws yn Aberystwyth. Fe’i cynhelir ddiwedd mis Mehefin. Gall rhaglen dau gynnwys darlithwyr ac ymgeiswyr Mphil neu PhD o Aberystwyth sy’n seiliedig mewn rhanbarthau neu wledydd eraill trwy fideo-gynadledda.
I gofrestru ar gyfer y rhaglenni ysgrifennu, mae’n rhaid i ymgeiswyr gael eu henwebu gan eu goruchwylwyr. http://www.aber.ac.uk/en/grad-school/res-skills-training/res-writing/.