Ymgynghoriadau Ysgrifennu’r Gymdeithas Lenyddol Frenhinol
Gwella eich ysgrifennu academaidd
Trefnwch sesiwn â’n Cymrawd Ysgrifennu dan nawdd y Gronfa Lenyddol Frenhinol, Alys Fowler
- Dydd Llun: 09:00 - 16:00
- Dyddiau Mawrth: 09:00 - 16:00
- Trefnwch sesiwn ymgynghori wyneb yn wyneb. Gallwch ofyn am sesiwn ymgynghori ar-lein os mynnwch.
- Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill cysylltwch ag Alys ar: alys.fowler@rlfeducation.org.uk
- Mae’r sesiynau’n para 50 munud ac ar hyn o bryd cânt eu cynnal ar-lein (mis Medi i fis Mai yn unig).
- Sylwch nad yw Cymrawd Ysgrifennu y Gronfa Lenyddol Frenhinol yn prawfddarllen nac yn rhoi hyfforddiant EAP (Saesneg at Ddibenion Academaidd) ac mai dim ond trwy gyfrwng y Saesneg y mae sesiynau ymgynghori ar gael ar hyn o bryd.
- Os byddwch yn trefnu sesiwn ond nad ydych yn gallu bod yn bresennol ar gyfer yr apwyntiad, anfonwch e-bost i ganslo neu aildrefnu’r sesiwn o leiaf 24 awr cyn yr amser penodedig.
Gwasanaeth cyfrinachol am ddim yw hwn i'ch cynorthwyo i wella eich sgiliau ysgrifennu. Mae croeso i fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth, ar unrhyw lefel astudio (o’r flwyddyn gyntaf i ôl-raddedigion), neu staff, drefnu sesiwn.
Mae Cymrawd Ysgrifennu'r Gronfa Lenyddol Frenhinol yn awdur proffesiynol, cyhoeddedig a'i swyddogaeth yw eich cynorthwyo i wella eich sgiliau ysgrifennu.
Bydd y sesiynau ymgynghori hyn yn eich helpu i:
- Gynllunio eich amser astudio
- Canolbwyntio eich gwaith darllen ar gyfer traethawd, traethawd hir neu draethawd ymchwil
- Mynegi eich syniadau'n fwy eglur
- Ateb cwestiynau am ramadeg ac atalnodi
- Darganfod testunau y gallwch eu darllen er mwyn gwella eich sgiliau ysgrifennu a golygu
- Gwella eich sgiliau ysgrifennu â'r nod o wella eich graddau
- Gwella unrhyw ysgrifennu academaidd – traethodau, adroddiadau, traethodau ymchwil, traethodau hir, penodau o lyfrau
Alys Fowler
Nofelydd, Awdur ffeithiol, Newyddiadurwr.
Mae Alys Fowler yn arddwr ac yn newyddiadurwr arobryn sydd wedi ysgrifennu am arddio a’r amgylchedd i’r Guardian ar benwythnosau. Mae’n awdur un ar ddeg o lyfrau, gan gynnwys Hidden Nature, a gyrhaeddodd restr fer gwobr Wainwright yn 2018, a'i gwaith ffuglen cyntaf, The Woman Who Buried Herself, a gyhoeddwyd yn 2021 gan Hazel Press. Cafodd ei gwaith ei gynnwys hefyd yn y flodeugerdd newydd o ysgrifennu am natur, Gifts of Gravity and Light, a gyhoeddwyd yn 2021.
Cafodd hyfforddiant mewn garddwriaeth yng Ngerddi Botaneg Brenhinol Kew a Gerddi Botaneg Efrog Newydd, ac yn sgil ei chariad at blanhigion ac ecoleg y dechreuodd ysgrifennu. Mae hi wedi ysgrifennu ar gyfer nifer o gyhoeddiadau gan gynnwys y National Geographic, yr Observer, y Guardian, Time Out, Gardens Illustrated, Red Magazine a Country Living.
Bu’n dysgu ym maes llenyddiaeth ffeithiol-greadigol ym Mhrifysgol Dinas Birmingham. Mae hi wedi darlithio yn Tate Britain a'r Academi Frenhinol ac wedi cynnal gweithdai ar bopeth o ysgrifennu am ddŵr i sut i adnabod planhigion. Mae hi hefyd yn dysgu ym maes hanes gerddi.
Alys.Fowler@rlfeducation.org.uk